Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

44 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Cymraeg: Gweithgor Asesu a Chynnydd
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Endid a oedd yn rhan o ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru.
Cyd-destun: Rydym yn ymwybodol yn awr y bydd y gweithgor Asesu a Chynnydd yn gweithio ar brosiect gyda Phrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow i ddatblygu’r camau cynnydd a deilliannau cyflawniad ar gyfer pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw priod
Diffiniad: Cytundeb masnach a lofnodwyd yn Santiago ar 8 Mawrth 2018. Mae'n cynnwys Protocol Derbyn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’r Cytundeb, a lofnodwyd yn Auckland a Bandar Seri Begawan ar 16 Gorffennaf 2023.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2024
Cymraeg: Rheolwr Gweithredu Rhaglen Blynyddoedd Cynnar yr ESF (Cynnydd ar gyfer Llwyddiant)
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2015
Cymraeg: Cydgysylltydd Ymgysylltiad a Chynnydd
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: Cydgysylltwyr Ymgysylltiad a Chynnydd
Diffiniad: Rôl o fewn awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am weithredu'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid.
Cyd-destun: Yn y cyflwyniad i’r cynllun hwn nodwyd, o ystyried eu cyfrifoldeb am arwain y fframwaith yn strategol, efallai y bydd awdurdodau lleol am benodi uwch arweinydd a fydd â throsolwg o’r broses o weithredu’r fframwaith ac uwch aelod o staff yn Gydgysylltydd Ymgysylltiad a Chynnydd er mwyn rhoi arweiniad gweithredol a chydgysylltu rhwng yr awdurdod lleol, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid, ysgolion a darparwyr ôl-16.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: Ariannu Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd: Cynnydd ar Sicrhau Buddion dros Gymru
Statws A
Pwnc: Ewrop
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2004
Cymraeg: salwch sy'n anochel gynyddol
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Gellid ystyried defnyddio 'salwch sy'n gwaethygu yn anochel' mewn cyd-destunau llai technegol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ebrill 2025
Cymraeg: cynnydd ieithyddol
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Mae'r Strategaeth hefyd yn cydnabod bod cynnydd ieithyddol cadarn drwy bob cyfnod o addysg yn cynnig yr amodau gorau i ddatblygu dinasyddion dwyieithog y dyfodol.
Nodiadau: Term o faes y Cwricwlwm i Gymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: cynllun llwybrau dyrchafiad ac arweinyddiaeth
Statws C
Pwnc: Personél
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Mae un o weithgareddau'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2022) yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau iechyd 'roi cynllun llwybrau dyrchafiad ac arweinyddiaeth ar waith i staff ethnig lleiafrifol'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2024
Cymraeg: cynnydd dysgwr
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cynnydd dysgwyr
Nodiadau: Term o faes y Cwricwlwm i Gymru. Mae deunyddiau ategol y Cwricwlwm yn nodi: 'Cynnydd mewn dysgu yw sut mae dysgwr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn golygu cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth, a mireinio eu sgiliau, i gyd wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.'
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: cynnydd ieithyddol
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Twf a gwelliant mewn sgiliau mewn iaith.
Nodiadau: Term o faes y Cwricwlwm i Gymru. Cyfystyr â 'language progression'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: Cymru’n Un - Rhaglen Flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Niwtra
Diffiniad: Cytundeb rhwng y Grŵp Llafur a Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, Mehefin 2007.
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mehefin 2007
Cymraeg: cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen
Statws B
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Un o chwe nodwedd gwaith teg
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mai 2019
Cymraeg: fframwaith tâl a dilyniant
Statws B
Pwnc: Gwasanaethau cymdeithasol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Dyma ddrafft cychwynnol o fframwaith tâl a dilyniant i’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cyflwyno cyfres o fandiau ar gyfer pob rôl wahanol ac mae’n cynnwys y sgiliau, y gwerthoedd, y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r tasgau nodweddiadol ar gyfer pob un ohonynt. Yn y dyfodol, bydd hefyd yn cynnwys map gyrfaol o gyfleoedd am ddilyniant yn y sector.
