Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n ofynnol i bob ceidwad defaid a geifr gwblhau stocrestr unwaith y flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn rhan o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

Yng Nghymru, mae'r stocrestr flynyddol yn gofnod o nifer y defaid sydd ar ddaliad ar 1 Ionawr bob blwyddyn. Dylai'r cofnod gynnwys:

  • defaid magu
  • hyrddod
  • ŵyn gwryw
  • ŵyn stôr ac ŵyn wedi'u pesgi
  • mamogiaid/hyrddod i’w difa, a
  • defaid eraill a geifr

Rhaid i chi hefyd gofnodi nifer y defaid a geifr ar eich daliad ar 1 Ionawr yn Llyfr y Ddiadell ar eich fferm.

Rhaid i chi restru yn y stocrestr bob rhif daliad (CPH) lle rydych chi'n berchennog y defaid a/neu'r geifr ar 1 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys tir comin a thir dros dro.

Os na fyddwch yn cwblhau'r stocrestr, rydych chi'n fwy tebygol o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.

Gallwch gwblhau'r stocrestr ar-lein ar eidcymru.org.

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost/llythyr ddiwedd mis Rhagfyr i ddweud wrthych sut i gwblhau'ch stocrestr.

Rhaid i chi gwblhau a chyflwyno eich stocrestr 2024 erbyn 1 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth: