Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan ffermwyr Cymru swyddogaeth bwysig yn ein cymdeithas. Cânt eu cydnabod nid yn unig am eu rôl o gynhyrchu cyflenwad o fwyd diogel ac o ansawdd da, ond hefyd am y cyfleoedd sydd ganddynt i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd y mae ein gwlad yn wynebu.

Mae’n rhaid i ni gyd ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’r angen i weithredu yn eang a chyflawni canlyniadau yn ddi-oed yn hanfodol os ydyn ni am sicrhau sector amaethyddol sy’n gynaliadwy a chadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym i gyd yn ymwybodol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at ‘bontio teg’ i ddyfodol carbon isel newydd. Mae ffermwyr a’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt yn chwarae rhan hollbwysig o ran cyflawni’r pontio teg hwnnw ac o ran symud tuag at sero net.

Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn sefydlu Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn fframwaith gan ddangos ymrwymiad y Llywodraeth tuag at gefnogi ffermwyr. Cânt eu cefnogi i leihau eu hôl troed carbon a chyflawni er budd natur gan barhau, ar yr un pryd, i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy drwy fusnesau amaethyddol cadarn.

Yn fy Natganiad Deddfwriaethol ar 27 Medi 2022, amlygais y trafodaethau cynhyrchiol â Phlaid Cymru, a hynny yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio, ar welliannau i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) a gyhoeddwyd gennym ar y cyd yn ystod Cyfnod 1 o’r broses ddeddfwriaethol.

Rwy’n falch felly o amlinellu gwelliannau’r Llywodraeth, y cytunwyd arnynt ag Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell AS ac y bwriedir eu symud ymlaen yng Nghyfnod 2 ar yr amod bod Aelodau yn cytuno ag Egwyddorion Cyffredinol y Bil.

Mae busnesau amaethyddol cadarn yn hollbwysig i Gymru er mwyn cyfrannu at ein cymunedau gwledig sy’n ffynnu a chynnal tir amaethyddol Cymru am genedlaethau i ddod. Mae busnesau sy’n gadarn ac sy’n gallu addasu yn fwy tebygol o ffynnu a goroesi ergydion i’r sector megis y rheini sy’n cael eu hachosi gan bandemigau, gwrthdaro, materion sy’n ymwneud â chadwyni cyflenwi a newid hinsawdd.

  • Er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd, rydym yn cynnig cyflwyno testun ychwanegol i’r Amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy cyntaf:

At ddibenion yr amcan cyntaf, mae’r ffactorau sy’n berthnasol i ba un a yw bwyd a nwyddau eraill yn cael eu cynhyrchu mewn modd cynaliadwy yn cynnwys gwytnwch busnesau amaethyddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt, ymysg pethau eraill

Yn ogystal, mae tri diben ychwanegol i’r pŵer i ddarparu cymorth (adran 8 o’r Bil) wedi’u drafftio. Bwriedir eu mewnosod yn is-adran (2) ar ôl y diben cyntaf sy’n ymwneud ag annog y gwaith o gynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy:

(b) helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau;

          (c) gwella gwytnwch busnesau amaethyddol;

          (d) cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd;

Mae’r gwelliannau yn cefnogi cadernid busnesau amaethyddol a hynny drwy alluogi sylfaen gynhyrchu a chadwyni cyflenwi sy’n effeithiol, yn effeithlon, yn gynaliadwy ac o ganlyniad, yn rhai sy’n creu elw ac yn cysylltu’n ôl â’r ffermwr. Mae cefnogi ffermwyr â’u llesiant eu hunain, cefnogi’r modd y maent yn meithrin cysylltiadau â’u cymunedau eu hunain, cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg ac arallgyfeirio busnesau i gyd yn agweddau sy’n allweddol i gadw ffermwyr ar eu tir a symud ymlaen at ddyfodol sero net.