Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

47 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Cymraeg: Cymru gydnerth
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw priod
Nodiadau: Un o’r 7 o nodau llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Sylwer mai 'gwydn' yw'r term a ddefnyddir bellach am 'resilient', ond wrth gyfeirio at y nod llesiant hwn yn benodol bydd angen defnyddio "Cymru gydnerth".
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: Y Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer ar gyfer pobl sydd mewn perygl o fyw mewn cartref oer
Statws A
Pwnc: Tai
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Dyma deitl swyddogol y cynllun. Sylwch mai 'gwydnwch' yw'r term a ddefnyddir bellach am 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch cymunedol
Statws B
Pwnc: Datblygu cymunedol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Y Gangen Busnes Corfforaethol a Gwydnwch
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: seiberwydnwch
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Gallu sefydliadau i baratoi rhag ymosodiadau seiber ac achosion o dor diogelwch data, i ymateb iddynt ac i adfer wrthynt.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: Y Grant Refeniw Seiberwydnwch
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Yr Uned Seiberwydnwch
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch (Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth)
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Teitl cwrteisi ar Fil gan Senedd y DU.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2025
Cymraeg: Y Gangen Gwydnwch Digidol mewn Addysg
Statws A
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Rheolwr Gwydnwch Digidol mewn Addysg
Statws A
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch ecolegol
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Gallu ecosystemau i ymdopi â ffactorau sy'n amharu arnynt, naill ai drwy eu gwrthwynebu neu ymaddasu iddynt, gan barhau i gyflawni gwasanaethau a buddion amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Cronfa Cadernid Economaidd
Statws B
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Nodiadau: Dyma deitl swyddogol y gronfa. Sylwer mai 'gwydnwch' yw'r term arferol yn TermCymru ar gyfer 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Cynllun Cadernid Economaidd
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Rydym yn cynnig cyflwyno Cynllun Cadernid Economaidd i fuddsoddi mewn busnesau rheoli tir ar raddfa na fu’n bosibl yn y gorffennol.
Nodiadau: Cynnig yn y ddogfen ymgynghori, Brexit a’n Tir. Dyma'r teitl swyddogol. Sylwer mai 'gwydnwch' yw'r term arferol yn TermCymru ar gyfer 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch ecosystem
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Gwydnwch Gwasanaethau Tân ac Achub
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw priod
Nodiadau: Maes yn y gyllideb.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch rhag llifogydd
Statws B
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydn rhag llifogydd
Statws B
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: Pennaeth Seiberwydnwch
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Pennaeth Gwydnwch Digidol mewn Addysg
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Pennaeth y Tîm Gorwylio Gwydnwch ac Ymateb i Argyfyngau
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ebrill 2025
Cymraeg: Gwydnwch Cenedlaethol
Statws B
Pwnc: Tân ac achub
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Rhaglen i ddarparu galluoedd, personél ac adnoddau er mwyn ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau mawr iawn neu gritigol. Gall y digwyddiadau hynny gynnwys trychinebau naturiol, damweiniau diwydiannol neu ymosodiadau terfysgol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Tîm Sicrhau Cydnerthedd Cenedlaethol
Statws C
Pwnc: Tân ac achub
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: NRAT
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Medi 2011
Cymraeg: Tîm Sicrhau Gwydnwch Cenedlaethol
Statws B
Pwnc: Tân ac achub
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Teitl cwrteisi ar grŵp o swyddogion Gwasanaeth Tân 'Fire England'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Yr Is-adran Gwydnwch a Diogelwch Gwladol
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Fforwm Gwydnwch Lleol y Gogledd
Statws A
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch personol
Statws B
Pwnc: Personél
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Nodwyd hefyd y byddai modd mynd i'r afael â mater gwydnwch personol yn y gwaith hwn.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad
Statws A
Pwnc: Llywodraeth leol
Rhan ymadrodd: Enw priod
Nodiadau: Teitl Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn 2017. Sylwer mai 'gwydnwch' a ddefnyddir bellach am 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Saesneg: resilience
Cymraeg: gwydnwch
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Y gallu i wrthsefyll bygythiadau ynghyd â’r gallu i ymaddasu’n effeithiol i sefyllfaoedd newydd a newidiol.
