Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ôl-radd uwchradd achrededig sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Gymraeg fel pwnc, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer hyrwyddo'r gwaith o recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu.

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn Gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory wedi bod ar gael ers 2018 ac mae'n cefnogi strategaeth iaith Gymraeg 2050, uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae'r Cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr AGA ôl-radd uwchradd, sy’n astudio eu rhaglen AGA achrededig drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n hyfforddi i addysgu Cymraeg fel pwnc, iddynt gael manteisio ar y cymhellion hyn.

Nid yw’r cynlluniau hyn ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni AGA cymwys cyn 2018.

Rhaid i fyfyrwyr a darparwyr AGA edrych ar y cynllun cyfreithiol priodol sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio i weld a ydynt yn gymwys. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru

Sut caiff hawliadau eu gweinyddu

Gweinyddir Cymhellion Iaith Athrawon Yfory gan Lywodraeth Cymru, a dylai’r myfyriwr wneud cais uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae gan bartneriaethau AGA ac ysgolion ymsefydlu rôl hollbwysig o ran cefnogi myfyrwyr cymwys i hawlio o fewn yr amserlenni a ddynodwyd.

Mae manylion llawn y cynlluniau cyfreithiol, y meini prawf cymhwysedd, y cyllid, sut i hawlio, taliadau ac adennill grantiau a dalwyd ar gael i fyfyrwyr, partneriaethau AGA ac ysgolion ymsefydlu.

Cyfrifoldebau a sut i hawlio taliadau grant

Dim ond os ydynt yn darparu'r dogfennau perthnasol i Lywodraeth Cymru o fewn yr amserlenni priodol y bydd myfyrwyr yn gallu hawlio'r grantiau o dan gynllun cyfreithiol.

Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am sicrhau bod pob ffurflen yn cael ei chwblhau’n briodol a’i hanfon yn electronig ar fformat PDF, a thrwy gyfrwng diogel, at Lywodraeth Cymru drwy ITEIncentives@llyw.cymru o fewn yr amserlen a ddynodwyd. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod negeseuon e-bost yn cyrraedd yn ddiogel.

Dylai myfyrwyr ac ysgolion ymsefydlu gadw copïau o hawliadau ac e-byst a anfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cofnodion.

Os na fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn dogfennau yn llawn neu os cânt eu derbyn y tu allan i'r amserlen a ddynodwyd, ni wneir taliad. Mae gwybodaeth gyflawn ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n gwneud ceisiadau a hawliadau am grantiau.

Mae canllawiau i fyfyrwyr a chanllawiau ‘sut i’ ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n gymwys i hawlio a dylid eu darllen yn llawn cyn cwblhau unrhyw ddogfennaeth.

Cyfrifoldebau Darparwyr AGA

Dylai Darparwyr AGA nodi pa fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y grant hwn a’u cyfeirio at yr wybodaeth a’r ffurflenni hawlio perthnasol.

Mae’n ofynnol i Ddarparwyr AGA gyflwyno rhestr o lofnodwyr awdurdodedig bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am yr wybodaeth hon yn uniongyrchol gan ddarparwyr AGA, a rhaid dychwelyd yr holl wybodaeth cyn 1 Mehefin yn barod ar gyfer hawliad cyntaf y myfyriwr.

Rhaid i lofnodwyr awdurdodedig gwblhau datganiad ar ffurflen gofrestru y myfyriwr i gadarnhau ei fod yn gymwys i hawlio’r cymhelliant hwn. Os na dderbynnir yr wybodaeth hon, ni fydd myfyrwyr yn gallu hawlio eu taliad cyntaf.

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr cymwys gyflwyno ffurflen manylion cyflenwr i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth y flwyddyn astudio. 

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw holi ei ddarparwr AGA i sicrhau ei fod yn gymwys i hawlio'r grant hwn, a bod y darparwr wedi cadarnhau wrth Lywodraeth Cymru ei fod yn gymwys.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses neu eich cyfrifoldebau o dan y cynllun cymhelliant hwn, cysylltwch ag ITEIncentives@llyw.cymru

Mewn canllawiau blaenorol rydym yn cyferio at ffurflen manylion cyflenwr, mae hon wedi cael ei disodli gan ffurflen gofrestru. Derbynnir ffurflen manylion cyflenwr a gyflawnyd yn flaenorol. Ni dderbynir ffurflen manylion cyflenwr a gyflwynir ar ol Ebril 2022.

Cyfrifoldebau ysgolion ymsefydlu

Er mwyn hawlio’r ail daliad, bydd angen cyflwyno ffurflen hawlio ymsefydlu i Lywodraeth Cymru ynghyd â chopi o dystysgrif ymsefydlu’r myfyriwr, a ddarperir gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'n ofynnol i Benaethiaid, Dirprwy Benaethiaid neu Benaethiaid Adran yr ysgol lle y digwyddodd y cyfnod ymsefydlu lofnodi datganiad ar y ffurflen hawlio ymsefydlu i gadarnhau bod yr athro sydd newydd gymhwyso wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus yn ei ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir neu drwy addysgu Cymraeg yn eu lleoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru.

Dylai’r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu’r Pennaeth Adran a lofnododd y datganiad ar ran yr ysgol lle cwblhawyd y cyfnod ymsefydlu gyflwyno’r dogfennau ar gyfer yr ail hawliad ar ran y myfyriwr.  Dylid cyflwyno'r ffurflen hawlio a chopi o’r dystysgrif ymsefydlu yn electronig, drwy gyfrwng diogel, i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru o fewn blwyddyn ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus. Ni thelir yr arian fel arall.

Cyfrifoldeb yr athro sydd newydd gymhwyso yw sicrhau bod hyn wedi'i wneud.

Ni thelir hawliadau oni bai bod yr ysgol ymsefydlu wedi cadarnhau bod yr athro sydd newydd gymhwyso yn gymwys.

Pryd gall myfyriwr ddisgwyl derbyn y taliadau grant

Dylai myfyrwyr dderbyn y taliad grant o fewn 10 diwrnod ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn ffurflen hawlio wedi'i chwblhau'n llawn a'r holl ddogfennau ategol. Os na fydd myfyriwr wedi cael cadarnhad bod ei ffurflen wedi dod i law fel y nodir yn yr adran ‘Sut i hawlio taliadau grant’, dylai ailgyflwyno’r ffurflenni neu gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  1. p’un a ddylid ddatgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  2. p’un a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  3. p’un a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth.  Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a'n tudalen 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Cwestiynau pellach?

Mae gwybodaeth lawn i fyfyrwyr sy'n gysylltiedig â Chynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gael ar ein tudalen canllawiau i fyfyrwyr.

Os oes gan Ddarparwyr AGA, ysgolion ymsefydlu neu fyfyrwyr unrhyw gwestiynau’n ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yn yr wybodaeth hon, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru