Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer pwy mae’r Canllawiau hyn?

Nod y canllawiau hyn yw helpu Personau Cyfrifol i nodi’r hyn y mae angen iddynt ei wneud o ganlyniad i newidiadau a wnaed i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (‘y Gorchymyn Diogelwch Tân’) drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Fodd bynnag, nid yw’n cymryd lle cyngor arbenigol, felly os nad ydych yn glir ynghylch eich dyletswyddau ar ôl ystyried y canllawiau hyn, dylech ymgynghori â gweithiwr proffesiynol cymwys ym maes diogelwch tân.  Fe’ch cynghorir i wirio a ydych chi’n Berson Cyfrifol yma:

Gwiriwch eich cyfrifoldebau diogelwch tân o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

I ba adeiladau y mae’r gofynion diogelwch tân newydd hyn yn berthnasol?

Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i bob adeilad annomestig, fel lleoedd mae pobl yn gweithio, yn ymweld neu’n aros, gan gynnwys gweithleoedd a rhannau annomestig o adeiladau preswyl aml-ddeiliadaeth (ee coridorau cymunedol, grisiau, ystafelloedd peiriannau). Nid yw’r gofynion yn berthnasol mewn adeiladau domestig unigol.

Awdurdodau tân ac achub yw’r prif gorff gorfodi o hyd ar gyfer y Gorchymyn Diogelwch Tân, gan gynnwys y gofynion ychwanegol hyn. Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau a phwerau gorfodi sy’n ymwneud â diogelwch tân (ymysg pethau eraill) dan Ddeddf Tai 2004.  Y corff gorfodi yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn achos adeiladau nad ydynt yn cael eu meddiannu ar safle adeiladu, y Rheoleiddiwr Diogelwch Tân Amddiffyn ar gyfer safleoedd a feddiannir at ddibenion y lluoedd arfog, ac Arolygwyr a benodir gan Weinidogion Cymru ar gyfer adeiladau’r Llywodraeth nad ydynt yn rhai milwrol.

Cefndir adran 156 Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

Ym mis Ebrill 2022, cafodd y Bil Diogelwch Adeiladau Gydsyniad Brenhinol a ddaeth yn Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Effaith y ddeddfwriaeth newydd yw diwygio’r Gorchymyn Diogelwch Tân i gynnwys darpariaeth fanwl ynghylch cyfrifoldebau Personau Cyfrifol.  Mae rhai o’r darpariaethau allweddol yn:

  • ei gwneud yn ofynnol i’r holl Bersonau Cyfrifol gofnodi eu hasesiad risg tân wedi’i gwblhau, a’u trefniadau diogelwch tân, yn llawn (yn flaenorol, dim ond mewn amgylchiadau penodol oedd angen cofnodi gwybodaeth)
  • ei gwneud yn ofynnol i bob Person Cyfrifol ddarparu, i breswylwyr mewn adeilad sy’n cynnwys 2 set neu fwy o adeiladau domestig ac i unrhyw Berson Cyfrifol sy’n cymryd eu lle, pwy yw’r unigolyn (ei enw), a/neu os yw’n berthnasol, ei sefydliad (enw) sy’n gyfrifol am gynnal/adolygu unrhyw un neu’r cyfan o’r asesiad risg tân
  • ei gwneud yn ofynnol i’r holl Bersonau Cyfrifol ddarparu eu gwybodaeth gyswllt (a’i diweddaru yn ôl yr angen), gan gynnwys eu cyfeiriad yn y DU, a’i rhannu â Phersonau Cyfrifol eraill a phreswylwyr adeiladau preswyl aml-ddeiliadaeth lle bo hynny’n berthnasol
  • ei gwneud yn ofynnol i bob Person Cyfrifol gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i ganfod bodolaeth Personau Cyfrifol eraill sy'n rhannu neu sydd â dyletswyddau mewn perthynas â’r un adeilad. Rhaid iddynt wedyn roi gwybod beth yw eu henwau i’r personau hynny
  • ei gwneud yn ofynnol i’r Personau Cyfrifol sy’n ymadael rannu’r holl ‘wybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân’ (a restrir yn erthygl 22A o’r Gorchymyn Diogelwch Tân) â’r Personau Cyfrifol newydd
  • ei gwneud yn ofynnol i Bersonau Cyfrifol adeilad sy’n cynnwys 2 set neu fwy o adeiladau domestig ddarparu gwybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân i breswylwyr mewn fformat y mae’n hawdd i’r preswylwyr ei ddeall. Mae’r materion y mae’n rhaid darparu gwybodaeth amdanynt wedi’u rhestru yn erthygl 21A o’r Gorchymyn Diogelwch Tân;
  • cynyddu lefel y dirwyon a roddir am rai troseddau
  • cryfhau statws y canllawiau statudol a gyhoeddir o dan erthygl 50 y Gorchymyn Diogelwch Tân

