Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory: arweiniad i fyfyrwyr
Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ôl-radd uwchradd achrededig sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Gymraeg fel pwnc, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn Gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cynllun hwn wedi bod ar gael ers 2018 ac mae'n cefnogi strategaeth iaith Gymraeg 2050, uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r Cynllun cyfreithiol yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr AGA ôl-radd uwchradd, sy’n astudio eu rhaglen AGA achrededig drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n hyfforddi i addysgu Cymraeg fel pwnc, iddynt gael manteisio ar y cymhellion hyn.
Rhaid i fyfyrwyr edrych ar y cynllun priodol sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio i weld a ydynt yn gymwys. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.
Blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Nid yw Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory 2022 (2022 WG20-64) (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru ym mis Chwefror 2022.
Daw Cynllun 2022 i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru sydd, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, yn dechrau ar raglen AGA sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy gyfrwng y Gymraeg neu hyfforddiant i addysgu Cymraeg fel pwnc.
Blwyddyn academaidd 2021 i 2022
Lluniwyd Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory 2021 (2021 WG20-64) (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2021.
Daw Cynllun 2021 i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru sydd, rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022, yn cychwyn rhaglen AGA sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n hyfforddi i ddysgu Cymraeg fel pwnc.
Blwyddyn academaidd 2020 i 2021
Cafodd Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory 2020 (2020 WG20-06) ("y Cynllun") ei wneud gan Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2020.
Daeth Cynllun 2020 i rym ar 1 Medi 2020 ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru sy’n dechrau rhaglen AGA rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig drwy gyfrwng y Gymraeg, neu sy’n hyfforddi i addysgu’r Gymraeg fel pwnc. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau.
Blwyddyn academaidd 2018 to 2019
Cafodd Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory 2018 (2018 Rhif 42) ("y Cynllun") ei wneud gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ar 7 Rhagfyr 2017. Mae copi o’r Cynllun ar gael yma (Atodiad A).
Rhaid i gynllun 2018 fod wedi arwain at Statws Athro Cymwysedig rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019, a chael ei redeg gan ddarparwr AGA a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory?
Mae'r grantiau cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen AGA ôl-radd uwchradd achrededig gymwys yng Nghymru sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu Cymraeg fel pwnc.
Mae'r grantiau cymhelliant ar gael ar gyfer rhaglenni amser llawn a rhan-amser.
I fod yn gymwys i gael grant cymhelliant, rhaid i'r myfyriwr:
- fod wedi ymgymryd â rhaglen gymwys, a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi, ond cyn 31 Awst fel y nodir yn y cynllun cyfreithiol
- bod yn gymwys i gael cymorth o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym
- peidio â bod eisoes yn athro cymwysedig wrth ddechrau astudio tuag at SAC
- peidio â bod wedi'i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes
- peidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, yn cynnwys TAR cyflogedig
- i dderbyn y rhandaliad cyntaf; bod wedi cwblhau rhaglen gymwys yn llwyddiannus a bod wedi cael SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 sydd mewn grym ac
- i dderbyn yr ail randaliad; bod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir, neu fod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu’n llwyddiannus fel athro neu athrawes Gymraeg mewn unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 a bod wedi derbyn y rhandaliad cyntaf.
Er mwyn i raglen AGA fod yn gymwys, rhaid iddi:
- fod wedi’i hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg
- arwain at Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru
- galluogi'r myfyriwr i addysgu mewn lleoliad uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu Cymraeg fel pwnc
Mae gan Weinidogion Cymru ddisgresiwn i beidio â thalu grant cymhelliant i unigolion sydd wedi'u derbyn ar raglen gymwys ar ôl i'r targed derbyn ar gyfer y rhaglen honno gael ei gyrraedd. Dylai unigolion cymwys geisio cadarnhad gan eu darparwr nad yw hyn yn effeithio arnynt.
Nodir yr wybodaeth gyflawn am gymhwysedd ac amodau yn y Cynllun, a dylid ei darllen ochr yn ochr â'r wybodaeth hon. Rhaid i fyfyrwyr edrych ar y cynllun priodol sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio i weld a ydynt yn gymwys. Mae’r cynllun cyfreithiol ar gael yma.
