Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn dathlu deng mlynedd y mis hwn ers lansio gwasanaeth arloesol Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. Mae wedi cefnogi mwy na 390,000 o entrepreneuriaid a busnesau, wedi helpu i greu dros 19,000 o fusnesau newydd ac wedi helpu’n uniongyrchol i greu bron 47,000 o swyddi yn economi Cymru.

Ar ben hynny, mae’r gwasanaeth hwn wedi helpu i ysbrydoli miloedd o entrepreneuriaid newydd. Drwy Syniadau Mawr Cymru, mae ei rwydwaith o dros 500 o entrepreneuriaid sy’n fodelau rôl wedi darparu mwy na 22,000 o weithdai a digwyddiadau ysbrydoledig, gan gyrraedd cynulleidfa o fwy na hanner miliwn o oedolion a phobl ifanc.

Gyda chefnogaeth gwasanaeth prif ffrwd Busnes Cymru a chan weithredu ochr yn ochr ag ef, mae gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru sy'n darparu cyngor arbenigol ar fentergarwch cymdeithasol wedi cefnogi bron 300 o fusnesau newydd ac wedi helpu i greu dros 1,100 o swyddi newydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Mae'r gwasanaeth nid yn unig yn ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, ond hefyd yn darparu cefnogaeth bwrpasol i'r bobl hynny sy'n dymuno dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes drwy ystod o ddarpariaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein. 

Mae hyblygrwydd y gwasanaeth wedi bod yn offeryn allweddol i Lywodraeth Cymru dros y deng mlynedd diwethaf i ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd economaidd a'r cyfnod ansicr economaidd gan gynnwys pandemig Covid, Brexit, a'r argyfwng costau byw presennol. Mae hyn yn dangos rôl y gwasanaeth o ran darparu bron 32,000 o gynigion grant i fusnesau drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd yn ystod y pandemig.

Mae’r gwasanaeth hefyd wedi’i strwythuro i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, tecach a gwyrddach. Mae'r gwasanaeth yn rhan hanfodol o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau busnes ac yn rhoi cefnogaeth i'w helpu i sefydlu eu busnesau eu hunain neu fynd yn hunangyflogedig. 

Mae’r Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc newydd yn datblygu'n dda gyda 465 o bobl ifanc yn cael cyngor un i un i ddatblygu eu cynlluniau i ddechrau busnes a 107 o wobrau gwerth bron £203,000 eisoes wedi'u cyhoeddi i entrepreneuriaid newydd.

Mae Busnes Cymru ynghyd â Busnes Cymdeithasol Cymru yn gweithio i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru o ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr erbyn 2026 ac mae'n mynd ati i hyrwyddo manteision a chyfleoedd datblygu o ran hynny i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae gennym 46 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yma yng Nghymru.

Dangosodd astudiaeth o effaith Prifysgol Caerdydd (2022) werth economaidd buddsoddiad yng ngwasanaethau Busnes Cymru, gan gysylltu pob £1 a fuddsoddwyd i gynnydd gwerth ychwanegol gros (GVA) rhwng £10 ar gyfer y gwasanaeth cyfan a £18 y flwyddyn ar gyfer y gwasanaeth twf uchel; a'r budd net o 24,555 o swyddi a grëwyd dros gyfnod o 5 mlynedd, sy’n gysylltiedig â gwerth £790miliwn o GVA. Gyda chyfraddau goroesi 4 blynedd busnesau yn ddwbl y cyfraddau ar gyfer busnesau nad ydynt yn cael cymorth.

Wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed, mae'r gwasanaeth wir wedi sefydlu ei hun fel rhan hanfodol a gwerthfawr o'r tirlun busnes yng Nghymru. Dyna pam rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau â'r gwasanaeth hwn ac wedi ymrwymo £10miliwn y flwyddyn yn ychwanegol am y 2 flynedd nesaf o leiaf, yn dilyn diwedd cyllid yr UE a byddwn yn eich annog i barhau i hyrwyddo a chyfeirio eich etholwyr at y gwasanaeth blaenllaw hwn sydd ar gael ledled Cymru.