Neidio i'r prif gynnwy

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd ar gyfer 2022.

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd.

Cynnyrch Domestig Gros (GDP)

Yn 2022, amcangyfrifwyd mai cyfanswm GDP yng Nghymru oedd £85.4 biliwn, mewn prisiau cyfredol. Cynyddodd GDP yng Nghymru 3.8% rhwng 2021 a 2022 mewn mesurau cyfaint cadwynog, yn dilyn cynnydd o 5.3% yn 2021. 

Yn 2022, amcangyfrifwyd fod GDP ar gyfer y DU wedi cynyddu 4.3% yn dilyn cynnydd o 8.7% yn 2021. 

Nododd holl wledydd a rhanbarthau'r DU dwf negyddol yn 2020 oherwydd effaith economaidd eang pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac yna adferiad rhannol yn 2021.

O bedair gwlad y DU, Cymru welodd yr ail gynnydd mwyaf mewn GDP real o 3.8% rhwng 2021 a 2022, tu ôl i Loegr ar 4.2%. 

Cynyddodd GDP real y pen yng Nghymru gan 2.9% yn 2022 o’i gymharu â 2021 ac oedd yn £27,274 ym mhrisiau presennol. 

Gwerth Ychwanegol Gros (GYG, Cytbwys)

Cyfanswm GYG Cymru yn 2022 oedd £74.5 biliwn, i fyny 9.5% ers 2021 a chynnydd o 9.6% ers 2019. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 9.7% ar gyfer y DU, dros yr un cyfnod, a 12.5% ers 2019.

Y cynnydd ar gyfer Cymru a'r DU oedd y mwyaf ers dechrau cadw cofnodion ac roeddent yn deillio'n bennaf o’r adferiad yn dilyn y pandemig COVID-19.

£23,804 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2022, i fyny 8.6% ers 2021. Cynyddodd GYG y pen ar gyfer y DU (ac eithrio extra-regio) 8.7%.

Roedd GYG gweithle'r pen yng Nghymru yn 2022 yn 72.1% o ffigwr y DU (ac eithrio extra-regio), yr ail isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Mae hyn yn debyg yn eang i'r blynyddoedd blaenorol. 

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is eraill ar gael (awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau).

Nodiadau

  • Mae GDP a GYG wedi ei roi ar brisiau sylfaenol cyfredol. 
  • Caiff effeithiau chwyddiant GDP eu dileu yn nhermau real drwy ddal prisiau drwy gydol y gyfres ar y lefel mewn blwyddyn sylfaen ddewisol.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Emma Horncastle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.