Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

20 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl perthnasedd.
Cymraeg: dalgylch sensitif i asid
Statws C
Pwnc: Amaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dalgylchoedd sensitif i asid
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Chwefror 2016
Cymraeg: sensitifedd dadansoddol
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Mewn profion, y swm lleiaf o ddadansoddyn y gellir ei ganfod gyda sicrwydd a ddiffiniwyd.
Nodiadau: Defnyddir yr acronym Saesneg ASe.
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Gorffennaf 2020
Cymraeg: sensitifedd deiagnostig
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Mewn profion, y tebygolrwydd y bydd sampl gan berson sydd â'r cyflwr targed arno yn arwain at ganlyniad positif yn sgil y prawf hwnnw.
Nodiadau: Defnyddir yr acronym Saesneg DSe.
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Gorffennaf 2020
Cymraeg: Ardal Amgylcheddol Sensitif
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diffiniad: AAS
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Medi 2004
Cymraeg: Glaswelltir Parhaol Amgylcheddol-Sensitif
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Defnyddir yr acronym ESPG yn Saesneg.
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Gorffennaf 2019
Cymraeg: sensitifrwydd cynefin
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mehefin 2015
Cymraeg: mapio ardaloedd sensitif yn y môr
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Berf
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mehefin 2010
Cymraeg: Ardal Agored i Niwed gan Nitradau
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2003
Cymraeg: SWYDDOGOL - SENSITIF
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Cyd-destun: Dosbarthu dogfennau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mehefin 2014
Cymraeg: Oren: sensitif o ran amser
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diffiniad: Categori ymateb ambiwlansys ar gyfer cyflyrau fel strôc sydd angen ymateb cyflym a gofal gan glinigwyr ambiwlans cyn cludo’r claf i’r ysbyty i gael gofal arbenigol.
Nodiadau: Un o'r categorïau ymateb newydd ar gyfer ambiwlansys.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2025
Cymraeg: dysfforia sensitifrwydd gwrthodiad
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Sensitifrwydd a thrallod emosiynol eithafol a ysgogir gan ganfyddiad bod yr unigolyn wedi cael ei wrthod neu ei feirniadu gan bobl sy'n bwysig iddo neu iddi. Gall hefyd gael ei ysgogi gan ymdeimlad o fethu â bodloni safonau uchel yr unigolyn ei hun, neu ddisgwyliadau pobl eraill.
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Hydref 2024
Cymraeg: sensiteiddiwr anadlol
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: sensiteiddwyr anadlol
Diffiniad: Sylwedd a all, o'i anadlu, beri adwaith alergaidd yn y system anadlol.
Nodiadau: Term a ddefnyddir yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2024
Cymraeg: gwybodaeth fasnachol sensitif
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Cyd-destun: “Sensitive commercial information” is information which—(a) constitutes a trade secret, or (b) would be likely to prejudice the commercial interests of any person if it were published or otherwise disclosed.
Nodiadau: Term o faes caffael. Ychwanegwyd i’r gronfa yn sgil Deddf Caffael 2023 (deddfwriaeth Llywodraeth y DU, sydd ar gael yn Saesneg yn unig) a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Daw’r frawddeg gyd-destunol Saesneg o Ddeddf Caffael 2023.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2024
Cymraeg: cynefin sensitif
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cynefinoedd sensitif
Cyd-destun: Gallai plannu coetiroedd gerllaw cynefinoedd sensitif gael effeithiau andwyol hefyd, yn enwedig os yw rhywogaethau o'r safleoedd hynny'n dibynnu ar gynefinoedd agored tebyg y tu hwnt i ffiniau'r safle (ee ar gyfer chwilota am fwyd neu glwydo).
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Medi 2024
Cymraeg: data personol sensitif
Statws C
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Chwefror 2009
Cymraeg: data personol sensitif
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diffiniad: The GDPR refers to sensitive personal data as “special categories of personal data”. The special categories specifically include genetic data, and biometric data where processed to uniquely identify an individual.
Nodiadau: Mewn perthynas â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mehefin 2018
Cymraeg: lleoliad derbynnydd sensitif
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: lleoliadau derbynyddion sensitif
Cyd-destun: Byddwn yn gwella'r broses o fonitro ac asesu ansawdd aer a pheryglon cysylltiedig yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar leoliadau derbynyddion sensitif i roi budd i'r ardaloedd lle ceir y risg fwyaf a'r bobl sydd fwyaf agored i niwed.
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Medi 2024
Cymraeg: dadansoddiad o sensitifrwydd
Statws C
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Chwefror 2003
Cymraeg: asesiad sensitifrwydd
Statws B
Pwnc: Adar
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: asesiadau sensitifrwydd
Diffiniad: Yng nghyd-destun cadwraeth adar môr, asesiad o raddfa’r effaith debygol ar rywogaeth benodol pe byddai’n dod i gysylltiad â bygythiad penodol.
Nodiadau: Gweler hefyd y cofnodion am exposure assessment / asesiad cysylltiad a vulnerability assessment / asesiad bregusrwydd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Tachwedd 2025
Cymraeg: sensiteiddiwr croen
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: sensiteiddwyr croen
Diffiniad: Sylwedd a all beri adwaith alergaidd o ddod i gyswllt â'r croen.
Nodiadau: Daw'r testun cyd-destunol o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2024