Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer Partneriaethau AGA i gefnogi cynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae cynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn darparu grant o £15,000 i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â thystysgrif addysg achrededig i raddedigion (TAR). Rhaid i'r rhaglen arwain at statws athro cymwysedig (SAC). Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Mae’r cynllun hwn ar gael i ddarpar athrawon amser llawn a rhan-amser.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR cyflogedig'.

Nid yw'r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO).

Dogfennau'r cynllun

Mae dogfennau cynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael eu diweddaru'n flynyddol. 

Rhoddir llythyr dyfarnu grant a chontract i Bartneriaethau AGA i gefnogi'r cynllun hwn.

Mae'r dogfennau canlynol ar gael i'r cyhoedd eu gweld mewn perthynas â'r cynllun: 

  • Cynllun cyfreithiol.
  • Hysbysiad preifatrwydd.
  • Canllawiau'r cynllun i weinyddwyr a myfyrwyr.

Mynediad at gynlluniau cyfreithiol, canllawiau i fyfyrwyr a hysbysiadau preifatrwydd.

Rhoddir y dogfennau canlynol i Bartneriaethau AGA mewn perthynas â'r cynllun: 

  • Llythyr dyfarnu grant.
  • Contract ar gyfer gweinyddu'r grant.

Mae'r dogfennau hyn yn nodi gofynion y cynllun a byddant yn help wrth wirio cymhwysedd myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr bod y flwyddyn astudio gywir wedi'i nodi ar y dogfennau yr ydych yn eu darllen. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cynllun hwn neu gynlluniau o flynyddoedd blaenorol, cysylltwch â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.

Bydd union ddyddiadau'r taliadau i Bartneriaethau AGA yn cael eu nodi yn y llythyr dyfarnu grant.

Myfyrwyr amser llawn

O dan y cynllun hwn, bydd y taliadau cymhelliant gwerth £15,000 yn cael eu gwneud mewn 3 rhandaliad, yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR, wrth barhau â'i raglen AGA. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.

Myfyrwyr rhan-amser

Gwneir y cymelldaliadau o £15,000 mewn pedwar rhandaliad yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR, wrth barhau â'i raglen AGA. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR, wrth barhau â'i raglen AGA. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y taliad hwn.

Myfyrwyr a aseswyd gan fwrdd arholi ailgyflwyno

Dylai Partneriaethau AGA gyflwyno ffurflen hawlio ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu hasesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno ac sydd wedi derbyn SAC. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl gwneud taliadau cyn 31 Rhagfyr.

Sut mae hawliadau yn cael eu gweinyddu

Mae system ymgeisio ar-lein newydd ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026. 

Gall myfyrwyr ddefnyddio'r broses ar-lein i wneud cais am un neu sawl cymhelliant. 

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • asesu cymhwysedd myfyrwyr ar gyfer y cymhelliant hwn
  • dilysu ceisiadau myfyrwyr
  • gwneud y taliadau i fyfyrwyr yn ystod y rhaglen a thaliadau SAC 

Maent yn gwneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.

Dim ond os yw’r canlynol yn wir y gall myfyrwyr gael grant cymhelliant:

  • maent yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • maent wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwe-ddolen i Bartneriaethau AGA i'r ffurflen gais ar-lein ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu hon â myfyrwyr y maent yn eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn. 

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau, dylent gysylltu â'u Partneriaeth AGA.

Taliadau yn ystod y rhaglen

Dim ond i fyfyrwyr sy'n parhau â'u rhaglen AGA y dylech dalu taliadau yn ystod y rhaglen. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau tymor yr hydref a dechrau tymor y gaeaf neu'r gwanwyn gyda'r bwriad o barhau â'u hastudiaethau, er mwyn parhau i fod yn gymwys i gael y taliad yn ystod y rhaglen .

Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu'n ôl neu wedi gohirio rhaglen cyn dyddiad talu'r taliad yn ystod y rhaglen, ni ddylid ei dalu. Gweler yr adran 'gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio' yn y canllawiau hyn.

Taliad SAC

Dim ond i’r myfyrwyr hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC y dylech wneud y taliad SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.

Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.

Taliad sefydlu

Mae'r taliad sefydlu yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i athrawon sydd newydd gymhwyso ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl taliad sefydlu o dan un neu fwy o'r cynlluniau cymhelliant. Mae angen i'r ysgol gadarnhau manylion yr unigolyn.

Gweler yr adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu am fanylion rôl Partneriaeth AGA. 

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Caiff y cynllun cymhelliant hwn ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA. 

Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am daliadau a wneir yn ystod y rhaglen ac ar ôl dyfarnu SAC.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y taliad sefydlu. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r cynllun, a hi sy'n rheoli data'r cynllun.

