Canllawiau, Dogfennu
Cynllun Lesio Cymru: taflen
Sut y gall landlordiaid ag eiddo i’w osod ei lesio drwy eu hawdurdod lleol.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 80 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ydych chi’n landlord sydd ag eiddo i’w rentu? Ydych chi wedi ystyried ei lesio drwy eich awdurdod lleol?
Mae Cynllun Lesio Cymru, y cynllun lesio a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig gwarant o incwm rhent am 5 – 20 mlynedd.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig y manteision canlynol:
- Gwarant o incwm rhent am gyfnod y les
- Dychwelyd yr eiddo ichi ar ddiwedd cyfnod y les yn yr un cyflwr ag yr oedd ar ddechrau’r les, ac eithrio’r hyn fyddai’n cael ei ystyried fel traul rhesymol
- Yr holl atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn cael eu trefnu gan yr awdurdod lleol am hyd cyfnod y les
- Rhent yn cyfateb i gyfradd y Lwfans Tai Lleol
- Grant o hyd at £5000 ar gyfer unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud i’r eiddo er mwyn bodloni safonau Llywodraeth Cymru. Neu grant hyd at £25,000 ar gyfer eiddo gwag
- Cymorth rheoli tenantiaeth a chymorth tai parhaus yn cael ei ddarparu gan weithwyr cymorth o fewn yr awdurdod lleol er mwyn helpu’r tenant i gadw’r denantiaeth a gofalu am yr eiddo
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.