Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

5 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Saesneg: annul
Cymraeg: annilysu
Statws A
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Peri i is-ddeddfwriaeth a wnaed heb ddilyn gweithdrefn gadarnhau'r Senedd neu weithdrefn gymeradwyo'r Senedd, ac felly a ddaeth i rym yn syth wrth ei gosod, fod yn ddi-rym drwy ddilyn gweithdrefn (gweithdrefn annilysu'r Senedd) a gwblheir o fewn 40 diwrnod i'r adeg y gosodwyd yr is-ddeddfwriaeth gerbron yn Senedd.
Cyd-destun: Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol Cymreig ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
Nodiadau: Dyma hefyd y term Cymraeg a argymhellir ar gyfer trosi 'annul' wrth gyfeirio at ddiddymu deddfwriaeth mewn cyd-destunau eraill (ee mewn seneddau eraill).
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Tachwedd 2024
Cymraeg: diddymu priodas
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Berf
Nodiadau: Serch hynny, sylwer mai 'dirymu' yw 'annulment' yn y rhan fwyaf o gyd-destunau. Defnyddir 'diddymu' yng nghyd-destun priodas er mwyn gwahaniaethu wrth 'dissolution of marriage'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Rhagfyr 2017
Cymraeg: cyfnod dirymu
Statws C
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Rhagfyr 2010
Cymraeg: cynnig i ddirymu
Statws C
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cynigion i ddirymu
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Tachwedd 2022
Cymraeg: gweithdrefn annilysu'r Senedd
Statws A
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diffiniad: Gweithdrefn yn Senedd Cymru ar gyfer gwneud deddfwriaeth. Drwy'r weithdrefn hon daw'r ddeddfwriaeth ddrafft yn gyfraith wrth gael ei gwneud, ond gall gael ei hannilysu - a cholli ei grym - drwy bleidlais yn y Senedd hyd at 40 diwrnod ar ôl iddi gael ei gwneud.
Cyd-destun: Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “weithdrefn annilysu'r Senedd”.
Nodiadau: Un o dair prif weithdrefn arfaethedig Senedd Cymru ar gyfer gwneud deddfwriaeth. Y ddwy arall yw gweithdrefn gadarnhau'r Senedd a gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Tachwedd 2024