Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i esbonio sut a phryd y gallwch gyflwyno apêl yn erbyn barnu’n annilys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi wneud eich apêl, dylech fynd i drafodaethau gyda’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl).

Dylech ond wneud eich apêl os na allwch ddod i gytundeb gyda’r ACLl.

Beth yw hysbysiad Barnu’n Annilys

Ar gyfer ceisiadau a wneir ar 16 Mawrth 2016 neu ar ôl hynny, mae darpariaeth Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016 sy’n caniatáu apêl yn erbyn hysbysiad a gyhoeddir gan yr ACLl fod cais yn annilys. Mae’n gymwys i geisiadau am ganiatâd cynllunio ac ar gyfer unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllun yn ddarostyngedig iddo. 

Os bydd yr ACLl yn ystyried nad yw cais ar gyfer caniatâd cynllunio (neu unrhyw beth a ddaw gydag ef) yn cydymffurfio â gofyniad dilysu (gweler Adran 62 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990), mae’n rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ymgeisydd i’w hysbysu bod y cais yn annilys. Mae’n rhaid i’r hysbysiad esbonio’r gofynion dan sylw (mewn perthynas ag Adran 62 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) ac esbonio pam nad yw’r cais yn cydymffurfio â’r gofynion dilysu. 

Yn achos cais am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth (sy’n ofynnol gan unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo), mae’n rhaid i’r ACLl roi hysbysiad nad yw’r cais yn ddilys os ydynt yn ystyried nad yw’r cais yn cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio, oherwydd bod yr ymgeisydd wedi methu â chynnwys gwybodaeth yn y cais neu ddarparu dogfennau neu ddeunyddiau eraill gydag ef. Mae’n rhaid i’r hysbysiad yn yr achos hwn esbonio pa wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau mae’n ofynnol i’w cyflwyno.

Mae'r Llawlyfr Rheoli Datblygu yn rhoi cyngor ar ofynion dilysu ar gyfer ceisiadau a beth ddylai hysbysiad yr Awdurdod Cynllunio Lleol o analluedd gynnwys.

Eich apêl

Ar ôl derbyn hysbysiad bod cais yn annilys, mae gennych chi (yr ymgeisydd) gyfnod o bythefnos o ddyddiad yr hysbysiad i gyflwyno apêl i ni yn erbyn barnu’r cais yn annilys. 

Mae’n rhaid gwneud yr apêl trwy lenwi’r ffurflen apêl barnu’n annilys a’i chyflwyno gyda’r dogfennau canlynol: 

  • copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ACLl
  • copi o’r cais a wnaed i’r ACLl
  • copi o’r ffurflenni, dogfennau, cynlluniau, lluniadau, mynegiadau, datganiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth a gyflwynwyd i’r ACLl mewn cysylltiad â’r cais
  • copi o’r hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio (sylwer bod hyn ond yn berthnasol lle bo’r apêl yn perthyn i gais am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo)

Nid oes ffi yn daladwy am apêl nad yw'n ddilysu.

Yn ogystal, mae’n rhaid i chi anfon i’r ACLl, mor fuan ag sy’n rhesymol ymarferol, gopi o’r ffurflen apêl wedi’i llenwi (a dogfennau) a gyflwynwyd i ni, fel bod yr awdurdod yn ymwybodol y cafodd apêl ei gwneud, a pha wybodaeth a roddwyd i herio’r hysbysiad o farnu’n annilys. Mae hyn fel na fydd yr ACLl yn cymryd camau pellach ar y cais nes y bydd deilliant yr apêl yn hysbys. 

Pan dderbyniwn eich apêl, byddwn yn ysgrifennu atoch ac at yr ACLl er mwyn rhoi cyfeirnod yr apêl i chi. Mae gennym darged o 21 o ddiwrnodau i ystyried a phennu eich apêl pan gaiff ei dilysu. 

Os cynhelir yr apêl, nid oes angen i’r wybodaeth a geisir gan yr ACLl gael ei chyflwyno er mwyn canfod bod yr apêl yn ddilys. Os caiff yr apêl ei gwrthod, mae’n rhaid i chi benderfynu rhwng cyflwyno’r wybodaeth i’r ACLl neu dynnu’r cais yn ôl. Fe’ch anogir i gysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol er mwyn eu hysbysu o’ch bwriad, a’r amserlen debygol. 

