Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio yn golygu y bydd busnesau sy'n gosod nwyddau wedi'u pecynnu ar y farchnad yn gyfrifol am gost lawn ailgylchu a rheoli gwastraff ar gyfer deunyddiau pacio pan fyddant wedi dod i ddiwedd eu hoes fwriadedig. 

Mae cyflwyno'r cynllun yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a fydd yn lleihau faint o ddeunydd pacio diangen sy'n cael ei ddefnyddio, yn cynyddu faint ohono sy'n cael ei ailgylchu, yn lleihau sbwriel deunydd pacioac yn annog pobl i’w ailddefnyddio. Felly, mae'n bwysig o safbwynt mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth inni symud tuag at Gymru sero net.  

Mae'r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio yn cael ei ddatblygu ar draws y DU mewn partneriaeth â chenhedloedd eraill y DU, gyda dyluniad y cynllun diwygiadau wedi'i gyhoeddi ar y cyd ym mis Mawrth 2022. Bydd y diwygiadau yn dod â newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff deunydd pacio ei reoli ledled y DU, gydag amcangyfrif o ryw £1.2 biliwn o gostau trosglwyddo  o'r sector preifat i'r sector cyhoeddus ar gyfer darparu gwasanaethau casglu deunydd pacio i’w ailgylchu  a gwasanaethau rheoli gwastraff yn effeithlon ac effeithiol. 

Mae Llywodraethau'r DU (yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban) yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiwygiadau deunydd pacio sy'n gweithio i fusnesau, yr amgylchedd a'r economi gyfan. Wrth ddatblygu'r cynllun, mae'r pedair gweinyddiaeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda diwydiant, awdurdodau lleol a'r sector rheoli gwastraff i lywio'r dull gweithredu.

Wrth wneud hynny, rydym wedi clywed a gwrando ar adborth gan fusnesau ac awdurdodau lleol sy’n gofyn am amser ychwanegol i ymgyfarwyddo â'r diwygiadau a pharatoi ar eu cyfer. Felly, mae pob un o bedair gwlad y DU wedi gwneud penderfyniad ar y cyd i ohirio'r rhwymedigaethau o dan y cynllun ar gyfer taliadau deunydd pacio rhwng Hydref 2024 a Hydref 2025.

Bydd y llinell amser ddiwygiedig ar gyfer y  cynllun yn ein galluogi i weithio gyda busnesau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i fireinio'r cynllun ymhellach i sicrhau y bydd yn cyflawni ein nodau amgylcheddol cyffredin yn effeithiol ac yn helpu i roi'r sector ar lwybr clir at ddatgarboneiddio.

Bydd y gohiriad 12 mis hwn i daliadau'r cynllun yn:

  1. Rhoi mwy o amser i ddiwydiant baratoi ar gyfer y gofynion sydd i ddod o fis Hydref 2025 ymlaen, a all gynnwys adolygu a gwella’r deunydd pacio cyfredol, a chymryd mwy o ran yn nyluniad gwasanaethau'r cynllun.
  2. Rhoi mwy o amser i awdurdodau lleol a'r sector Rheoli Gwastraff wneud darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau newydd ac addasu’r gwasanaethau cyfredol yn barod ar gyfer cyflwyno'r diwygiadau.  
  3. Cynnig cyfle i gynnwys gwahanol rannau a chynrychiolwyr y gadwyn werth a rhanddeiliaid ehangach i gyd-ddylunio a llywio polisi a mentrau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; y ddeddfwriaeth sy’n sail iddo a rolau a swyddogaethau Gweinyddu’r Cynllun.
  4. Sicrhau nad yw darpariaeth y cynllun o dan unrhyw risg gan fod y llinellau amser cyflenwi presennol yn peryglu ei ddichonoldeb a'i werth am arian yn y tymor hir.

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r gohiriad 12 mis hwn, yn fuan byddwn yn:

  • Lansio ymgynghoriad ar yr Offeryn Statudol sy'n sail i'r cynllun i brofi ei eglurder a'i ddichonoldeb gweithredol gyda phob rhan o'r gadwyn gyflenwi casglu a phecynnu.
  • Adolygu dyluniad a swyddogaethau Gweinyddu’r Cynllun gyda rhanddeiliaid, gan sicrhau mewnbwn allweddol dan arweiniad y sector i'r broses sefydlu.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar sut y gall y diwygiadau hyn gyflymu'r broses o symud i economi wirioneddol gylchol ar gyfer deunydd pacio, fel cam allweddol yn ein Strategaeth Economi Gylchol, Mwy nag Ailgylchu.

Fel Llywodraethau sy'n gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu'r cynllun ar draws y DU, rydym wedi ymrwymo i ddiwygiadau o ran deunydd pacio sy'n gweithio i fusnesau, cymdeithas a'n hawdurdodau lleol, gan hefyd wireddu manteision economaidd a chanlyniadau amgylcheddol hanfodol y newid i Economi Gylchol.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Pe bai’r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.