Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Cyd-destun: Seinweddau digynnwrf / diddigwydd: dyma'r rhai y mae pobl yn tueddu i’w huniaethu â "distawrwydd" neu, yn fwy cywir, fel "diffyg ffynonellau y gellir eu hadnabod yn eglur”; amgylchedd acwstig sy'n cyfleu teimlad o wacter; os oes ffynonellau sain yn bresennol, dylent fod yn anadnabyddadwy ac ar lefel isel iawn (hy, "Rwy'n clywed rhywbeth, ond ni allaf ddweud beth ydyw...").
Nodiadau: Un o wyth disgrifydd ar gyfer nodweddion canfyddiadol seinweddau, at ddiben gwneud ymchwil i seinweddau'n unol â ISO/TS 12913-2:2018. Pennwyd y disgrifyddion Cymraeg drwy'r Soundscape Attributes Translation Project (SATP), a arweinir gan UCL, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Gosodir y nodweddion canfyddiadol ar fodel cylchbleth, lle mae gan bob nodwedd un sy'n groes iddi, a lle mae perthynas rhwng nodweddion sydd nesaf at ei gilydd. Mae 'uneventful' yn groes i 'eventful', a rhwng 'calm' a 'monotonous'. Lle ceir dau ansoddair Cymraeg, mae'r ddau i'w defnyddio gyda'i gilydd, yn hytrach na defnyddio'r naill neu'r llall. Gweler y maes Cyd-destun am ddisgrifiad safonol o'r nodwedd ar sail deunyddiau'r SATP. Gweler https://tinyurl.com/cylchblethseinwedd am ddyluniad o’r model cylchbleth Saesneg.