Nodiadau: Dyma'r term Cymraeg a ffefrir i gyfleu'r term Saesneg 'resilience' ym mhob cyd-destun, gan gynnwys ym meysydd diogelwch, TGCh a'r amgylchedd. Pan enwir y bygythiad y dymunir ei wrthsefyll neu ymaddasu iddo (ee wrth drosi 'flood resilience') gellir defnyddio 'gwydnwch rhag' (ee 'gwydnwch rhag llifogydd'). Mae'n bosibl y gwelir ffurfiau Cymraeg eraill mewn deunyddiau hanesyddol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch ecosystem
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Gallu ecosystem i oddef tarfu arni heb newid i gyflwr sy'n sylweddol wahanol ac sy'n cael ei rheoli gan set wahanol o brosesau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025
Cymraeg: Yr Uned Wydnwch
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Saesneg: resilient
Cymraeg: gwydn
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diffiniad: Disgrifiad o rywbeth neu rywun a all wrthsefyll bygythiadau ac a all ymaddasu’n effeithiol i sefyllfaoedd newydd a newidiol.
Nodiadau: Dyma'r term Cymraeg a ffefrir i gyfleu'r term Saesneg 'resilient' ym mhob cyd-destun, gan gynnwys ym meysydd diogelwch, TGCh a'r amgylchedd. Pan enwir y bygythiad y dymunir ei wrthsefyll neu ymaddasu iddo (ee wrth drosi'r ansoddair cyfansawdd 'flood-resilient') gellir defnyddio 'gwydn rhag' (ee 'gwydn rhag llifogydd'). Mae'n bosibl y gwelir ffurfiau Cymraeg eraill mewn deunyddiau hanesyddol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: cymuned wydn
Statws B
Pwnc: Datblygu cymunedol
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: cymunedau gwydn
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: rhwydwaith ecolegol gwydn
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: rhwydweithiau ecolegol gwydn
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Y Gronfa Ffyrdd Gwydn
Statws B
Pwnc: Trafnidiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Gwrthsafiad a pharch: Datblygu cydlyniant cymunedol - dealltwriaeth gyffredin ar gyfer ysgolion a'u cymunedau
Statws A
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Dogfen gan Lywodraeth Cymru yn cynnig gwybodaeth i bob ysgol ynghylch yr hyn sy'n achosi eithafiaeth dreisgar a'r camau i'w gymryd i'w atal. Cyhoeddwyd Ionawr 2011. Dyma deitl swyddogol y ddogfen. Sylwer mai 'gwydnwch' a ddefnyddir bellach am 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: Y Gyfarwyddiaeth Risg, Gwydnwch, Diogelwch Cymunedol, Gweithrediadau Grŵp a’r Gogledd
Statws A
Pwnc: Swyddi ac adrannau Llywodraeth Cymru
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Gwreiddiau Gwydn
Statws A
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw priod, Lluosog
Nodiadau: Dogfen a gyhoeddwyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Uwch-reolwr Gwydnwch Digidol mewn Addysg
Statws A
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Fforwm Gwydnwch Lleol y De
Statws A
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Cronfa Hyblyg Dechrau Busnes, Gwydnwch a Thwf Busnes Tata
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2025
Cymraeg: Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Nodiadau: Dyma deitl swyddogol y Rheoliadau. Sylwer mai 'gwydnwch' yw'r term a ddefnyddir bellach am 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: Rhagdybiaethau Cynllunio Gwydnwch Cenedlaethol y DU
Statws B
Pwnc: Tân ac achub
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw priod
Nodiadau: Dogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018. Sylwer mai 'gwydnwch' yw'r term arferol yn TermCymru ar gyfer 'resilience'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Fforwm Gwydnwch Cymru
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Diwygiwyd yr enw hwn ym mis Ebrill 2025 o Fforwm Cymru Gydnerth, wrth gysoni i ddefnyddio 'gwydnwch' yn gyson yng ngwaith Llywodraeth Cymru i drosi 'resilience'. Mae'n bosibl y gwelir yr hen ffurf ar yr enw mewn deunyddiau hanesyddol. Weithiau defnyddir y ffurf fer Wales Resilience / Gwydnwch Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025
Cymraeg: Fframwaith Gwydnwch Cymru
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: O ganlyniad i'r adolygiad o argyfyngau sifil ac i roi arweiniad strategol clir yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r fframwaith strategol newydd, sef Fframwaith Gwydnwch Cymru, gyda phartneriaid lleol ac o fewn y llywodraeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: Tîm Partneriaeth Gwydnwch Cymru
Statws A
Pwnc: Tân ac achub
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025
Cymraeg: gwydnwch rhag pwysau'r gaeaf
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2025