Mae gofyniad deddfwriaethol hefyd sy’n nodi pan fydd y Person Cyfrifol yn penodi person i wneud neu adolygu’r asesiad risg tân, bod yn rhaid i’r person y mae’n ei benodi fod yn gymwys. Daw’r gofyniad deddfwriaethol hwn i rym yn ddiweddarach, a byddwn yn darparu canllawiau perthnasol yn y cyswllt hwnnw cyn y dyddiad cychwyn. Yn y cyfamser, os byddwch yn penodi asesydd risg tân, ein hargymhelliad yw eich bod yn sicrhau ei fod yn gymwys i wneud hynny, o ran bod ganddo ddigon o hyfforddiant, profiad a gwybodaeth. Mae’n dal yn wir fod gan y Person Cyfrifol ddyletswydd i sicrhau bod asesiad risg tân addas a digonol yn cael ei gwblhau.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut i gwblhau asesiad risg tân neu ddeall mwy am ddiogelwch tân yn eich adeilad.

Dyletswyddau pob person cyfrifol

Mae’r dyletswyddau newydd canlynol yn berthnasol i chi os mai chi yw’r Person Cyfrifol ar gyfer unrhyw adeilad sy’n cael ei reoleiddio gan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Cofnodi eich asesiad risg tân a gwybodaeth arall

Rhaid i chi nawr gofnodi’r asesiad risg tân yn llawn (gan gynnwys yr holl ganfyddiadau) a’r trefniadau diogelwch tân ar gyfer eich adeilad ym mhob sefyllfa.

Dylech ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl am ddiogelwch tân yn eich adeilad. Mae’r gofyniad newydd hwn yn disodli’r gofyniad blaenorol i gofnodi canfyddiadau arwyddocaol yr asesiad risg yn unig. Mae hefyd yn dileu’r cyfyngiadau blaenorol ar yr amgylchiadau lle mae’n ofynnol i chi gofnodi’r asesiad risg a’r trefniadau diogelwch tân yn eich adeilad, fel ei bod yn ofynnol i chi gofnodi’r wybodaeth hon dim ond os oedd 5 neu fwy o weithwyr neu os oedd yn destun hysbysiad trwyddedu neu newid. 

Os ydych chi’n cyflogi asesydd risg tân i’ch helpu i gwblhau asesiad risg tân, dylech gofnodi ei enw ac enw ei sefydliad lle bo hynny’n berthnasol. Bydd hyn yn sicrhau bod cofnod clir ar gyfer awdurdodau gorfodi ynghylch pwy sydd wedi cwblhau’r asesiad a bydd yn eich galluogi i rannu’r wybodaeth hon â’r preswylwyr (lle bo hynny’n berthnasol) ac unrhyw Berson Cyfrifol newydd sy’n dod ar eich ôl. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich asesiad risg tân yn addas ac yn ddigonol ac os ydych chi’n cyflogi rhywun i wneud hyn, dylech sicrhau ei fod yn gymwys i wneud hynny.

Cydweithio a chydlynu rhwng Personau Cyfrifol

Mae’n bwysig eich bod yn gweithio gyda Phersonau Cyfrifol eraill yn yr adeilad i helpu i hwyluso agwedd gydlynol tuag at ddiogelwch tân drwy’r adeilad cyfan. O’r herwydd, rhaid ichi gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i ganfod a oes unrhyw Bersonau Cyfrifol eraill ar gyfer yr adeilad sydd â dyletswyddau neu sy’n rhannu dyletswyddau mewn perthynas ag ef.

Er enghraifft, mewn adeiladau masnachol aml-ddeiliadaeth fel canolfannau siopa, byddai Personau Cyfrifol eraill nid yn unig yn cynnwys y busnesau eraill, byddent hefyd yn cynnwys landlord (ac o bosibl asiant rheoli) sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch yn yr adeilad.

Ar ôl i chi nodi bod Person(au) Cyfrifol eraill, bydd angen i chi roi i’ch gilydd eich enwau a’ch cyfeiriad yn y DU lle gallwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, dderbyn hysbysiadau a dogfennau eraill.

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i’ch gilydd am hyd a lled eich cyfrifoldebau dan y Gorchymyn Diogelwch Tân a chofnodi’r wybodaeth hon. Dylech wybod i ba raddau rydych chi’n gyfrifol am yr adeilad. Gallai hyn fod wedi’i nodi mewn contract, ond os nad ydych chi’n siŵr, rydym yn eich cynghori i gysylltu â pherchennog neu reolwr yr adeilad i benderfynu ar hyd a lled eich rheolaeth.  

