Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae'r atodiad hwn yn cyfeirio at Lyfryn Canllawiau Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd 1 Gorfennnaf 2022. Mae'r holl newidiadau ac ychwanegiadau a wnaed i Adran F - Taliadau llyfryn gwreiddiol.

Mae hyn bellach wedi newid i:

Adran F – Taliadau

Hawliadau

Dim ond drwy ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein y cewch wneud hawliad i’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau. Gwneir taliadau pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi cael ei wneud a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â’r contract y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Gallwch gyflwyno mwy nag un hawliad, ond rhaid i bob hawliad fod ar gyfer eitem gyfan. Er enghraifft, os ydych wedi derbyn contract i brynu dwy eitem, Storfeydd a sianeli trosglwyddo tanlawr a Tanc ar gyfer storio dŵr sydd ychydig yn frwnt, gallech hawlio’r ddwy eitem ar wahân, ond ni chewch gyflwyno hawliad ar gyfer rhan o gost un eitem.

I dderbyn taliad gan y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau rhaid ichi wneud y canlynol:

  • Derbyn contract o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau o fewn 30 diwrnod calendr i’r dyddiad mae’n cael ei gynnig a chydymffurfio â’r holl ofynion.
  • Sicrhau mai dim ond ar ôl i gontract gael ei gynnig ichi yr ydych yn prynu'r eitemau a restrir yn eich contract.
  • Sicrhau eich bod wedi prynu'r holl eitemau sydd wedi'u rhestru ar eich contract.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno eich hawliad.
  • Cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SDCau os oes angen.
  • Cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein ar ôl i'ch contract gael ei gyhoeddi, ynghyd â'r holl ddogfennau ategol, erbyn y dyddiad cau ar 31 Mawrth 2025.

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sydd heb eu cyflwyno drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad.

Nid ystyrir hawliad yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno drwy dudalen Hawlio Grantiau RPW Ar-Lein, ynghyd â'r holl ddogfennau ategol.

Cewch gyflwyno eich hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir derbyn cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio, a rhaid gwneud yn ysgrifenedig, gan nodi eich rhesymau, drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Ni roddir unrhyw estyniadau y tu hwnt i 31 Mawrth 2025.

Dogfennau i Ategu eich Hawliad

Rhaid ichi gyflwyno'r canlynol gyda'ch cais:

  • Tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem rydych wedi hawlio amdani.
  • Anfonebau ar gyfer pob eitem rydych wedi hawlio amdani.
  • Ffotograff â geotag o'r eitem/eitemau ar eich fferm.

Os na roddir tystiolaeth bydd y cais yn cael ei wrthod.

Rhaid i anfonebau ddangos y gair 'anfoneb' ar y ddogfen a chynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw a chyfeiriad eich cwmni a manylion cyswllt
  • enw a chyfeiriad y cwmni anfonebu
  • disgrifiad clir o'r hyn yr ydych yn talu amdano
  • dyddiad darparu'r nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm/symiau a godir am bob eitem
  • y TAW, os yw'n gymwys
  • y cyfanswm sy'n ddyledus

Dylid rhoi tystiolaeth o dalu drwy gyfriflenni banc. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyd-fynd â gwerth yr anfoneb (er enghraifft, os ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn rhan o'r prosiect o'r un cyflenwr), bydd angen dadansoddiad o'r taliad cyfan gydag anfonebau atodol.

Os ydych yn gwneud taliadau â siec, yna bydd angen sganio neu dynnu llun o'r siec wedi'i hysgrifennu, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc.

Ffotograff â geotag sy'n cynnwys gwybodaeth am y lleoliad o fewn data'r ffotograff. Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol â chysylltiad â'r rhyngrwyd yn cofnodi'r cyfesurynnau GPS yn awtomatig. Maent hefyd yn cofnodi'r dyddiad a'r amser y tynnwyd y ffotograff.

Bydd canllawiau manwl ar y ffotograffau â geotag sydd eu hangen a sut i gyflwyno ffotograffau â geotag, sy'n benodol i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau, ar gael ar y wefan yn ystod y cam hawlio. 

Cewch gyflwyno’r anfonebau a thystiolaeth eu bod wedi cael eu talu drwy eu sganio a’u hanfon drwy 'Fy negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.