Cyfrifoldebau Partneriaeth AGA o ran gweinyddu’r grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y broses gais ar-lein ar ddechrau'r rhaglen AGA. Mae'r broses gais ar-lein yn cwmpasu pob un o'r tri chynllun cymhelliant AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • dilysu ceisiadau myfyrwyr
  • rhannu'r wybodaeth am fyfyrwyr, sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynllun, â Llywodraeth Cymru (er enghraifft, adroddiad dilysu, ffurflenni hawlio), mewn modd diogel, sy'n cydymffurfio â gofynion diogelu data a thelerau'r llythyr dyfarnu grant
  • llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau taliadau yn ystod y rhaglen, a nodir yn y llythyr dyfarnu grant
  • llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC, a nodir yn y llythyr dyfarnu grant
  • cefnogi myfyrwyr i lenwi ffurflen gohirio ac ailgydio, yn ôl yr angen
  • gweinyddu taliadau yn ystod y rhaglen a thaliadau SAC i fyfyrwyr
  • delio â chwestiynau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant
  • cynghori myfyrwyr ar y broses hawliadau sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth a gwe-ddolen i'r ffurflen gais ar-lein â nhw, fel y nodir yn y llythyr dyfarnu a'r adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu
  • rhoi anfoneb i Lywodraeth Cymru am gost gweinyddu'r cynllun, fel y nodir yn y contract

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA a'r dyddiadau pwysig eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau dyfarnu grant a llythyrau contract unigol. Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Ceisiadau gan fyfyrwyr

Gall myfyrwyr wneud cais ar-lein am y cynllun cymhelliant hwn rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd. Rhaid iddynt gwblhau ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru a Phartneriaethau AGA i weinyddu a gwerthuso'r cynllun. 

Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r canlynol i Bartneriaethau AGA: 

  • gwe-ddolen i'r ffurflen gais ar-lein
  • cod ymgeisio'r Bartneriaeth AGA 

Dylai Partneriaethau AGA rannu'r wybodaeth hon â myfyrwyr cymwys i'w galluogi i wneud cais o fewn yr amserlen berthnasol.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar-lein ar agor rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd. Os bydd angen i fyfyriwr wneud cais y tu allan i'r amserlen hon, dylai Partneriaethau AGA gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru. Mae'r ddolen i'r ffurflen gais ar-lein yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn unig. 

Bydd cod ymgeisio yn cael ei roi i'r Bartneriaeth AGA bob blwyddyn. Pwrpas y cod hwn yw dilysu'r cais a wneir, gan gysylltu myfyrwyr â Phartneriaethau AGA penodol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu adroddiad dilysu ceisiadau â Phartneriaethau AGA cyn 30 Tachwedd. Mae'n ofynnol i Bartneriaethau AGA ddilysu'r wybodaeth o fewn yr adroddiad hwn a darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen. Rhaid dychwelyd yr adroddiad dilysu at Lywodraeth Cymru erbyn 15 Rhagfyr. Mae'r amserlen hon yn gydnaws â'r broses hawlio. 

Mae'r llythyr dyfarnu grant yn darparu manylion am y broses hon. Bydd yr adroddiad dilysu hefyd yn darparu canllawiau ar gyfer ei chwblhau. 

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflenni hawlio i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau ar gyfer rhandaliadau yn ystod y rhaglen a rhandaliadau SAC. 

Dyma'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno hawliadau: 

  • 1 i 13 Ionawr ar gyfer taliadau yn ystod y rhaglen
  • 1 i 17 Awst ar gyfer taliadau SAC 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y llythyr dyfarnu grant. 

Dylai Partneriaethau AGA roi anfoneb i Lywodraeth Cymru unwaith y cytunir ar bob hawliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghontract gweinyddu'r cynllun. 

Dylai Partneriaethau AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ynghylch y broses dalu at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran gweinyddu’r grant

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dalu'r rhandaliad sefydlu o dan y cynllun cymhelliant. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu.

Y broses taliadau sefydlu

Rhaid i unigolion ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl taliad sefydlu o dan y cynllun cymhelliant. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwe-ddolen i'r ffurflen gais i Bartneriaethau AGA. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu hon â'r myfyrwyr cymwys hynny ar ôl dyfarnu SAC iddynt. 

Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau eu proses sefydlu a derbyn eu tystysgrif sefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant wneud cais am daliad.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am y broses sefydlu, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy e-bostio CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Y broses hawliadau sefydlu

Mae 3 rhan i broses hawliadau sefydlu AGA: 

  1. Ffurflen gais am randaliad sefydlu (rhaid i'r ymgeisydd gwblhau hon ar-lein).
  2. Cadarnhad gan yr ysgol sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu wneud hyn ar-lein).
  3. Tystysgrif sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu gyflwyno copi ohoni i Lywodraeth Cymru).

Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn 3 rhan y broses y bydd cais sefydlu yn cael ei ystyried yn gyflawn. 

Gall athrawon sydd newydd gymhwyso neu ysgolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Hawliad sefydlu Rhan 1

Rhaid i unigolion cymwys wneud cais i Lywodraeth Cymru i hawlio eu rhandaliad sefydlu drwy gwblhau cais ar-lein o dan y cynllun cymhelliant. 

