Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio rolau a chyfrifoldebau wrth asesu myfyrwyr ar gyfer y cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Cynllun Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy'n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Diben y grant hwn yw annog unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol i hyfforddi, ymuno â’r proffesiwn addysgu ac aros yn y proffesiwn, ac nid yw’n rhan o becyn cyllid myfyrwyr.

Mae'r Cynllun Cymhelliant i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn gynllun cyfreithiol ("y Cynllun") a wnaed gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd eu pwerau ac sy’n cael ei adolygu'n flynyddol. Mae'r cynllun hwn ar gael ers Medi 2022 ac mae’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol ac i gynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.

Mae'r Cynllun cyfreithiol yn gwneud darpariaeth i Lywodraeth Cymru dalu grantiau ar ffurf cymhelliant i fyfyrwyr AGA ôl-raddedig cymwys, sy'n astudio rhaglen AGA achrededig sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig.

Mae myfyrwyr sy'n dilyn Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) (llawn-amser a rhan-amser) sy’n arwain at SAC yn gymwys i hawlio’r grant hwn ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.

Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol.

Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr a oedd yn dilyn rhaglenni AGA ôl-raddedig cymwys cyn 2022. Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Nodir gwybodaeth lawn am gymhwysedd ac amodau yn y Cynllun, y dylid ei darllen ochr yn ochr â'r wybodaeth hon. Dylai myfyrwyr droi at y cynllun priodol sy’n berthnasol i’r flwyddyn astudio academaidd i wirio a ydynt yn gymwys a beth yw’r meini prawf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Gwnaed Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol (LlC23-04) ("y Cynllun") gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2023. Dylid darllen copi o’r Cynllun ochr yn ochr â’r wybodaeth ar y dudalen hon.

Mae Cynllun LlC23-04 yn weithredol o 1 Medi 2022 ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf ac sydd, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, yn dechrau ar raglen AGA ôl-raddedig sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig.

Myfyrwyr sy'n gwneud cais am grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am weinyddu ac asesu cymhwysedd myfyrwyr am Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ar ran Llywodraeth Cymru.

Dim ond os yw’r canlynol yn wir y gall myfyrwyr hawlio grant cymhelliant:

  • maent yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • maent yn astudio ar raglen gymwys
  • maent wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen gofrestru berthnasol

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau ynghylch p’un a ydynt yn gymwys, neu ynghylch gwneud cais am grant, neu os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.

Rolau a chyfrifoldebau

Gweinyddir Grantiau AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am daliadau a wneir pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am delerau ac amodau'r cynllun, a hi sy’n rheoli’r data personol a gesglir mewn perthynas â gweinyddu'r cynllun hwn.

Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA o ran gweinyddu’r grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • ddefnyddio'r cynllun cymhelliant i helpu’r broses o recriwtio i raglenni AGA cymwys lle bo hynny'n briodol
  • cefnogi'r rhai sy'n uniaethu â myfyrwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol i gofrestru ar y cynllun. Rhaid i fyfyrwyr uniaethu ag un o'r grwpiau ethnig cymwys, a disgwylir i’r manylion gyd-fynd â'r cofnodion a gedwir gan y Bartneriaeth AGA
  • sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y ffurflen gofrestru ar ddechrau'r rhaglen AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • casglu'r holl ffurflenni cofrestru wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd drwy ddull diogel i Lywodraeth Cymru
  • llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC(troednodyn 1) (a nodir yn eu llythyr cynnig grant)
  • gweinyddu taliadau grant SAC (Gorffennaf/Awst (troednodyn 1) i fyfyrwyr
  • delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant
  • hysbysu Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gŵyn a dderbynnir sy'n gysylltiedig â'r cymhelliant hwn, p’un a oes angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar y mater ai peidio

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Os bydd gan Bartneriaethau AGA gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun i Gymunedau Ethnig Lleiafrifol

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru, ac maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Mae’r Grantiau Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ar gael ar gyfer rhaglenni llawn-amser a rhan-amser.