Os caiff apêl ei gwrthod ac na chafodd y wybodaeth a oedd yn ofynnol ei chyflwyno o fewn amserlen resymol, neu os nad ydych wedi rhoi gwybod i’r ACLl am eich bwriad, dylai’r awdurdod ddychwelyd y cais a’r ffi gysylltiedig i chi.

Cyflwyno eich apêl

Gallwch anfon eich ffurflen apêl atom drwy neges e-bost PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru. Bydd cyflwyno eich ffurflen a’r dogfennau ategol yn electronig yn sicrhau bod proses eich apêl mor effeithlon â phosibl. Fel arall, gallwch bostio eich ffurflen apêl neu ei chyflwyno â llaw. Os byddwch yn cyflwyno eich apêl â llaw, dylech ofyn i ni am dderbynneb. Rhoddir ein manylion cyswllt ar dudalen 7 y ffurflen apêl ac ar dudalen 7 y canllaw hwn.

Dyddiadau cau

Mae’n rhaid i chi anfon eich apêl a’r dogfennau ategol hanfodol atom ac, ar yr un pryd, at yr ACLl fel y cânt eu derbyn o fewn 2 wythnos o’r dyddiad a ddangosir ar hysbysiad yr ACLl o farnu’n annilys. 

Gallwch eu hanfon at yr ACLl drwy neges e-bost neu’r post. Dylai manylion cyswllt ar gyfer yr ACLl ddod ynghyd â’r hysbysiad o farnu’n annilys. 

Os na fyddwn yn derbyn eich apêl a’r dogfennau o fewn y terfyn amser, mae’n bosibl na fyddwn yn derbyn eich apêl.

Llenwi’r ffurflen apêl

Yn y canllaw hwn, rydym yn defnyddio’r un penawdau adran ag sydd yn y ffurflen apêl yn erbyn hysbysiad barnu’n annilys.

Manylion yr apelydd

Dim ond yr unigolyn a wnaeth y cais all wneud apêl. Felly, mae’n rhaid i bob apêl fod ag enw’r ymgeisydd gwreiddiol arni. 

Os na wnaethoch y cais gwreiddiol (e.e. mae’n bosibl y byddwch wedi prynu’r safle yn ddiweddar) ac rydych yn dymuno apelio, mae’n rhaid i chi fynnu caniatâd ysgrifenedig yr ymgeisydd/ymgeiswyr er mwyn caniatáu i chi wneud hyn. Byddech yn gyfrifol am unrhyw gostau sy’n deillio o’r apêl. Rhowch eich enw yn y llinell “Enw” wedi’i ddilyn gan “ar ran” ac wedyn enw’r ymgeisydd gwreiddiol. Mae’n rhaid i chi anfon y caniatâd ysgrifenedig wedi’i lofnodi atom gyda’ch ffurflen apêl.

Manylion yr asiant

Nid oes rhaid i chi gyflogi asiant i ymdrin â’ch apêl. Os byddwch yn penderfynu cyflogi asiant, bydd ef neu hi yn debygol o lenwi’r ffurflen apêl ar eich rhan. 

Os oes gennych asiant, byddwn yn anfon ein holl gyfathrebiadau atynt. Ni fyddwn yn anfon copi atoch chi. Dylech sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â’ch asiant oherwydd y caiff yr hysbysiad o’r penderfyniad ei anfon atyn nhw.

Manylion yr awdurdod cynllunio lleol

Fel arfer bydd y wybodaeth hon yn yr hysbysiad barnu’n annilys a dderbynioch gan yr ACLl.

Cyfeiriad safle’r apêl 

Os nad oes gan safle’r apêl god post, rhowch god post yr adeilad agosaf. Yn ogystal, dylech ddarparu gwybodaeth i’n helpu i adnabod y safle, e.e. map neu gynllun sy’n dangos y safle ac o leiaf 2 ffordd wedi’u henwi neu â rhifau arnynt.