Dylech ddarparu gwybodaeth yn ysgrifenedig, a chynghorir eich bod yn ei chofnodi mewn modd y gellir cael gafael arni’n rhwydd os bydd ei hangen arnoch fel tystiolaeth o rannu gwybodaeth. Mae’n ofynnol i chi gadw cofnod o’r wybodaeth a ddarparwyd am y rhannau o’r adeilad y mae gennych gyfrifoldebau drostynt. 

Mae’n hanfodol bod eich asesiad risg tân, ac unrhyw fesurau diogelwch tân rydych chi’n eu cymryd o ganlyniad iddo, yn cyd-fynd â’r asesiad(au) risg tân a’r mesurau diogelwch tân ar gyfer gweddill yr adeilad er mwyn darparu dull gweithredu adeiladu cyfan ar gyfer diogelwch tân.

Mae’n arfer da i chi roi gwybod i’r Personau Cyfrifol eraill cyn gynted â phosibl pan fydd Person Cyfrifol newydd yn cymryd cyfrifoldeb dros eich rhan chi o’r adeilad, er mwyn iddynt allu darparu’r wybodaeth angenrheidiol a nodir uchod i’r Person Cyfrifol newydd.

Darparu gwybodaeth i Bersonau Cyfrifol newydd

Mae hefyd yn ofynnol i’r Personau Cyfrifol sy’n gadael rannu unrhyw wybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân â’r Personau Cyfrifol newydd er mwyn darparu cofnod parhaus o wybodaeth am ddiogelwch tân drwy gydol oes yr adeilad. Byddai hyn yn cynnwys senarios lle byddech yn rhoi’r gorau i fasnachu, lle byddai Person Cyfrifol newydd yn cymryd drosodd, neu pe byddech yn gwerthu eich busnes neu rydd-ddaliad. Os mai chi yw’r Person Cyfrifol presennol, rhaid i chi ddarparu unrhyw “wybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân” i unrhyw Berson Cyfrifol newydd (a restrir yn erthygl 22A y Gorchymyn Tân yn Ddiogel) gan gynnwys:

  • y cofnodion asesu ac adolygu risg tân (gan gynnwys unrhyw wybodaeth am ddiogelwch tân a ddarperir gan Bersonau Cyfrifol eraill)
  • enw unrhyw berson a gynorthwyodd gyda’r asesiad/adolygiad risg tân
  • enw unrhyw Berson Cyfrifol arall sy’n gyfrifol am yr adeilad a’i gyfeiriad yn y DU, neu gyfeiriad rhywun sy’n gweithredu ar ran y Person Cyfrifol yn y DU, lle bydd yn derbyn hysbysiadau neu ddogfennau eraill
  • unrhyw wybodaeth a roddir o dan reoliad 38 o Reoliadau Adeiladu 2010 (megis yr wybodaeth a ddarperir pan fydd adeilad yn cael ei adeiladu neu ei ymestyn)

Os nad oes gennych chi fanylion cyswllt y Person Cyfrifol newydd, gallech ofyn i berchennog neu reolwr yr adeilad. Os nad yw’r manylion ganddo, neu os na allwch eu darparu, dylech roi’r holl wybodaeth angenrheidiol i berchennog neu reolwr yr adeilad er mwyn iddo allu anfon yr wybodaeth ymlaen at y Person Cyfrifol newydd pan fydd hyn wedi cael ei nodi. Dylech wneud cofnod ysgrifenedig eich bod wedi gwneud hyn.

Pan fydd anghydfodau’n codi mewn perthynas ag unrhyw un o’r dyletswyddau cydweithredu uchod a allai beryglu diogelwch tân, fel arfer dylech siarad â’r landlord neu’r rhydd-ddeiliad yn y lle cyntaf. Os na fydd hyn yn datrys y broblem, dylech gysylltu â’r awdurdod gorfodi perthnasol.

Dyletswyddau Personau Cyfrifol am adeiladau sy’n cynnwys 2 set neu fwy o adeiladau domestig

Mae’r dyletswyddau newydd canlynol hefyd yn berthnasol pan fydd eich adeilad yn cynnwys 2 set neu fwy o adeiladau domestig:

Darparu gwybodaeth i breswylwyr

Dylai’r newidiadau a wneir i’r Gorchymyn Diogelwch Tân wneud i bobl deimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi a sicrhau bod preswylwyr yn deall beth yr ydych yn ei wneud i gydymffurfio â’ch cyfrifoldebau. Mae’r gofynion newydd hyn yn mynd ymhellach i wella’r broses o ddarparu gwybodaeth a helpu preswylwyr i gael gwybodaeth a chael eu cynnwys. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn nodi eich enw a chyfeiriad yn y DU yn yr asesiad risg tân er mwyn ei gwneud yn haws i awdurdodau gorfodi eich adnabod.

Rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol i breswylwyr:

  • unrhyw risgiau i breswylwyr a nodwyd yn yr asesiad risg tân
  • y mesurau diogelwch tân a ddarperir ar gyfer diogelwch unrhyw un neu’r holl breswylwyr (fel y dull dianc, y mesurau i gyfyngu ar ledaeniad tân a’r hyn y dylai pobl ei wneud os bydd tân)
  • eich enw a’r cyfeiriad yn y DU lle byddwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, yn derbyn hysbysiadau neu ddogfennau eraill
  • enw unrhyw berson sydd wedi’i benodi i gynorthwyo gyda’r gwaith o greu neu adolygu’r asesiad risg tân
  • enw unrhyw berson cymwys a enwebir gan y Person Cyfrifol i roi mesurau diffodd tân ar waith
  • unrhyw risgiau i bersonau perthnasol yn yr adeilad sydd wedi cael eu nodi gan Bersonau Cyfrifol eraill yn yr adeilad

Dylid darparu’r wybodaeth berthnasol hon i breswylwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg lle bo’n bosibl, ac mewn ieithoedd eraill hefyd lle bo hynny’n briodol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y preswylwyr yn darllen ac yn deall yr wybodaeth am ddiogelwch tân a roddir iddynt am eu hadeilad. Mae cyngor cyffredinol ynghylch diogelwch tân eisoes ar gael gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn nifer o ieithoedd eraill.

Dylech ystyried darparu manylion cyswllt, os ydynt yn wahanol i’ch manylion cyswllt fel Person Cyfrifol, er mwyn i breswylwyr allu rhoi gwybod i chi am unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd ganddynt am faterion yn ymwneud â diogelwch tân neu’r wybodaeth a roddwyd iddynt.

Drwy reoliadau, gall Llywodraeth Cymru ddiweddaru’r rhestr o wybodaeth a ddylid ei darparu i breswylwyr er mwyn adlewyrchu datblygiadau mewn diogelwch tân yn y dyfodol, a nodi pa mor aml y dylid darparu’r wybodaeth ac ym mha fformat.

Newidiadau eraill i ddeddfwriaeth diogelwch tân

Yn ogystal â chyflwyno gofynion newydd ar gyfer Personau Cyfrifol, mae’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau yn diwygio erthyglau eraill y Gorchymyn Diogelwch Tân:

Troseddau

Mae erthygl 32 o’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn nodi nifer o droseddau y gall Person Cyfrifol eu cyflawni mewn perthynas â’i ddyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Mae adran 156 o’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau wedi cynyddu lefel y ddirwy ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â dynwared arolygydd yn dwyllodrus yn fwriadol, methiant i gydymffurfio (heb esgus rhesymol) â gofynion penodol a osodir gan arolygydd (megis drwy beidio â darparu copi o’r asesiad risg tân pan ofynnir amdano), a methiant i gydymffurfio â gofynion sy’n ymwneud â gosod arwyddion tiwb golau, o Lefel 3 (£1,000) i Lefel 5 (diderfyn). Dim ond o’r dyddiad y daw’r ddeddfwriaeth newydd i rym y bydd y lefel newydd y dirwyon yn dod i rym (hy os caiff trosedd ei chyflawni cyn 1 Hydref 2023, yna byddai lefel is y dirwyon yn dal yn berthnasol).

Mae hyn yn cysoni lefel y ddirwy sy’n bosibl ar gyfer y troseddau hyn â phob trosedd arall, ac yn ataliad rhag peidio â chydymffurfio.

Canllawiau

Mae erthygl 50 o’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw ganllawiau sy’n briodol yn eu barn hwy ar gael i helpu Personau Cyfrifol i gyflawni eu dyletswyddau.

Mae adran 156 o’r Ddeddf Diogelwch Adeiladau yn cryfhau statws holl ganllawiau erthygl 50 drwy ddarparu, mewn achos llys ar gyfer honiadau o dorri’r Gorchymyn Diogelwch Tân, y gellir dibynnu ar gydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddwyd o dan erthygl 50, neu wyro oddi wrthynt, fel rhai sy’n penderfynu a yw’r Gorchymyn Diogelwch Tân wedi’i dorri ai peidio.