Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Nodiadau: Dyma’r acronymau a ddefnyddir yn Gymraeg a Saesneg am “athro/athrawes newydd gymhwyso” / “newly qualified teacher”. Er bod defnydd i’r ffurf luosog “NQTs” yn Saesneg, nid yw’n briodol defnyddio’r ffurf luosog gyfatebol Gymraeg, “ANGau”. Mewn testunau Cymraeg, argymhellir naill ai droi’r frawddeg fel bod modd defnyddio’r ffurf unigol ar yr acronym, “ANG”, neu ddefnyddio’r ffurf luosog lawn ar y term, “athrawon newydd gymhwyso”. Sylwer y gall yr acronym hwn weithredu fel enw benywaidd os mai at ‘athrawes’ y bydd yn cyfeirio’n benodol.