Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

23 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Saesneg: ballot
Cymraeg: pleidlais
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: pleidleisiau
Diffiniad: An instance of voting, usually in secret using ballot papers or a voting machine.
Nodiadau: Fel arfer, ond nid bob tro, bydd ‘ballot’ yn bleidlais gyfrinachol. Argymhellir defnyddio’r term ‘pleidlais gudd’ i gyfleu hynny.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2016
Saesneg: ballot
Cymraeg: papur pleidleisio
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diffiniad: Y darn papur a ddefnyddir i gofnodi pleidlais.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2003
Saesneg: ballot
Cymraeg: y bleidlais
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diffiniad: Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd mewn etholiad ee "he won by 54% of the ballot".
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2003
Saesneg: ballot
Cymraeg: balot
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: balotau
Diffiniad: System o ddethol enw etc sy’n seiliedig ar roi yr holl enwau perthnasol mewn blwch, bag etc, a thynnu un enw allan ar hap.
Nodiadau: Cymharer â ballot=pleidlais , ballot=papur pleidleisio a ballot=y bleidlais.
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Gorffennaf 2024
Saesneg: ballot box
Cymraeg: blwch pleidleisio
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blychau pleidleisio
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Awst 2023
Saesneg: ballot holder
Cymraeg: trefnydd pleidleisio
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: yr un sy'n trefnu'r bleidlais ar gyfer sefydlu AGB
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Rhagfyr 2004
Saesneg: ballot paper
Cymraeg: papur pleidleisio
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio
Diffiniad: Y ddogfen a ddefnyddir i fwrw pleidlais mewn etholiad. Gall fod yn bapur pleidleisio drwy'r post neu'n bapur a ddefnyddir mewn gorsaf bleidleisio.
Cyd-destun: Pleidleisiwch unwaith yn unig ar y papur pleidleisio. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: cyfriflen papurau pleidleisio
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: cyfriflenni papurau pleidleisio
Cyd-destun: I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a luniwyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—(a) nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a (b) sut y rhoddwyd cyfrif am y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—(i) nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na roddwyd cyfrif amdanynt fel arall; (ii) nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio; (iii) nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd; (iv) nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Rhan o'r weithdrefn ar gyfer cau pleidleisiau, a nodir yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: amlen papur pleidleisio
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: amlenni papur pleidleisio
Cyd-destun: Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi amlen lai (y cyfeirir ati fel “amlen papur pleidleisio”) i bleidleisiwr drwy’r post, y mae rhaid iddi fod wedi ei marcio â’r canlynol—(a) y llythyren “A”; (b) y geiriau—(i) “Amlen papur pleidleisio”, a (ii) “Ballot paper envelope”; (c)rhif pob papur pleidleisio a ddyroddir i’r pleidleisiwr drwy’r post.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Rhan o'r weithdrefn ar gyfer dyroddi papurau pleidleisio drwy'r post, a nodir yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: rhif papur pleidleisio
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: rhifau papur pleidleisio
Cyd-destun: Yn y rhestr gyntaf, rhaid i’r swyddog canlyniadau gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy’r post nad oes datganiad pleidlais drwy’r post dilys wedi dod gydag ef.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: troshaen papur pleidleisio
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: troshaenau papurau pleidleisio
Diffiniad: Templed sy'n cael ei osod dros bapur pleidleisio i helpu pobl ag amhariad ar eu golwg i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae'n cyd-fynd â'r papur pleidleisio swyddogol ac yn cynnwys marciau Braille ac adrannau wedi'u torri allan sy'n cyfateb i'r opsiynau pleidleisio.
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mai 2025
Cymraeg: papur pleidleisio lliw
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2003
Cymraeg: dosbarthu a derbyn (papurau pleidleisio)
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Berf
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2003
Cymraeg: blwch pleidleisio drwy’r post
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blychau pleidleisio drwy'r post
Cyd-destun: Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu blwch pleidleisio ar wahân ar gyfer derbyn—(a) y prif amlenni pan y’u dychwelir gan y pleidleiswyr drwy’r post (“blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post”), a (b) papurau pleidleisio drwy’r post (“blwch pleidleisio drwy’r post”).
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: papur pleidleisio drwy’r post
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio drwy'r post
Cyd-destun: Ystyr “papur pleidleisio drwy’r post” (“postal ballot paper”) yw papur pleidleisio a ddyroddir i bleidleisiwr drwy’r post.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blychau pleidleisio pleidleiswyr drwy'r post
Cyd-destun: Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu blwch pleidleisio ar wahân ar gyfer derbyn—(a) y prif amlenni pan y’u dychwelir gan y pleidleiswyr drwy’r post (“blwch pleidleisio pleidleiswyr drwy’r post”), a (b) papurau pleidleisio drwy’r post (“blwch pleidleisio drwy’r post”).
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: papur pleidleisio drwy ddirprwy
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2003
Cymraeg: papur pleidleisio drwy ddirprwy
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio drwy ddirprwy
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Awst 2023
Saesneg: secret ballot
Cymraeg: pleidlais gudd
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: pleidleisiau cudd
Diffiniad: The secret ballot is a voting method in which a voter's choices in an election or a referendum are anonymous, forestalling attempts to influence the voter by intimidation and potential vote buying. The system is one means of achieving the goal of political privacy.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2016
Cymraeg: papur pleidleisio a ddifethwyd
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio a ddifethwyd
Cyd-destun: Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid etholiad, wirhau pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd, gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd
Cyd-destun: Os yw pleidleisiwr drwy’r post (“P”) wedi ymdrin yn anfwriadol â phapur pleidleisio drwy’r post P neu â datganiad pleidlais drwy’r post P yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio (y cyfeirir ato fel “papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd”) neu fel datganiad pleidlais drwy’r post (y cyfeirir ato fel “datganiad pleidlais drwy’r post a ddifethwyd”), caiff P ddychwelyd y papur pleidleisio drwy’r post a ddifethwyd neu’r datganiad pleidlais drwy’r post a ddifethwyd i’r swyddog canlyniadau, naill ai â llaw neu drwy’r post.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: papur pleidleisio a dendrwyd
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio a dendrwyd
Diffiniad: Papur pleidleisio a ddefnyddir yn lle'r un gwreiddiol, ee pan fo pleidleisiwr yn cyrraedd gorsaf bleidleisio ac yn canfod bod rhywun arall eisoes wedi pleidleisio yn ei enw, neu yn sgil colli papur pleidleisio drwy'r post.
Cyd-destun: Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapurau pleidleisio a dendrwyd.
Nodiadau: Yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: papur pleidleisio heb ei ddefnyddio
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: papurau pleidleisio heb eu defnyddio