Nodiadau: Ee, fframwaith sy'n cael ei ddatblygu gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i sefydlu telerau ac amodau ar gyfer y rhai sy'n darparu gofal cymdeithasol. Cyhoeddwyd drafft cychwynnol o'r fframwaith hwnnnw ym mis Mai 2023.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: datblygiad cyflog
Statws B
Pwnc: Personél
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Cynnydd yng nghyflog staff am wneud yr un gwaith, ee symud o un pwynt i un arall o fewn band cyflog penodedig. Mae'n wahanol i gynnydd mewn tâl yn sgil chwyddiant neu yn sgil dyrchafiad i fand cyflog uwch.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: cynnydd cadarnhaol
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Yng nghyd-destun y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid, bod pobl ifanc yn mynd rhagddynt i gyflogaeth neu hyfforddiant pellach ar ôl gadael addysg orfodol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: MS cynradd-gynyddol
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Sglerosis ymledol sy'n gwaethygu'n raddol, heb gyfnodau o wella neu gyfnod o MS atglafychol-ysbeidiol ('relapsing-remitting MS'), ar ôl y symtomau cychwynnol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: cynnydd proffesiynol
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Yng nghyd-destun y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth (a gyhoeddwyd yn 2017), datblygiad gyrfa athrawon ac arweinwyr addysgol, a'r modd y maent yn gwella'u sgiliau ac ennill profiadau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Tachwedd 2018
Cymraeg: Cynnydd ar gyfer Llwyddiant
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw priod
Nodiadau: Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithlu y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2016
Cymraeg: Yr Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw priod
Diffiniad: Astudiaeth ryngwladol o gyrhaeddiad darllen plant 9-10 oed. Cynhaliwyd bob pum mlynedd ers 2001 gan Gymdeithas Ryngwadol Gwerthuso Cyrhaeddiad Addysgol (yr IEA).
Nodiadau: Defnyddir yr acronym PIRLS.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Saesneg: progression
Cymraeg: cynnydd
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Term o faes y Cwricwlwm i Gymru. Mae deunyddiau ategol y Cwricwlwm yn nodi: 'Cynnydd mewn dysgu yw sut mae dysgwr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn golygu cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth, a mireinio eu sgiliau, i gyd wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.' Yn y gorffennol, defnyddiwyd y geiriau Cymraeg 'cynnydd' a 'dilyniant' am 'progression', ond 'cynnydd' yw'r trosiad safonol ym maes y Cwricwlwm i Gymru bellach. Gall 'dilyniant' fod yn fwy addas mewn rhai amgylchiadau pan fo 'progression' yn golygu symud o un pwynt i bwynt arall, yn hytrach na thwf a gwelliant.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: continwwm cynnydd
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Mae'r dysgwr yn symud ar hyd y continwwm cynnydd yn rhannol drwy wynebu heriau cyfoethog ac adnoddau yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill.
Nodiadau: Term o faes y cwricwlwm addysg newydd yng Nghymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: cam cynnydd
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: camau cynnydd
Nodiadau: Term o faes y cwricwlwm addysg newydd yng Nghymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Tachwedd 2018
Saesneg: progressive
Cymraeg: cynyddol
Statws A
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diffiniad: Modd o ddisgrifio cyflwr iechyd sy'n gwaethygu, yn tyfu neu'n ymledu.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Saesneg: progressive
Cymraeg: blaengar
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diffiniad: Modd o ddisgrifio syniadau, gweithredoedd, dulliau mynegiant, etc, y bernir eu bod yn ceisio gwneud pethau'n fwy cyfoes, yn fwy cyfiawn, neu'n well.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: agenda flaengar
Statws B
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2025
Cymraeg: cyllideb flaengar
Statws C
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2010
Cymraeg: toll gynyddraddol
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: tollau cynyddraddol
Diffiniad: Toll y mae ei chyfradd yn cynyddu wrth i'r swm tolladwy gynyddu.
Nodiadau: Dyma'r term yn yr ystyr dechnegol a nodir yn y diffiniad. Gellir defnyddio'r ymadrodd 'progressive duty' mewn ystyr annhechnegol hefyd, i olygu toll sy'n hyrwyddo tegwch; os mai'r ystyr honno sydd dan sylw, gall 'toll flaengar' neu 'toll deg' fod yn fwy addas.
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Medi 2024
Cymraeg: Llwybrau Blaengar i Feithrin Cysylltiadau
Statws C
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw priod, Lluosog
Diffiniad: Prosiect a lansiwyd yn 2013-14 i wella'r cyfleoedd cyflogadwyedd a sgiliau i bobl ifanc yn siroedd Conwy a Dinbych, ac a arweiniwyd gan Grŵp Llandrillo Menai a phartneriaid eraill.