Rhaid i Bartneriaethau AGA droi at y Cynllun sy'n berthnasol i'r flwyddyn astudio er mwyn gwirio p’un a yw myfyriwr yn gymwys. Mae'r cynllun cyfreithiol yn nodi'r gofynion statudol.

Rhaglenni cymwys

Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA ôl-raddedig lawn-amser neu ran-amser, gynradd neu uwchradd yng Nghymru, sydd wedi'i hachredu, ac sy'n arwain at SAC.

Myfyrwyr sy'n gymwys

I fod yn gymwys i gael Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, rhaid i fyfyriwr:

  • fod wedi dilyn rhaglen gymwys yng Nghymru a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi ond cyn 31 Awst y flwyddyn astudio 
  • bod yn gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o ddeddf Addysg Uwch 1998
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes wrth ddechrau astudio tuag at SAC
  • peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes wrth ddechrau ar raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
  • uniaethu â myfyrwyr o un o’r grwpiau ethnig canlynol a datgan hynny i'w Partneriaeth AGA:

Asiaidd:

  • Bangladeshaidd neu Fangladeshaidd Prydeinig
  • Tsieinïaidd neu Dsieinïaidd Prydeinig
  • Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
  • Pacistanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd:

  • Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
  • Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:

  • Gwyn neu Wyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Ddu Affricanaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Ddu Caribïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall

Gwyn:

  • Gwyn – Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Gwyn – Roma

Grŵp ethnig arall:

  • Arabaidd

I fod yn gymwys i gael rhandaliad SAC, rhaid i fyfyriwr:

  • fodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol 
  • bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus ac ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

I fod yn gymwys i gael y rhandaliad olaf, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i athro newydd gymhwyso:

  • fod wedi bodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant a bod wedi derbyn taliad cymhelliant SAC
  • bod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

Mae myfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn hefyd yn gymwys i hawlio cymhellion hyfforddiant athrawon eraill ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cynlluniau hynny sy'n ymwneud â'r flwyddyn astudio academaidd berthnasol.

Swm y grant

O dan y cynllun hwn mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r meini prawf o ran rhaglenni. 

Taliadau grant

Pryd y dylid gwneud pa daliadau i fyfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am y taliad SAC, ar ôl dyfarnu SAC.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y cymelldaliad olaf, a wneir pan ddyfernir bod y broses sefydlu wedi’i chwblhau.

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am benderfynu ar union ddyddiadau'r taliadau i fyfyrwyr. (Darperir manylion yn y llythyrau cynnig grant unigol i helpu gyda’r broses o bennu’r dyddiadau hyn.)

Bydd y taliadau cymhelliant gwerth £5,000 yn cael eu gwneud mewn dau randaliad, ar ddiwedd rhaglen AGA myfyriwr ac ar ddechrau ei yrfa:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC (pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, bydd y taliadau yn cael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr)
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Taliad SAC

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC y dylid gwneud y taliad SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.

Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad. Gweler adran berthnasol yr wybodaeth hon am ragor o fanylion.

Y cymelldaliad olaf 

Dim ond i'r athrawon newydd gymhwyso cymwys hynny sydd wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill SAC y dylid gwneud y cymelldaliad olaf.

Os bydd athro newydd gymhwyso yn methu â chwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus o fewn 3 blynedd i ennill SAC neu os nad yw wedi cael y taliad SAC o dan y cynllun cymhelliant hwn, ni ddylid gwneud y taliad.

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno ffurflenni cofrestru unigol ar gyfer pob myfyriwr cymwys i Lywodraeth Cymru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae'r ffurflen gofrestru yn cynnwys gwybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a gwerthuso'r cynllun. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu pob ffurflen gofrestru gyda Llywodraeth Cymru drwy ddull diogel, fel y’i pennir gan Swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae’r ffurflen gofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar we-dudalennau’r canllawiau i fyfyrwyr. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cymru, ni ellir gwneud taliadau grant.

