Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r rhaglen Cymru ac Affrica yn annog ac yn helpu pobl yng Nghymru i gyfrannu at yr ymgyrch i drechu tlodi yn Affrica.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru ac Affrica yn ariannu ac yn datblygu prosiectau sy'n creu cyfleoedd i ddysgu, cyfnewid sgiliau, gweithio ar y cyd, a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Mae'r rhaglen yn cefnogi'r prosiectau a’r mudiadau canlynol:

Cynllun Grantiau Cymru ac Affrica

Mae'r cynllun grantiau hwn yn rhoi cyllid i grwpiau a chymdeithasau cymunedol yng Nghymru ar gyfer prosiectau bach Cymru-Affrica.

Mae 4 thema i'r prosiectau a ariennir:

  • iechyd
  • bywoliaethau cynaliadwy
  • dysgu gydol oes
  • yr amgylchedd a’r newid yn yr hinsawdd

Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Cynhelir dau gylch ariannu bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymgeisio, ewch i WCVA.

Hub Cymru Affrica

Mae Hub Cymru Affrica yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant i grwpiau a mudiadau cymunedol, o ran codi cyllid ar gyfer prosiectau bach sydd wedi eu lleoli yn Affrica.

Mae hefyd yn trefnu digwyddiadau i roi cyngor i'r rheini sy'n gweithio ym maes datblygu rhyngwladol yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Hub Cymru Africa.

Maint Cymru

Mae'r prosiect Maint Cymru yn ymgyrchu i amddiffyn ardal Fforestydd Glaw sydd ddwywaith maint Cymru.

Mae'r prosiect Mbale Trees yn brosiect a gefnogir gan Maint Cymru, ac mae wedi plannu dros 9 miliwn o goed, gan gynnwys un ar gyfer pob plentyn sydd wedi ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru, fel rhan o gynllun PLANT! Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn a phrosiectau eraill Maint Cymru, ewch i Maint Cymru.

Masnach Deg Cymru

Mae Masnach Deg Cymru yn cefnogi ac yn datblygu gweithgarwch masnach deg yng Nghymru.

Mae Masnach Deg Cymru hefyd yn gweithio i annog pobl i brynu cynnyrch Masnach Deg yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Masnach Deg Cymru.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost: walesandafrica@gov.wales neu ewch i Wales and Africa ar Twitter.