Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

8 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Saesneg: attorney
Cymraeg: cyfreithiwr
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cyfreithwyr
Diffiniad: Gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith sy'n gymwys i gynghori cleientiaid ac i’w cynrychioli mewn materion cyfreithiol, fel arfer o fewn awdurdodaeth benodol.
Nodiadau: Mae'n dra anghyffredin i'r ffurf Saesneg 'attorney' gael ei defnyddio yn yr ystyr hon o fewn awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr. Llawer mwy cyffredin yw'r term cyfystyr 'solicitor'. Mewn rhai rhannau o Gymru, defnyddir 'twrnai' fel ffurf amgen (a llafar, yn aml) i 'cyfreithiwr'. Cymharer ag attorney / atwrnai.
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Rhagfyr 2025
Saesneg: attorney
Cymraeg: atwrnai
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: atwrneiod
Diffiniad: Person sydd wedi’i awdurdodi’n gyfreithiol i weithredu ar ran unigolyn arall mewn materion ariannol, cyfreithiol neu bersonol o dan drefniant atwrneiaeth (power of attorney).
Nodiadau: Cymharer ag attorney / twrnai.
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Rhagfyr 2025
Cymraeg: Twrnai Cyffredinol
Statws A
Pwnc: Personél
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: San Steffan
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mehefin 2003
Cymraeg: Siambrau'r Twrnai Cyffredinol
Statws B
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2012
Cymraeg: atwrneiaeth barhaus
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: atwrneiaethau parhaus
Diffiniad: Dogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun reoli materion ariannol ar ran rhywun arall os bydd y person hwnnw yn colli galluedd meddyliol.
Nodiadau: Defnyddir yr acronym EPA yn y ddwy iaith. Ni cheir creu atwrneiaeth barhaus ar ôl mis Hydref 2007, er bod atwrneiaethau parhaus a wnaed cyn hynny yn dal mewn grym. Disodlwyd yr atwrneiaeth barhaus gan yr atwrneiaeth arhosol (lasting power of attorney).
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Rhagfyr 2025
Cymraeg: atwrneiaeth arhosol
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: atwrneiaethau arhosol
Diffiniad: Dogfen gyfreithiol sy’n rhoi’r hawl i rywun wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall am ei iechyd, ei les neu ei faterion ariannol os na all wneud hynny ei hun.
Nodiadau: Defnyddir yr acronym LPA yn y ddwy iaith
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Rhagfyr 2025
Cymraeg: atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a llesiant
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: atwrneiaethau arhosol ar gyfer iechyd a llesiant
Diffiniad: Dogfen gyfreithiol sy’n rhoi’r hawl i rywun wneud penderfyniadau ar ran am ei iechyd neu ei les os na all wneud hynny ei hun.
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Rhagfyr 2025
Cymraeg: atwrneiaeth
Statws B
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2007