Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ('y Bil') a’r Memorandwm Esboniadol ar ei gyfer wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru ('y Senedd').

Mae'r Bil hwn yn gam allweddol o ran cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at wella ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru ac at leihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi.

Mae'r Bil yn ymdrin ag wyth pwnc gwahanol.  Yn gryno, bydd yn:

  • darparu fframwaith ar gyfer gosod targedau cenedlaethol mewn perthynas ag ansawdd aer;
  • diwygio'r ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes mewn perthynas â:
  • y Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol,
  • rheoli ansawdd aer yn lleol,
  • rheoli mwg,
  • cynlluniau codi tâl ar gefnffyrdd;
  • cerbydau’n segura;
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth am lygredd aer;
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth seinwedd genedlaethol,
  • rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â sŵn.

Drwy gynnwys seinweddau yn y cynigion sydd yn y Bil, mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni’u hamcan i greu ac i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i gysoni polisïau ar sŵn, seinwedd ac ansawdd aer. Drwy gyflwyno’r Bil hwn, Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i gynnwys seinwedd mewn deddfwriaeth.

Mae angen gweld y Bil mewn cyd-destun eang, ac nid ar ei ben ei hun. Mae'n rhan hanfodol o becyn o fesurau a amlinellir yn ein Cynllun Aer Glân i leihau llygredd yn yr awyr ac i wella’r amgylchedd aer yng Nghymru.

Ac yntau’n rhan o'r pecyn hwn o fesurau, bydd y Bil yn hwyluso gwelliannau i ansawdd ein hamgylchedd aer ar lefel Cymru gyfan, ar lefel leol a rhanbarthol, a thrwy'n cymdeithas drwyddi draw. Bydd hefyd yn cyfrannu at ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, ochr yn ochr ag ymdrechion i leihau anghydraddoldeb.

Drwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, rydym hefyd am wneud y cyfraniad mwyaf posibl at wireddu’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae Aelodau'r Senedd wedi bod yn galw am Fil Aer Glân i Gymru. Rydym wedi cydweithio'n agos gyda'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddeddf Aer Glân i Gymru er mwyn ystyried eu safbwyntiau nhw wrth inni ddatblygu'r cynigion ar gyfer y Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda’r Aelodau a rhanddeiliaid ar gynigion y Bil yn ystod y misoedd nesaf.