Gall unigolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Hawliad sefydlu Rhannau 2 a 3

Rhaid i'r ysgol lle cwblhawyd cyfnod sefydlu athro sydd newydd gymhwyso gadarnhau cais sefydlu o dan gynllun cymhelliant AGA. I wneud hyn, gofynnir iddynt lenwi ffurflen gadarnhau ar-lein a chyflwyno copi o dystysgrif sefydlu'r ymgeisydd i Lywodraeth Cymru. 

Dylai Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol neu Bennaeth Adran ysgol lenwi rhannau 2 a 3 o'r ffurflen hawlio hon. Bydd methu â darparu cadarnhad neu gyflwyno'r dystysgrif sefydlu yn golygu bod cais yr ymgeisydd am randaliad sefydlu AGA yn cael ei wrthod. 

Bydd yr holl gyfarwyddiadau i gwblhau rhannau 2 a 3 yn cael eu rhoi'n uniongyrchol i'r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth, y Pennaeth Cynorthwyol neu'r Pennaeth Adran. Os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon, gallant gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, gwneir taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi ffurflen gohirio ac ailgydio. Rhaid i'r myfyriwr gwblhau'r ffurflen hon a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rhaid i Bartneriaethau AGA gynnwys y manylion hyn yn y ffurflen hawlio briodol.

Mae ffurflenni gohirio ac ailgydio ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gais. Caiff ffurflenni a gwblheir eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a'u rhannu â'r Bartneriaeth AGA berthnasol. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.

Taliadau yn ystod y rhaglen (a delir ym mis Ionawr)

Os yw myfyriwr amser llawn yn gohirio ei astudiaethau: 

  • cyn y bydd y taliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus,
  • neu os nad yw'n dychwelyd neu'n bwriadu dychwelyd i'w raglen AGA, 

ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd ar ôl dyfarnu SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau cyn y bydd y taliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd yn ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr).

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn y taliad cyntaf yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr ei flwyddyn gyntaf) a chyn y bydd yr ail daliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus (ym mis Ionawr ei ail flwyddyn), ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail daliad a oedd i'w dalu yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr ail flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd ar ôl dyfarnu SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Ni chaiff myfyrwyr amser llawn sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn y bydd y taliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus unrhyw daliad.

Ni chaiff myfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn y bydd y taliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, yn eu blwyddyn gyntaf, unrhyw daliad. Ni chaiff myfyrwyr rhan-amser a dderbyniodd y taliad cyntaf yn ystod y rhaglen (ym mis Ionawr eu blwyddyn gyntaf), ond sy'n tynnu'n ôl cyn y bydd yr ail daliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus (ym mis Ionawr eu hail flwyddyn), unrhyw daliad pellach.

Taliad SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn taliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad SAC ar ôl dyfarnu SAC iddo. Mae'n rhaid i'r ffurflen gohirio ac ailgydio fod wedi'i chwblhau a'i derbyn gan Lywodraeth Cymru. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl cwblhau rhaglen (ar ôl dyfarnu SAC).

Os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y taliad cyntaf, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r taliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.

Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen hawl i gael y taliad SAC.

Taliad sefydlu

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y taliad sefydlu.

I barhau i fod yn gymwys i dderbyn y taliad sefydlu: 

  • Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru.
  • Rhaid gwneud cais ar-lein i Lywodraeth Cymru o fewn blwyddyn ar ôl i'r athro newydd gymhwyso gwblhau ei gyfnod sefydlu. 

Myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn 2022 ac sy'n dychwelyd

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac a ddychwelodd ar ôl Medi 2023 yn symud i'r strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn. Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir o dan Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, ond gan dynnu unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes. Nid yw taliadau tymhorol ar gael bellach o dan y cynllun hwn.

Adennill grantiau cymhelliant

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn neu beidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Gall Llywodraeth Cymru arfer y pwerau hyn o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os yw’r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a nodir yn y cynllun cyfreithiol mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais
  • neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu ar ôl ei chwblhau

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u cais o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ei disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael o dan y Cyllid, neu mewn cysylltiad ag ef, i’r graddau y mae’n ofynnol iddi ddatgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Byddai hyn yn golygu rhannu eich data personol ag asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gesglir gennym yn cael eu rheoli yn unol â’n Hysbysiad preifatrwyddHysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Cefndir cyfreithiol

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Mae'r grant hwn ar waith i annog unigolion i hyfforddi ar gyfer y proffesiwn addysgu, mynd i mewn i'r proffesiwn addysgu, ac aros yno. Nid yw cymhellion AGA yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol ("y Cynllun"). Gwnaed y Cynllun gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ar 11 Tachwedd 2024. Mae'r Cynllun yn cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob Cynllun yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr AGA ôl-raddedig, sy'n astudio eu rhaglen AGA achrededig mewn pwnc penodedig, gael manteisio ar y cymhellion.