Nid yw’r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni AGA cymwys cyn 2018.
Ni fydd gan fyfyrwyr sy'n gymwys i gael grant cymhelliant ac sy'n gadael rhaglen AGA ôl-radd cyn ei chwblhau hawl i unrhyw grant.
Bydd myfyrwyr cymwys sy'n ailgydio mewn rhaglen gymwys, neu sy'n dechrau rhaglen gymwys lle gohiriwyd mynediad (ei atal dros dro), yn gymwys i hawlio'r ddau randaliad. Dim ond os na chaiff eu rhaglen ei gohirio am fwy nag un flwyddyn academaidd y bydd myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael y grant cymhelliant.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cymhwysedd, dylech eu trafod gyda’ch darparwr AGA, ac os na allan nhw ateb eich cwestiynau, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru
Pa grant sydd ar gael?
Blwyddyn academaidd 2019 ac ymlaen/hyd yma
Ers mis Medi 2019, o dan y cynlluniau hyn mae grant cymhelliant o hyd at £5,000 ar gael ac fe fydd yn parhau i gael ei dalu mewn dau randaliad o £2,500 i fyfyrwyr cymwys.
Ni thelir grant i unigolyn oni bai ei fod wedi gwneud cais i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Blwyddyn academaidd 2018 i 2019
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o hyd at £3,000 ochr yn ochr â'r cyllid grant hyfforddi o £2,000 ar gyfer y Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg, ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglenni AGA cymwys a ddechreuodd rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019. Telir y grant hwn mewn dau randaliad, sef £500 a £2,500.
Ni thelir grant i unigolyn oni bai ei fod wedi gwneud cais i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Sut i hawlio taliadau grant
Dim ond os ydynt yn darparu'r dogfennau perthnasol i Lywodraeth Cymru o fewn yr amserlenni priodol y bydd myfyrwyr yn gallu hawlio'r grantiau o dan gynllun cyfreithiol:
- ffurflen Gofrestru erbyn 31 Mawrth
- ffurflen hawlio SAC o fewn blwyddyn i ennill SAC
- ffurflen hawlio ymsefydlu o fewn blwyddyn i gwblhau’r cyfnod ymsefydlu
Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am sicrhau bod pob ffurflen hawlio yn cael ei chwblhau’n briodol a’i hanfon yn electronig ar fformat PDF, a thrwy gyfrwng diogel, at Lywodraeth Cymru drwy ITEIncentives@llyw.cymru o fewn yr amserlen a ddynodwyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod y ffurflen pan fydd wedi’i derbyn. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod negeseuon e-bost yn cyrraedd yn ddiogel.
Dylai myfyrwyr gadw copïau o hawliadau ac e-byst a anfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cofnodion. Dylid cadw hefyd bob cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod negeseuon e-bost wedi’u derbyn. Dylid eu storio'n ddiogel a dylent fod yn hawdd cael gafael arnynt ar ôl gadael y brifysgol a'r ysgol ymsefydlu. Os nad yw myfyriwr wedi cael e-bost yn cadarnhau bod ei hawliad neu neges wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru o fewn 10 diwrnod, dylai gymryd yn ganiataol nad yw wedi cyrraedd.
Os na fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ffurflenni hawlio a thystiolaeth ategol yn llawn neu os cânt eu derbyn y tu allan i'r amserlen a ddynodwyd, ni wneir taliad.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn nodi'r broses a'r dogfennau gofynnol ar gyfer gwneud taliadau.
Sefydlu'r broses dalu
Dylai Darparwyr AGA dynnu sylw myfyrwyr at y ffaith eu bod yn gymwys i hawlio'r cymhelliant hwn a dylent roi arweiniad i bob myfyriwr cymwys ar y broses.
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr cymwys gyflwyno ffurflen manylion cyflenwr i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth y flwyddyn astudio. Dylai’r myfyriwr ddarparu cyfeiriad e-bost personol ar y ffurflen a sicrhau bod y ffurflen yn cael ei danfon i Lywodraeth Cymru o’r cyfeiriad e-bost personol a ddarperir.