Cyn pob rhandaliad SAC, rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.

Bydd ffurflenni cofrestru a ffurflenni hawlio yn cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol, a rhaid rhannu'r holl ffurflenni gyda Llywodraeth Cymru drwy ddull diogel fel y’i pennir gan Swyddogion Llywodraeth Cymru. Os ydych yn Bartneriaeth AGA a bod gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r broses dalu, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.

Sut caiff y taliad sefydlu ei talu i myfyrwyr

Dylai myfyrwyr gysylltu â ITEIncentives@gov.wales i gael gwybodaeth am y broses ac i gael y ffurflenni cywir.

Mae Llywodraeth Cymru angen y ddogfennaeth isod ar gyfer y taliad sefydlu:

  • cyflwyno ffurflenni hawlio Sefydlu (A1 ac A2) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
  • copi o dystysgrif Sefydlu a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg
  • cadarnhad o gymhwysedd (i'w gwblhau gan yr ysgol sefydlu)

Ffurflenni cais sefydlu

A1: Dychwelwch y ffurflen gais hon yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru (yn ITEIncentives@gov.wales).

A2:  Ar ôl cwblhau adrannau A i D o'r ffurflen hawlio sefydlu. 

Rhannwch y ffurflen a chopi electronig o'ch tystysgrif sefydlu gyda Phennaeth, Pennaeth, Dirprwy Bennaeth neu Bennaeth Adran, yr ysgol lle y cwblhawyd y cyfnod sefydlu.

Dylai’r ddogfennaeth uchod gael ei chyflwyno ar eich rhan gan y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu’r Pennaeth Adran a lofnododd y datganiad, ar ran yr ysgol lle y cynhaliwyd eich cyfnod sefydlu.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau cyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i’r taliad SAC. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen iddo lenwi Ffurflen Ohirio ac Ailgydio. Rhaid i’r myfyriwr lenwi’r Ffurflen Ohirio ac Ailgydio a rhaid i’r Bartneriaeth AGA ei chyflwyno drwy ddull diogel ynghyd â’r ffurflen hawlio briodol i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru i sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau.

Mae Ffurflenni Gohirio ac Ailgydio ar gael gan Lywodraeth Cymru. Caiff y ffurflenni a ddaw i law eu rhannu â Phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Adennill grantiau cymhelliant

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i’r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:

  1. os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  2. os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol; neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am y Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol am wybodaeth am eu hethnigrwydd. Gwneir hyn er mwyn sefydlu p’un a yw myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cynllun; i ddeall yr amrywiaeth gyffredinol sydd o fewn y garfan o fyfyrwyr; ac i geisio amcangyfrif amrywiaeth gweithlu'r dyfodol. Gofynnir i fyfyrwyr ddewis o restr o grwpiau ethnig sy'n adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, er mwyn sicrhau dull cyson o ddeall amrywiaeth ethnig o fewn addysg uwch yng Nghymru.

Bydd yr wybodaeth ar y ffurflen gofrestru ar gyfer y cymhelliant, y ffurflenni hawlio a’r ffurflenni gohirio ac ailgydio yn cael ei rhannu gyda phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan Gynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  1. a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  2. a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  3. a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd (PN00001019) a’n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Manylion cyswllt

Contact

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Os oes gan Bartneriaethau AGA neu Gyngor y Gweithlu Addysg unrhyw gwestiynau’n ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yn yr wybodaeth hon, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.

Caiff myfyrwyr sydd â chwestiwn am y cymhellion eu cyfeirio at eu Partneriaeth AGA.

Footnotes

(1)Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, dylai Partneriaethau AGA gyflwyno gwybodaeth wedi'i diweddaru i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr unigolyn hwnnw y dyfernir SAC yn llwyddiannus iddo er mwyn gallu gwneud y taliadau cyn 31 Rhagfyr.