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Medi 2024
Cymraeg: anhwylder niwrolegol cynyddol
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: anhwylderau niwrolegol cynyddol
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: MS cynyddol atglafychol
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Sglerosis ymledol sy'n gwaethygu'n raddol, heb gyfnodau o wella, o'r symtomau cychwynnol ymlaen. Mae'n debyg i MS cynradd-gynyddol ('primary progressive MS') ond ceir cyfnodau atglafychol tebyg i'r hyn a geir gydag MS atglafychol-ysbeidiol ('relapsing-remitting MS').
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: gwariant cynyddraddol
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Gwariant cyhoeddus sy’n rhoi mwy o fudd cymharol i aelwydydd incwm isel na’r rhai incwm uchel.
Nodiadau: Dyma'r term yn yr ystyr dechnegol a nodir yn y diffiniad. Mewn cyd-destunau llai technegol, gellid ystyried defnyddio ‘gwariant blaengar' neu ‘gwariant teg'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Hydref 2025
Cymraeg: treth gynyddraddol
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: trethi cynyddraddol
Diffiniad: Treth y mae ei chyfradd yn cynyddu wrth i'r swm trethadwy gynyddu.
Nodiadau: Dyma'r term yn yr ystyr dechnegol a nodir yn y diffiniad. Gellir defnyddio'r ymadrodd 'progressive tax' mewn ystyr annhechnegol hefyd, i olygu treth sy'n hyrwyddo tegwch; os mai'r ystyr honno sydd dan sylw, gall 'treth flaengar' neu 'treth deg' fod yn fwy addas.
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ionawr 2025
Cymraeg: cyffredinoliaeth gynyddol
Statws C
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Mae’r cysyniad o ‘gyffredinoliaeth gynyddol’ yn deillio o’r syniad y gellir cyflawni cyfiawnder cymdeithasol drwy gydraddoldeb o ran mynediad at gyfleoedd a gwasanaethau o safon uchel.
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mai 2013
Cymraeg: mesuriad cynnydd
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: mesuriadau cynnydd
Cyd-destun: Mae mesuriadau cynnydd o’r profion cenedlaethol yn dangos pa mor dda y mae dysgwr unigol wedi ei wneud yn y profion bob blwyddyn o’i gymharu â phob dysgwr arall fu’n sefyll y prawf yn yr un grŵp blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol. Mae’n bosibl cymharu’r mesur cynnydd o un flwyddyn i’r llall i gael darlun o’r cynnydd dros gyfnod o amser.
Nodiadau: Yng nghyd-destun y Profion Rhifedd a Llythrennedd Cenedlaethol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: adroddiad cynnydd
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: adroddiadau cynnydd
Diffiniad: Dogfen sy'n adrodd ar sut y mae prosiect, rhaglen neu ddatblygiad yn datblygu, mewn cymhariaeth â'r nodau a osodwyd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: sgôr cynnydd
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: sgoriau cynnydd
Diffiniad: Yng nghyd-destun profion addysgol, sgôr ar gyfer unigolyn. Yn aml, defnyddir sgoriau o’r fath i gymharu perfformiad yr ymgeisydd mewn perthynas â sampl cenedlaethol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad
Statws C
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Berf
Nodiadau: Dull asesu ym maes addysg. Defnyddir yr acronym RARPA yn y ddwy iaith.
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Ebrill 2017
Cymraeg: Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw priod
Diffiniad: Dull o fesur cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr ar rai cyrsiau addysg bellach nad ydynt yn arwain at gymhwyster neu ddyfarniad achrededig.
Nodiadau: Defnyddir yn y system addysg yn Lloegr. Defnyddir yr acronym RARPA.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: cynnydd cymharol
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Yng nghyd-destun y system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgol, un o'r dangosyddion deilliannau sy'n effeithio ar gategoreiddiad ysgolion.
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: MS eilaidd-gynyddol
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Sglerosis ymledol sy'n gwaethygu'n raddol. Daw'r math hwn o MS ar ôl MS atglafychol-ysbeidiol ('relapsing-remitting MS').
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024
Cymraeg: Cryfhau’r dystiolaeth a monitro cynnydd
Statws C
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Berf
Cyd-destun: Un o 6 thema strategol ar gyfer gweithredu Ein Dyfodol Iach
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2009
Cymraeg: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Teitl cwrteisi
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Ionawr 2024
Cymraeg: Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Dyma’r enw ar y fersiwn ar y fframwaith a oedd yn gyfredol hyd at 2022.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2023
Cymraeg: Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Dyma’r enw ar y fersiwn ar y fframwaith sy’n gyfredol o 2022 ymlaen.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2023