Mae ffurflen manylion cyflenwr yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn bosibl gwneud taliadau prydlon ar ôl derbyn hawliad. Bydd yr holl daliadau hawlio yn cael eu talu'n uniongyrchol i'r cyfrif a nodir ar y ffurflen hon. Os bydd y cyfrif hwn yn newid ar unrhyw adeg cyn ichi dderbyn yr ail daliad, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru i i newid eich manylion. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau.
Dylid ffurflen manylion cyflenwr cael ei gwblhau gyda chyfeiriad e-bost personol a chael ei gyflwyno’n electronig mewn ffordd ddiogel o’r cyfeiriad e-bost personol hwnnw, i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru erbyn 31 Mawrth y flwyddyn astudio. Ni thelir yr arian fel arall. Bydd angen i chi ymgyfarwyddo â'r canllaw hwn a'r ddogfen 'sut i' cyn cyflwyno'r ffurflen fanylion cyflenwr.
Mewn canllawiau blaenorol rydym yn cyferio at ffurflen manylion cyflenwr, mae hon wedi cael ei disodli gan ffurflen gofrestru. Derbynnir ffurflen manylion cyflenwr a gyflawnyd yn flaenorol. Ni dderbynir ffurflen manylion cyflenwr a gyflwynir ar ol Ebril 2022.
Sut i hawlio'r taliad grant cyntaf
Gellir hawlio'r taliad cyntaf o £2,500 ar gyfer myfyrwyr cymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-radd uwchradd gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Cyfrifoldeb y myfyriwr yw holi ei ddarparwr AGA i sicrhau ei fod yn gymwys i hawlio'r grant hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am y dogfennau isod cyn y gwneir y taliad cyntaf:
- ffurflen hawlio SAC
- copi o dystysgrif SAC gan Gyngor y Gweithlu Addysg
Dylid cyflwyno’r dogfennau uchod yn electronig a thrwy gyfrwng diogel i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru o fewn blwyddyn ar ôl i’r myfyriwr ennill ei SAC. Ni chaiff ffurflenni hawlio a ddaw i law ar ôl y amserlen hon eu hystyried. Mae'n ofynnol i lofnodwr awdurdodedig ar ran y Darparwr AGA gwblhau datganiad ar y ffurflen hawlio SAC. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw cael hwn cyn cyflwyno'r ffurflen hawlio.
Dylai myfyrwyr cymwys sicrhau eu bod wedi darllen a deall y cynllun cyfreithiol sy'n berthnasol i'r flwyddyn astudio ynghyd ag unrhyw wybodaeth a ddarperir i gefnogi'r cynllun gan Lywodraeth Cymru.
Dylai myfyrwyr cymwys sicrhau eu bod wedi darllen yr hysbysiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r flwyddyn astudio a deall sut y bydd eu data personol yn cael ei ddefnyddio a'i rannu.
Ni ellir talu'r taliad cyntaf oni bai bod y myfyriwr wedi cyflwyno ffurflen manylion banc cyn 31 Mawrth y flwyddyn astudio. Rhaid derbyn yr holl ddogfennau o fewn yr amserlenni a ddynodwyd. Ni thelir yr arian fel arall.
Sut i hawlio'r ail daliad grant
Gellir hawlio'r ail daliad o £2,500 ar gyfer myfyrwyr cymwys ar ôl cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir neu’n addysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru.
Ni ellir hawlio'r ail daliad oni bai bod y myfyriwr wedi hawlio'r taliad cyntaf o fewn yr amserlenni a ddynodwyd.
Roedd Llywodraeth Cymru yn gofyn am y dogfennau isod cyn gwneud yr ail daliad:
- ffurflen hawlio ymsefydlu
- copi o dystysgrif Ymsefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg
Mae'n ofynnol i Benaethiaid, Dirprwy Benaethiaid neu Benaethiaid Adran yr ysgol lle y digwyddodd y cyfnod ymsefydlu lofnodi datganiad ar ddiwedd y ffurflen hawlio ymsefydlu i gadarnhau bod y myfyriwr cymwys wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus yn ei ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir neu drwy addysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru.
