Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Diffiniad: Clefyd ar wartheg a achosir gan y gwiddonyn Psoroptes ovis.
Nodiadau: Mae'r clafr yn glefyd llawer mwy cyffredin ar ddefaid nac ar wartheg, ac mae'n gyffredin gweld 'y clafr' ar ei ben ei hun yn Gymraeg i drosi 'sheep scab'.
Diffiniad: Clefyd ar ddefaid, neu weithiau wartheg, a achosir gan y gwiddonyn Psoroptes ovis.
Nodiadau: Os oes angen bod yn benodol yngylch y rhywogaeth yr effeithir arni gan y clefyd, gellir defnyddio 'clafr y defaid' neu 'clafr y gwartheg'. Gan amlaf bydd y testun Saesneg yn defnyddio 'sheep scab' a 'cattle scab' mewn achosion o'r fath, ond sylwer hefyd ei bod yn gyffredin defnyddio 'y clafr' ar ei ben ei hun yn Gymraeg am 'sheep scab' am fod y clefyd yn llawer mwy cyffredin ar ddefaid nag ar wartheg.
Diffiniad: Clefyd ar ddefaid a achosir gan y gwiddonyn Psoroptes ovis.
Nodiadau: Gall y clafr effeithio ar wartheg hefyd, ond mae'n glefyd llawer iawn mwy cyffredin ar ddefaid nag ar wartheg. Os oes angen gwahaniaethu yn y testun rhwng 'sheep scab' a 'cattle scab', neu os oes angen bod yn benodol am ryw reswm arall, gellir defnyddio 'clafr y defaid' am 'sheep scab'.