Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020 at ddefnydd ysgolion a lleoliadau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy’n newid?

Cafodd canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru eu cyhoeddi gyntaf ym mis Ionawr 2020. Nod y canllawiau yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Maent hefyd yn berthnasol i leoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, unedau cyfeirio disgyblion a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol, gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Anogir ysgolion a lleoliadau i ddefnyddio’r canllawiau ar-lein yn uniongyrchol, yn hytrach na gweithio o gopïau caled sydd wedi’u hargraffu, i sicrhau eu bod yn defnyddio'r canllawiau diweddaraf sydd ar gael.

Er mwyn magu hyder bod cynlluniau ysgolion a lleoliadau yn cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm i Gymru, neu na fydd yr hyn sydd yno ar hyn o bryd yn newid yn sydyn, rydym wedi datblygu ffordd o ddiweddaru’r canllawiau sy’n cyd-fynd â chylchoedd cynllunio cwricwlwm ysgolion.

Mae diweddariadau i ganllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ar Hwb yn awr yn digwydd yn flynyddol bob mis Ionawr. Dim ond ar yr adeg honno bob blwyddyn fydd y canllawiau yn cael eu diweddaru.

Mae’r diweddariadau i’r canllawiau ar Hwb ar 31 Ionawr 2023, yn y rhan fwyaf o achosion, yn ychwanegiadau neu’n ddiwygiadau i adrannau sydd eisoes yn bodoli yn y canllawiau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys:

  • diwygio’r adran sy’n ymwneud â’r daith o gyflwyno'r cwricwlwm i adlewyrchu'r ffaith bod y cwricwlwm bellach yn cael ei weithredu
  • cywiro materion sy’n ymwneud â diffiniadau a hyperddolenni 
  • rhoi mwy o eglurder drwy fân ddiwygiadau i’r naratif yn dilyn adborth
  • egluro Maes y Dyniaethau mewn perthynas â hanes Cymru a'r byd
  • diweddaru i sicrhau’r derminoleg gywir

Mae'r diweddariadau hyn i'r canllawiau wrthi’n cael eu gwneud i helpu ysgolion a lleoliadau i gynllunio ar gyfer eu darpariaeth o fis Medi 2023 ymlaen.

Mae’r newidiadau i Faes y Dyniaethau mewn perthynas â hanes Cymru a'r byd yn parhau i fod yn amodol ar gwblhau gweithdrefnau'r Senedd ynghylch Cod Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig diwygiedig. Mae disgwyl i hyn gael ei gwblhau yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn amlinellu:

  • gofynion cwricwlwm arfaethedig a nodir mewn deddfwriaeth ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed, er mwyn sicrhau bod yr un dysgu angenrheidiol yn digwydd ym mhob ysgol, a sicrhau dull cyson ar gyfer yr holl ddysgwyr yng Nghymru
  • canllawiau i ysgolion a lleoliadau ynghylch datblygu eu cwricwla yn barhaus
  • disgwyliadau o ran trefniadau asesu i gefnogi cynnydd y dysgwyr

Diben cwricwlwm pob ysgol a lleoliad yw cynorthwyo’n plant a’n pobl ifanc i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Pam mae wedi newid?

Gwella addysg yw cenhadaeth ein cenedl. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol.

Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn datgan yn glir beth sy’n bwysig mewn addysg eang a chytbwys. Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a ffug-wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.

Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu.

Mae datblygu cwricwlwm yn awr wrth wraidd ymdrechion athrawon, ysgolion a’r genedl i godi safonau i bawb, mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac sy’n ennyn hyder y cyhoedd.

Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru wedi’i ddylunio i:

  • helpu athrawon i barhau i ddatblygu dull mwy integredig o ddysgu
  • cefnogi ysgolion a lleoliadau gyda datblygiad parhaus eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain
  • sicrhau fod asesu a chynnydd dysgwyr yn parhau i fod yn rhan ganolog o gwricwlwm lleoliad neu ysgol

Pryd wnaeth hyn newid?

Mae hi wedi bod yn ofynnol i bob ysgol gynradd a phob lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir yng Nghymru roi eu cwricwlwm ar waith ers mis Medi 2022 ar gyfer dysgwyr hyd at Flwyddyn 6. Roedd gan leoliadau uwchradd yr opsiwn o ymgysylltu â gofynion y Cwricwlwm i Gymru flwyddyn yn gynnar ym mis Medi 2022 o ran eu dysgwyr Blwyddyn 7. Penderfynodd tua hanner yr ysgolion uwchradd wneud hyn. Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn orfodol i bob dysgwr Blynyddoedd 7 ac 8 ym mis Medi 2023. Yna, bydd hi’n ofynnol i ysgolion uwchradd gyflwyno eu trefniadau cwricwla newydd fesul blwyddyn hyd at Flwyddyn 11 ym mis Medi 2026.

Wrth i'w cwricwlwm gael ei gyflwyno, dylai ysgolion ystyried sut y dylai eu cwricwlwm gael ei adolygu mewn ymateb i anghenion dysgu eu plant a’u pobl ifanc.

Sut cafodd y canllawiau eu datblygu?

Cafodd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru eu datblygu gan ymarferwyr drwy rwydwaith o ysgolion. Cafodd yr ysgolion hyn eu dwyn ynghyd o bob cwr o Gymru, gan gynnwys ysgolion o ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol; ysgolion dwyieithog, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg; ysgolion cynradd, uwchradd a rhai arbennig; ysgolion sydd â chymeriad crefyddol; ac ysgolion o wahanol feintiau.

I ddatblygu’r canllawiau hyn gweithiodd y rhwydwaith hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y consortia rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru ac amryw o randdeiliaid allweddol ac arbenigwyr a ddarparodd fewnbwn arbenigol.

Mae gan ymarferwyr fynediad at gyfleoedd Dysgu Proffesiynol penodol i’w helpu i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae consortia rhanbarthol a’u rhwydweithiau Ysgolion Dysgu Proffesiynol ac Ymholi yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac arbenigedd er mwyn i bob ysgol ddatblygu’r sgiliau addysgeg ac arweinyddiaeth hanfodol i wireddu’r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus.

Mae’r ymagwedd newydd radical tuag at ddylunio’r cwricwlwm, a’i ddatblygu’n barhaus, ynghyd â’r ffordd y caiff ei ddysgu yn gyfan gwbl gyson â’r syniad o ymddiried mewn pobl broffesiynol, a’u grymuso.

Newyddion cwricwlwm i Gymru

Cymerwch ran yn y sgwrs a chewch wybod am y diweddariadau parhaus i’r cwricwlwm trwy ein blog Cwricwlwm i Gymru.

Gallwch hefyd diweddaru’ch gwybodaeth drwy wrando ar podlediad Addysg Cymru.