Disgrifiad o’r datblygiad

Mae angen i chi ddarparu manylion y datblygiad arfaethedig. Fel arfer bydd hyn yn union fel y’i disgrifiwyd gennych ar y ffurflen gais cynllunio.

Math o gais

Dylai hysbysiad barnu’n annilys yr ACLl egluro’r gofynion penodol dan sylw ac esbonio pam nad yw’r cais yn cydymffurfio â’r cofnodion dilysu.

Seiliau’r apêl

Dylech restru holl seiliau eich apêl yn glir ac yn gryno a chanolbwyntio ar y rhesymau pam fo eich cais yn bodloni’r gofynion ac na ddylai fod yn destun hysbysiad barnu’n annilys. Dylech osgoi ailadrodd a gwybodaeth nad yw’n perthyn i’r materion dan sylw. Nid yw’n ddigon i ddweud nad ydych yn cytuno â’r hysbysiad barnu’n annilys – ni fydd hyn yn helpu’r unigolyn penodedig i benderfynu ar eich apêl. Dylai seiliau’r apêl fod yn glir ac yn gryno. Dylid sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ddogfennaeth ategol heblaw am y ddogfennaeth a restrir yn adran y dogfennau ategol hanfodol. Dylai fod yn hanfodol ac yn uniongyrchol berthnasol i’r apêl. Dylid croesgyfeirio’r ddogfennaeth hon yn glir yn seiliau’r apêl. 

Os ydych yn ystyried ei fod yn hanfodol cyflwyno trywyddion negeseuon e-bost er mwyn cefnogi seiliau eich apêl, dylech olygu’r negeseuon e-bost yn ofalus er mwyn dileu ailadrodd a chodi’r pwyntiau allweddol yn glir. 

Wrth ddewis pa un o’r seiliau penodol ar gyfer apelio yr dymunech gyfeirio ati, dylech ystyried pa un ohonynt sy’n berthnasol i amgylchiadau penodol eich achos. Mae setiau o seiliau ar wahân yn ymwneud â cheisiadau am ganiatâd cynllunio a cheisiadau am gydsyniad neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol yn ôl amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio presennol (y cyfeirir atynt yn aml fel ceisiadau ‘bodloni amod’ ). Mae’r adrannau canlynol yn esbonio pob un o’r seiliau a dylech eu darllen yn drylwyr cyn cwblhau’r ffurflen apelio.

Seiliau yn ymwneud â cheisiadau am ganiatâd cynllunio

2a) Mae’r cais yn cydymffurfio â’r gofyniad a nodir yn yr hysbysiad. 

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn y cydymffurfiwyd eisoes â’r gofyniad fel y’i nodir yn yr hysbysiad. Er enghraifft, mae’r hysbysiad yn gofyn am gyflwyno cynllun lleoliad, ac mae’r cynllun hwnnw wedi’i ddarparu eisoes. 

Nid yw’r sail hon yn berthnasol os yw’r gofyniad a’r wybodaeth neu ddogfen a gyflwynwyd yn wahanol mewn rhyw ffordd. Er enghraifft, mae’r hysbysiad yn gofyn am gyflwyno ffurflen gais gan ddeiliad tŷ ac rydych wedi cyflwyno’r ffurflen ar gyfer cais cynllunio safonol. Ni fydd hyn o reidrwydd yn golygu bod y cais yn annilys, ond oherwydd bod y ffurflenni’n wahanol, ni allai cyflwyno un ohonynt gydymffurfio’n rhesymegol â gofyniad i gyflwyno’r llall. Yn yr achos hwnnw, mae’n bosibl y byddai seiliau eraill yn fwy priodol – gweler isod.

2b) Nid yw’r cais yn un y mae’r gofyniad yn berthnasol iddo.

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn nad yw’r gofyniad a osodir allan yn yr hysbysiad yn berthnasol i’r math o gais rydych yn ei wneud. 

Er enghraifft, mae’r hysbysiad yn gofyn am gyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad, a allai fod yn ofynnol ar gyfer rhai ceisiadau (e.e. ceisiadau ar gyfer mathau penodol o ddatblygiadau mawr), ond rydych yn gwneud cais o fath gwahanol (e.e. cais gan ddeiliad tŷ) ac felly nid yw’r gofyniad yn berthnasol. 

2c) Nid yw’r gofyniad yn ofyniad dilysu mewn perthynas â’r cais.

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn y gallai’r gofyniad a osodir allan yn yr hysbysiad fod yn berthnasol i’ch achos, ond nid yw’n ofynnol ar gyfer dilysu’r cais. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd yr ACLl yn gofyn am wybodaeth bellach yn ymwneud â darpariaeth mynediad i safle, a allai fod yn ofynnol i’w helpu i wneud penderfyniad, ond nid oes ei hangen er mwyn i’ch cais gael ei ystyried yn ddilys a gellir gofyn am hyn yn ddiweddarach.

2d) Nid yw’r wybodaeth neu’r dystiolaeth y mae’r ACLl wedi gofyn amdani’n rhesymol, o ystyried natur a graddfa’r datblygiad a gynigir a/neu nid yw’n rhesymol i’r ACLl feddwl y bydd y mater y mae’r gofyniad yn ymwneud ag ef yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar y cais.

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn y gallai’r gofyniad a osodir allan yn yr hysbyseb fod yn ofyniad dilysu mewn perthynas â’r cais rydych yn ei wneud, ond mae’r ACLl yn ymddwyn yn afresymol wrth ofyn amdano oherwydd graddfa eich cynnig, neu’r ffaith ei fod yn ymwneud â mater nad yw’n berthnasol yn eich achos chi.

Er enghraifft, mae’r ACLl yn gallu gofyn am ‘...unrhyw gynlluniau, dyluniadau neu wybodaeth arall sy’n angenrheidiol ar gyfer disgrifio’r datblygiad a gynigir’ ar gyfer dilysu eich cais, ond gallai fod yn afresymol iddo ofyn am gyfres o weddau os gellir deall y cynnig hebddynt, neu am gyfres o gynlluniau draenio os nad oes unrhyw reswm i feddwl y byddai draenio’n broblem yn eich achos chi.

Seiliau yn ymwneud â cheisiadau am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol yn ôl amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio presennol

3a) Roedd y cais yn cynnwys y wybodaeth, neu fe’i cyflwynwyd gyda’r dogfennau neu ddeunyddiau eraill a nodir yn yr hysbysiad.

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn y cydymffurfiwyd eisoes â’r gofyniad a osodir allan yn yr hysbysiad. 

Er enghraifft, mae amod sydd ynghlwm wrth eich caniatâd cynllunio yn gofyn am gyflwyno cynllun tirlunio ac mae un wedi’i ddarparu eisoes.

3b) Nid yw darparu’r wybodaeth, y dogfennau neu’r deunyddiau y gwneir cais ar eu cyfer yn ofynnol er mwyn cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio.

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn nad yw’r gofyniad a osodir allan yn yr hysbysiad yn ofynnol yn ôl eich caniatâd cynllunio. 

Er enghraifft, mae’r ACLl yn gofyn am gyflwyno samplau o ddeunyddiau toi ar gyfer eu cymeradwyo, ond nid oes unrhyw amod ynghlwm wrth eich caniatâd sy’n gofyn am gyflwyno deunyddiau ar gyfer eu cymeradwyo, neu mae amod sy’n gofyn am gyflwyno deunyddiau ond nid yw’n cynnwys deunyddiau ar gyfer toi.

3c) Mae’r cyfnod a ragnodir yn dechrau rhedeg heb ystyried p’un ai y darperir y wybodaeth, y dogfennau neu’r deunyddiau y gwneir cais ar eu cyfer.

Dylid pledio’r sail hon ar gyfer apelio pan fyddwch o’r farn nad yw’r gofyniad a osodir allan yn yr hysbysiad yn ofyniad dilysu ar gyfer ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio. 

Er enghraifft, mae’r ACLl yn gofyn am gyflwyno ffurflen gais cynllunio, nad yw’n ofynnol ar gyfer gwneud cais dilys am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol yn ôl amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth roi caniatâd cynllunio presennol.

