Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Cyd-destun: Rydym yn blaenoriaethu buddsoddiad yn y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gyda £5m ychwanegol yn y portffolio Addysg sy’n adeiladu ar y £10m a oedd wedi ei ymgorffori yn y llinell sylfaen yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Nodiadau: Ymadrodd berfol a ddefnyddir mewn testunau cyllidebol i ddisgrifio swm o arian sydd wedi’i gynnwys yn yr adnoddau craidd a ddarperir ar gyfer maes penodol, ac sydd felly yn debygol o barhau i gael ei ddyrannu yn y blynyddoedd dilynol. Hynny yw, nid yw’n swm a ddarperir am un flwyddyn yn unig. Anghyffredin yw gweld y berfenw Saesneg “to baseline” yn cael ei defnyddio yn yr ystyr hon; fel arfer dim ond fel berf a redwyd y’i gwelir.