Dylai’r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu’r Pennaeth Adran a lofnododd y datganiad ar ran yr ysgol lle cwblhawyd y cyfnod ymsefydlu gyflwyno’r dogfennau uchod ar ran y myfyriwr. Ni ddylid llofnodi na chyflwyno'r ffurflen nes bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i gwblhau'n llawn.
Dylid cyflwyno’r ffurflenni yn electronig, drwy gyfrwng diogel, i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru o fewn blwyddyn ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei gyfnod ymsefydlu. Ni thelir yr arian fel arall. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod hyn wedi'i wneud.
Pryd gallaf ddisgwyl derbyn y taliadau grant?
Dylai myfyrwyr dderbyn y taliad grant o fewn 10 diwrnod ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn ffurflen hawlio wedi'i chwblhau'n llawn a'r holl ddogfennau ategol. Os na fydd myfyriwr wedi cael cadarnhad bod ei ffurflen wedi dod i law fel y nodir yn yr adran ‘Sut i hawlio taliadau grant’, dylai ailgyflwyno’r ffurflenni neu gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.
Bydd y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr cymwys, fel y nodir yn y ffurflen manylion banc a gwblhawyd gan y myfyriwr ym mis Mawrth y flwyddyn astudio. Os yw'r manylion hyn wedi newid, cyfrifoldeb y myfyriwr yw rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru.
Ni thelir hawliad os nad yw'r darparwr AGA neu'r ysgol ymsefydlu wedi rhoi cadarnhad o gymhwysedd y myfyriwr.
Adennill grantiau a dalwyd
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.
Efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau hyn:
- os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy'n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol neu
- os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu, ar ôl ei chwblhau, nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu
-
os yw’r dyfarniad SAC a/neu’r trefniadau ymsefydlu yn cael eu dirymu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- p’un a ddylid ddatgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
- p’un a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
- p’un a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a'n tudalen 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.
Cwestiynau cyffredin
Beth yw cyfanswm gwerth y grant cymhelliant hwn?
Mae hyd at £5,000 ar gael o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory.
A yw'r grant cymhelliant yn drethadwy?
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn adran anweinidogol yn Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gasglu trethi. Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan Cyllid a Thollau ar eu hamgylchiadau unigol.
Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar gymorth arall i fyfyrwyr?
Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o'ch incwm at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr sy'n seiliedig ar incwm y cartref. Felly, ni ddylid ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm trethadwy heb ei ennill; fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan eu darparwr cyllid myfyrwyr ar eu hamgylchiadau unigol.
Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar fudd-daliadau?
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn un o adrannau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt ar eich amgylchiadau unigol.
A fydd y grant hyfforddi yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr?
Na, ddim os ydych yn dilyn cwrs llawnamser. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar p’un a ydych hefyd yn ennill cyflog (drwy waith nad yw'n gysylltiedig ag AGA) sy'n ddigon uchel i sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.
Efallai y caiff yr ad-daliadau benthyciad eu sbarduno ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen, ennill SAC a dechrau ennill cyflog fel athro.
Sut caiff y grant hyfforddi ei dalu?
Cyn belled â bod yr holl feini prawf cymhwysedd perthnasol wedi'u bodloni a bod y dogfennau'n cael eu darparu, gwneir taliadau mewn dau randaliad yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru i gyfrif banc yr hawlydd. Gwneir taliadau cymhelliant eraill ar wahân.
A yw'r grant cymhelliant yn bensiynadwy?
Nac ydy.
A yw athrawon yn gymwys i gael y grant cymhelliant os yw eu swydd addysgu wrth gwblhau'r cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol, coleg chweched dosbarth, neu Sefydliad Addysg Bellach?
Nac ydyn. At ddibenion hawlio'r grant hyfforddi, rhaid i'r hawlydd fod wedi cwblhau ei gyfnod ymsefydlu mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir neu drwy addysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru.
Enillais Statws Athro Cymwysedig drwy lwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth, ydw i'n gymwys i gael y grant cymhelliant?
Nac ydych. Nid yw athrawon sy'n ennill Statws Athro Cymwysedig drwy lwybrau sy'n seiliedig ar gyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i dderbyn y grant cymhelliant.
Cwestiynau pellach?
Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau’n ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yn yr wybodaeth hon, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru