Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

6 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Cymraeg: Mesur Gwirhau Cymhwysedd
Statws C
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Darpariaeth yn y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) sy'n ei gwneud yn ofynnol i fanciau a sefydliadau ariannol eraill archwilio eu setiau data eu hunain i helpu i nodi lle y gallai taliadau budd-dal anghywir fod yn cael eu talu i helpu i benderfynu a yw'r rheolau cymhwysedd yn cael eu bodloni
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mawrth 2025
Cymraeg: gwirio trethdalwyr
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Berf
Nodiadau: Yng nghyd-destun y dreth gyngor ac ardrethi annomestig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Ionawr 2024
Cymraeg: gwirhad dau gam
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: gwirhad dau gam
Diffiniad: Proses ddiogelwch lle bydd defnyddwyr gwasanaethau ar-lein yn mynd drwy ddau gam gwahanol, yn aml gan ddefnyddio dau ffactor gwahanol (ee cyfrinair a ffactor biometrig fel ôl bys) er mwyn dilysu eu hunaniaeth.
Nodiadau: Mae'r term 'two-factor authentication' / 'dilysiad dau ffactor' yn cyfeirio at broses gyffelyb neu'n enw arall ar yr un broses.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: verification
Cymraeg: gwirhad
Statws A
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: gwirhadau
Diffiniad: Proses, neu ganlyniad proses, i gadarnhau bod, neu asesu a yw, rhywbeth yn wir neu'n gywir.
Cyd-destun: Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirhad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiad sy’n gofyn amdano.
Nodiadau: Argymhellir defnyddio 'gwirhad' am 'verification' er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a 'gwiriad' ('check') a 'dilysiad' ('validation' neu 'authentication'). Mewn rhai cyd-destunau anffurfiol, lle nad oes angen manwl-gywirdeb, gall fod yn dderbyniol defnyddio 'gwiriad' am 'verification'. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: gweithdrefn wirhau
Statws B
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: gweithdrefnau gwirhau
Cyd-destun: Pan na fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod y datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol ond nad oes amlen papur pleidleisio na phapur pleidleisio, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau osod y datganiad fel y mae yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), wedi ei farcio â’r geiriau “gwrthodwyd dros dro”.
Nodiadau: Gan gynnwys yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: proses wirio
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: prosesau gwirio
Nodiadau: Yng nghyd-destun y dreth gyngor ac ardrethi annomestig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Ionawr 2024