Neidio i'r prif gynnwy

Cytundebau dwyochrog rhyngwladol sydd wedi’u llofnodi gan Lywodraeth Cymru a gwledydd a rhanbarthau ar draws y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cytundeb dwyochrog yn cofnodi dealltwriaeth rhwng dau neu fwy o bartïon na fwriedir iddo rwymo mewn cyfraith. Gallant fod ar ffurf un ddogfen a gallant fod ag enwau amrywiol.

Ers datganoli, mae Gweinidogion Cymru wedi llofnodi nifer o gytundebau dwyochrog gyda gwledydd a rhanbarthau eraill er mwyn meithrin perthynas sy'n fuddiol i bawb a sbarduno cydweithredu pellach ar draws nifer o feysydd polisi.

O ystyried eu natur ddi-rwymiad, nid yw rhai cytundebau yn cael eu hadnewyddu tra bo eraill yn darfod ac yn cael eu defnyddio’n llai a llai dros amser. Gall hyn fod o ganlyniad i newid mewn ffocws polisi, diffyg ewyllys gwleidyddol, neu yn syml mae'r cydweithio y cytunwyd arno wedi'i gyflawni neu wedi dod i ben yn naturiol. Mae'r tabl canlynol yn rhestru ein cytundebau dwyochrog gweithredol ar lefel gwlad neu ranbarthol:

    Québec: Datganiad o Fwriad

    Llofnodwyd 2020

    Meysydd cydweithio:

    • Yr Economi
    • Arloesi
    • Diwylliant
    • Polisi iaith
    • Addysg

    Gwlad y Basg: Memorandwm Dealltwriaeth

    Ail-lofnodwyd yn 2021

    Meysydd cydweithio:

    • Symudedd a Thrafnidiaeth
    • Yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd
    • Technoleg, Arloesi a Chystadleugarwch
    • Ynni’r Môr
    • Bwyd-Amaeth
    • Addysg a Hyfforddiant 
    • Strategaeth a Pholisi Cyllidol
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Busnes

    Iwerddon: Datganiad ar y Cyd

    Llofnodwyd 2021

    Meysydd cydweithio:

    • Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol
    • Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd
    • Masnach a Thwristiaeth
    • Addysg ac Ymchwil
    • Diwylliant, Iaith a Threftadaeth
    • Cymunedau, Diaspora a Chwaraeon 

    Rhaglawiaeth Oita: Memorandwm Dealltwriaeth

    Llofnodwyd 2022

    Meysydd cydweithio:

    • Y Celfyddydau a Diwylliant
    • Chwaraeon
    • Y Byd Academaidd
    • Twristiaeth
    • Bwyd a Diod

    Fflandrys: Memorandwm Dealltwriaeth

    Llofnodwyd 2023

    Meysydd cydweithio:

    • Digido
    • Addysg
    • Ymchwil
    • Dyfodol Cynaliadwy
    • Polisi iaith
    • Gofal Cymdeithasol
    • Diwylliant

    Llydaw: Memorandwm Dealltwriaeth

    Ail-lofnodwyd yn 2023

    Meysydd cydweithio:

    • Diwylliant
    • Polisi Iaith
    • Twristiaeth
    • Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol
    • Datblygu Cynaliadwy
    • Addysgu ac Ymchwil
    • Ieuenctid, Chwaraeon a Dinasyddiaeth Ewropeaidd
    • Amaethyddiaeth, Bwyd-Amaeth a Datblygu Gwledig
    • Yr Economi ac Arloesi
    • Seiberddiogelwch
    • Iechyd, Polisi Cymdeithasol a Chydraddoldeb

    Baden-Württemberg: Cyd-ddatganiad Cydweithredu

    Llofnodwyd 2023

    Meysydd cydweithio:

    • Masnach ac Entrepreneuriaeth
    • Gwyddoniaeth ac Ymchwil
    • Addysg ac Ieuenctid
    • Diwylliant a Chymunedau
    • Yr Amgylchedd a Diogelu’r Hinsawdd