Dogfennau ategol hanfodol

Rydym wedi rhestru’r dogfennau sy’n ofynnol ar hyn o bryd ar y ffurflen apêl yn erbyn hysbysiad barnu’n annilys. Os na fyddwn yn derbyn eich holl ddogfennau ategol hanfodol erbyn diwedd y cyfnod apelio o 2 wythnos, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu parhau a byddwch yn colli eich hawl i apelio. Sicrhewch eich bod wedi anfon popeth atom; os na wnaethoch, caiff eich apêl ei hoedi tra ein bod yn gofyn am y dogfennau coll oddi wrthych neu, o bosibl, caiff eich apêl ei gwrthod os na chaiff yr holl ddogfennau eu cyflwyno erbyn y terfyn amser o 2 wythnos. 

Sicrhewch eich bod wedi rhestru’r holl gynlluniau/lluniadau rydych yn eu hanfon atom a’u bod yn cynnwys cyfeiriad at y raddfa, cyfeiriadedd a maint y papur. Dylech anfon atom bob cynllun a anfonir at yr ACLl gyda’ch cais. 

Ni ddylech geisio cyflwyno deunydd newydd pan fyddwch yn gwneud eich apêl na chafodd ei ystyried gan yr ACLl fel rhan o’r broses ddilysu.

Manylion personol 

Manylion Personol yr Apelydd/Manylion Personol yr Asiant/Manylion Perchenogaeth Safle’r Apêl/Tystysgrif Daliadau Amaethyddol 

Ni fydd manylion personol a ddarperir ar y dudalen hon ar gael i’r cyhoedd.

E-bost

Os byddwch yn ticio’r blwch hwn i ddweud bod yn well gennych ein bod yn cysylltu â chi drwy neges e-bost, lle bo’n bosibl, byddwn yn anfon ein llythyrau atoch drwy neges e-bost, ac ni fyddwn yn anfon copïau papur.

Cyflwyno eich apêl

Llofnodwch

Mae’r adran hon yn darparu crynodeb defnyddiol o’r pethau mae’n angenrheidiol eich bod wedi eu gwneud. Gwiriwch eich ffurflen gyflawn yn ofalus, wedyn ei llofnodi a’i dyddio. 

Wedyn anfonwch

Sylwch fod rhaid i ni dderbyn eich ffurflen apêl a phob dogfen ategol o fewn y terfyn amser o 2 wythnos. 

Mae’n rhaid i chi anfon copi o’r ffurflen apêl gyflawn at yr ACLl. Os na wnewch chi hyn, mae’n bosibl na fyddwn yn derbyn eich apêl. Nid oes rhaid i chi anfon yr holl ddogfennau atynt eto. Os ydych yn cyflwyno unrhyw ddogfennau nad oeddent yn rhan o’ch cais cynllunio, mae’n rhaid i chi anfon y rhain at yr ACLl gyda’r ffurflen apêl. 

Cyfathrebu electronig

Yn unol â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygiadau) (Cymru) 2012, sylwch, lle caiff apêl ei gwneud gan ddefnyddio cyfathrebu electronig (e-bost; y porth cynllunio), cymerir yn ganiataol y rhoddwyd cytundeb ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig at ddibenion yr apêl, tan y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig o dynnu’r cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebu electronig yn ôl. 

Os byddwch yn cyflwyno apêl neu unrhyw ddogfen arall trwy gyfathrebu electronig, ni chaiff y ddogfen honno ei thrin fel un a gyflwynir tan 

  • fod y derbynnydd yn gallu ei chyrchu
  • iddi fod yn ddarllenadwy ym mhob ystyr sylweddol
  • iddi fod yn ddigon parhaol i gael ei thrin fel dogfen y gellir cyfeirio ati’n hwyrach

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am ein polisi preifatrwydd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi, neu os ydych yn dymuno gwneud cais ar gyfer eich data personol, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod:

Cysylltu â ni 

Yr Arolygiaeth Gynllunio 
Adeiladau’r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru
Ffôn: 0300 123 1590