Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymrwymodd Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru Plaid Cymru i "gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero-net erbyn 2035 – y dyddiad targed cyfredol yw 2050. Bydd hyn yn edrych ar yr effaith ar gymdeithas a sectorau o'n heconomi a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut y caiff y costau a'r manteision eu rhannu'n deg".

Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn, bydd angen dadansoddi ymchwil a data, cynnwys ystod eang o randdeiliaid ac arweinyddiaeth gref.

Mae'r dull o gyflawni'r ymrwymiad yn dal i gael ei ddatblygu, ond gallaf hysbysu'r Senedd, mae Jane Davidson wedi cytuno'n garedig i gadeirio'r gwaith. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan Jane brofiad ac arbenigedd helaeth a'r gallu i ddod â phobl ynghyd i herio'r sefyllfa bresennol. Yr wyf yn ddiolchgar i Jane am gytuno i gadeirio'r gwaith hwn. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.