Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

3 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Gymraeg A-Y
Cymraeg: dilysiad
Saesneg: authentication
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dilysiadau
Diffiniad: Proses, neu ganlyniad proses, i gadarnhau bod, neu asesu a yw, rhywbeth yn ddilys (yn enwedig yn yr ystyr o fod o darddiad derbyniol neu'n driw i'r hyn a honnir).
Nodiadau: Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau ni fydd yn angenrheidiol gwahaniaethu rhwng 'validation' ac 'authentication' felly gellir defnyddio 'dilysiad' am y ddau. Os oes angen gwahaniaethu rhyngddynt, gellir defnyddio 'gwiriad' (os nad oes angen gwahaniaethu â 'check') neu 'triwhad' am 'authentication'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: dilysiad
Saesneg: validation
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dilysiadau
Diffiniad: Proses, neu ganlyniad proses, i gadarnhau bod, neu asesu a yw, rhywbeth yn ddilys (ee yn cyd-fynd â gofynion cyfreithiol neu swyddogol, neu o darddiad derbyniol neu'n driw i'r hyn a honnir).
Nodiadau: Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau ni fydd yn angenrheidiol gwahaniaethu rhwng 'validation' ac 'authentication' felly gellir defnyddio 'dilysiad' am y ddau. Os oes angen gwahaniaethu rhyngddynt, gellir defnyddio 'gwiriad' (os nad oes angen gwahaniaethu â 'check') neu 'triwhad' am 'authentication'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ebrill 2020
Saesneg: two-factor authentication
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dilysiadau dau ffactor
Diffiniad: Proses ddiogelwch lle bydd defnyddwyr gwasanaethau ar-lein yn defnyddio dau ffactor gwahanol (ee cyfrinair a ffactor biometrig fel ôl bys) er mwyn dilysu eu hunaniaeth.
Nodiadau: Mae'r term 'two-step verification' / 'gwirhad dau gam' yn cyfeirio at broses gyffelyb neu'n enw arall ar yr un broses.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025