Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o ddweud bod adolygiad annibynnol yr Athro Evans o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21 wedi ei gyhoeddi. Mae'r adolygiad hwn, dan arweiniad yr Athro Elwen Evans KC, yn gam pwysig er mwyn ein helpu i ddeall yr ymateb i lifogydd yng Nghymru a gweithredu yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Hoffwn ddiolch i'r Athro Evans am ei gwaith ac rwy'n ddiolchgar i'r Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Aelodau'r Senedd a gyfrannodd at y broses. 

Mae cyhoeddi'r adroddiad yn golygu y bydd ymrwymiad arall yn cael ei gyflawni o dan y cytundeb cydweithredu ar y cyd â Phlaid Cymru ac mae'n gam pwysig o ran gwella sut rydym yn rheoli perygl llifogydd, gan gynnwys yr ymateb i achosion o lifogydd a’u heffaith, ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan ein Hawdurdodau Rheoli Risg i leihau'r risg i'n cymunedau ond mae hefyd yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Mae'r adolygiad desg hwn yn tynnu sylw at newidiadau strategol ac ymarferol a newidiadau i bolisïau a allai gryfhau’r broses o ymchwilio i lifogydd wrth gydnabod y cyfyngiadau o fewn y fframwaith presennol.

Wrth i Gymru fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd, rydym i gyd wedi gweld y dinistr y gall llifogydd ei achosi i gymunedau ledled Cymru. Ni fyddwn byth yn gallu atal yr holl lifogydd, ond mae'r gwaith a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithredu a thrwy ein buddsoddiad parhaus yn dangos ein hymrwymiad i leihau'r risg i'n cymunedau 'mewn perygl' ledled Cymru, gan eu helpu i fod â mwy o ymwybyddiaeth ac i baratoi'n well pe bai'r gwaethaf yn digwydd.

Yn ystod y tair blynedd ers y stormydd, mae ein rhaglen rheoli perygl llifogydd wedi darparu cyllid o £194 miliwn i awdurdodau rheoli risg i leihau'r risg o lifogydd i gymunedau ledled Cymru.

Rydym wedi darparu dros £13 miliwn i awdurdodau lleol drwy ein Grant Gwaith Graddfa Fach. Mae hynny'n cynnwys bron i 300 o gynlluniau i wella darnau bach o seilwaith. Rydym yn amcangyfrif bod hyn wedi lleihau'r perygl o lifogydd i dros 6,500 o dai.

Yn ogystal yn y 18 mis ar ôl Storm Dennis, dyfarnodd Llywodraeth Cymru bron i £9.3 miliwn mewn cyllid brys i Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i atgyweirio seilwaith llifogydd critigol a ddifrodwyd gan nifer o stormydd.

Drwy’r Cytundeb Cydweithredu, a chan edrych ar y tymor hwy, mae’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol wedi cael y dasg o ystyried sut gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd ar draws y genedl erbyn 2050.

Mae datrysiadau sy'n seiliedig ar natur hefyd yn hanfodol i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, wrth fynd i'r afael â materion sy'n deillio o'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd camau rheoli tir cynaliadwy megis adfer gwlyptiroedd, plannu coed a gwrychoedd a chreu rhwystrau bylchog, a fydd yn helpu i leihau'r risg o lifogydd ond hefyd yn cyfrannu at ystod eang o'n nodau i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a'r argyfwng natur, megis gwella bioamrywiaeth, dal mwy o garbon, a lleihau llygredd. Mae'r datrysiadau arloesol hyn yn hanfodol ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau rheoli llifogydd naturiol (NFM) ledled Cymru, gyda mwy na £3 miliwn o gyllid grant ar gael drwy ein rhaglen Rheoli Llifogydd Naturiol sy'n hyrwyddo 15 prosiect sy'n cael eu cyflawni gan 10 Awdurdod Rheoli Risg (RMAs) gwahanol. Bydd prosiectau'r dyfodol hefyd yn gweld mwy o gydweithio rhwng RMAs a rheolwyr tir i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur i leihau'r perygl o lifogydd.

Rydym yn gwybod y byddai effeithiau llifogydd wedi bod yn waeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oni bai am ein rhwydwaith o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein Hawdurdodau Rheoli Perygl. Dyna pam rydym yn parhau i ddarparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, er mwyn darparu'r modd i'n Hawdurdodau Rheoli Perygl adeiladu a chynnal y seilwaith rydym yn dibynnu arno i gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag yr heriau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

O ganlyniad i natur gymhleth rheoli perygl llifogydd, bydd angen ystyried canfyddiadau'r adolygiad hwn yng nghyd-destun adolygiadau ac adroddiadau eraill sydd wedi'u cwblhau ac sydd heb eu gorffen eto. Roedd ffocws yr adolygiad hwn yn un darn pwysig o’r ecosystem adrodd ehangach a bydd angen ei ystyried ochr yn ochr ag adolygiadau eraill sydd wrthi'n cael eu cynnal gan Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a gwaith sydd eisoes yn cael ei gyflawni fel rhan o'r Strategaeth Genedlaethol. Bydd y gwelliant parhaus yn y maes hwn a gefnogir gan y llywodraeth hon yn helpu'r ffordd rydym yn cefnogi cymunedau i addasu a pharatoi yn yr hinsawdd hon sy’n newid.

Bydd fy swyddogion yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion adolygiadau'r Athro Evans yn unol â'r adolygiadau ehangach a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru, y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a chan Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru a sut y caiff y rhain eu datblygu.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwn byddaf yn cyflwyno datganiad llafar ar 12 Medi yn y Senedd.