Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

9 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Saesneg: adolescence
Cymraeg: llencyndod
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Y broses a’r cyfnod oedran o ddatblygu’n seicolegol, gwybyddol ac ymddygiadol o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Bydd rhai diffiniadau yn cynnwys y datblygiad corfforol hefyd. Gall diffiniadau o’r cyfnod amrywio ond yn gyffredinol bydd hyn yn cychwyn adeg y glasoed (puberty) ac yn para tan ddiwedd yr arddegau neu ddechrau’r ugeiniau.
Nodiadau: Cysonwyd yn 2025 er mwyn gwahaniaethu rhwng puberty (y glasoed) ac adolescence, adolescent (llencyndod, person ifanc). Gall rhai testunau a theitlau hanesyddol fod yn dilyn patrwm gwahanol. Mewn rhai cyd-destunau annhechnegol gall puberty ac adolesence fod yn gyfystyr.
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025
Saesneg: adolescent
Cymraeg: person ifanc
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: pobl ifanc
Diffiniad: Person sydd yn y broses o ddatblygu’n seicolegol, gwybyddol ac ymddygiadol o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Bydd rhai diffiniadau yn cynnwys y datblygiad corfforol hefyd. Gall diffiniadau o’r cyfnod yn amrywio ond yn gyffredinol bydd hyn yn cychwyn adeg y glasoed (puberty) ac yn para tan ddiwedd yr arddegau neu ddechrau’r ugeiniau.
Nodiadau: Cysonwyd yn 2025 er mwyn gwahaniaethu rhwng puberty (y glasoed) ac adolescence, adolescent (llencyndod, person ifanc). Gall rhai testunau a theitlau hanesyddol fod yn dilyn patrwm gwahanol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025
Saesneg: adolescent
Cymraeg: llencynnaidd
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025
Cymraeg: clinig iechyd meddwl pobl ifanc
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: clinigau iechyd meddwl pobl ifanc
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025
Cymraeg: Gwasanaeth Triniaeth ac Ymgynghori Fforensig Pobl Ifanc Cymru Gyfan
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025
Cymraeg: Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson. ;Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson. 
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2025
Cymraeg: gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Nodiadau: Diwygiwyd y term hwn yn 2025 er mwyn gwahaniaethu rhwng puberty (y glasoed) ac adolescence, adolescent (llencyndod, person ifanc).
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Chwefror 2025
Cymraeg: seiciatreg plant a phobl ifanc
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025
Cymraeg: gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025