Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw am Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, rwy'n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy’r Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol i Lywodraeth Leol ar gyfer 2023-24 (y Setliad). Mae hyn yn gynnwys y dyraniadau cyllid craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2024-25.

Wrth baratoi'r Setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 2 Chwefror. Ni nodwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad unrhyw faterion y dylid newid y dull gweithredu a ddefnyddir mewn perthynas â hwy ar gyfer y Setliad terfynol. Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, croesawodd Llywodraeth Leol y cynnydd cadarnhaol yn y Setliad tra'n cydnabod yr effaith y bydd lefelau uchel parhaus o chwyddiant yn ei chael ar benderfyniadau’r awdurdodau lleol ar gyllidebau a gwasanaethau.

O addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 yn cynyddu 7.9%, ar sail gyfatebol, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd sy’n llai nag 6.5%. Yn 2023-24, bydd awdurdodau lleol yn cael £5.5bn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig i'w gwario ar ddarparu gwasanaethau allweddol.

At hynny, rwy’n cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau refeniw a chyfalaf a gynllunnir ar gyfer y dwy flynedd ganlynol. Ar gyfer 2023-24, cyfanswm y rhain yw mwy na £1.4bn ar gyfer refeniw a mwy na £989m ar gyfer cyfalaf.  Rydym yn darparu'r gwerthoedd grant dangosol hyn er mwyn i awdurdodau lleol allu cynllunio eu cyllidebau ac i gefnogi tryloywder. Ar gyfer 2024-25 mae cyllid grant penodol dangosol dros £1.2bn ar gyfer refeniw a thros £1bn ar gyfer cyfalaf. Ochr yn ochr â’r Setliad, rydym yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi llywodraeth leol i hepgor ffioedd ar gyfer claddedigaethau plant. Mae’r ymrwymiad hwn ar y cyd yn sicrhau ymagwedd deg a chyson ledled Cymru.

Y dyraniadau cyllid refeniw craidd dangosol ar lefel Cymru ar gyfer 2024-25 yw £5.69bn – sy'n cyfateb i gynnydd o £169m (3.1%). Mae’r ffigur hwn yn ddangosol ac yn dibynnu ar ein hamcangyfrifon cyfredol o incwm ardrethi annomestig ac unrhyw gyllidebau yn y DU ar gyfer 2024-25. Bwriad darparu cyllid dangosol yw cefnogi llywodraeth leol yn eu cynllunio. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â llywodraeth leol ar bwysau parhaus drwy ein Is-grŵp Cyllid sefydlog (FSG), dan y Cyngor Partneriaeth statudol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried pwysau ariannol drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod y cyfnod cyn penderfynu ar gyllideb nesaf Cymru. Bydd trafodaethau penodol ar wasanaethau awdurdodau lleol hefyd yn cael eu cynnal rhwng gweinidogion perthnasol a’r CLlLC drwy'r grwpiau hyn ac hefyd drwy drefniadau portffolio dwyochrog.

Mae’n amlwg y byddai gorwel cynllunio hirach yn well a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o sicrwydd ariannol drwy’r sianeli sydd ar gael, gan gynnwys drwy’r Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC) a chyfarfodydd dwyochrog â’r Prif Ysgrifennydd i y Drysorfa.

Wrth wneud penderfyniadau am lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol, rwyf wedi ymateb i'r angen i gefnogi gwasanaethau rheng flaen allweddol. Rwyf wedi cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau i barhau i dalu'r costau ychwanegol a fydd yn deillio o gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal ac i gefnogi pwysau ym myd yr addysg. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad eto i ddarparu'r holl gyllid sydd ar gael ymlaen llaw. Nid wyf wedi dal cyllid yn ôl ar gyfer cydnabyddiaeth yn ystod y flwyddyn o gytundeb cyflog yr athrawon 2023/24 a bydd rhaid i’r awdurdodau felly wneud rhagdybiaethau doeth fel rhan o'u cynllunio cyllideb ar hyn yn ogystal ag ar gyfer eu staff eraill. Mae trafodaethau’n parhau gydag Undebau’r Athrawon ynghylch cytuno ar drafodaethau cyflog blwyddyn academaidd 2022/2023 a byddaf yn parhau i drafod goblygiadau hyn i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-2024 gyda’r CLlLC.

Mae ardrethi annomestig (NDR) yn elfen bwysig o’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol. Ar 28 Chwefror cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau i rewi’r lluosydd ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn golygu y bydd yn aros ar y lefel a osodwyd ers 2020-21. Mae hyn yn sicrhau y bydd swm yr ardrethi y mae busnesau a threthdalwyr eraill yn eu talu yn is nag y byddai fel arall. Mae'r rhewi yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn buddsoddi dros £100m yn flynyddol i dalu’r gost, felly ni fydd unrhyw effaith ar y cyllid a ddarperir ar gyfer gwasanaethau lleol, tra’n cynnal ffrwd sefydlog o refeniw treth ar gyfer gwasanaethau lleol.

Rwyf hefyd yn cyflwyno rhyddhad trosiannol gwerth £113 miliwn, a ariennir yn llawn, ar gyfer pob trethdalwr y bydd cynnydd o dros £300 yn ei filiau yn dilyn ymarfer ailbrisio ar y NDR, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023.

Yn olaf, mae'r pecyn cymorth ardrethi annomestig (NDR) hefyd yn darparu dros £140 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Bydd trethdalwyr cymwys yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 75% drwy gydol 2023-24, gyda chap o £110,000 fesul busnes ledled Cymru.

Mae tabl cryno wedi’i gynnwys gyda’r datganiad hwn sy'n nodi dyraniadau'r Setliad (Cyllid Allanol Cyfun) fesul awdurdod. Cyfrifwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol gyda data sylfaenol sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.  Mae'r tabl yn dangos cynnydd yn y dyraniadau cyllid o’r Setliad 2022-23 gydag ystod dros yr awdurdodau lleol o 6.5% i 9.3%. Bydd fformiwla’r llywodraeth leol yn parhau i gael ei datblygu a'i gwella ar y cyd â llywodraeth leol. Mae data poblogaeth o gyfrifiad 2021 wedi’i ddefnyddio yn y dyraniadau fformiwla ar gyfer 2023-24 a bydd data pellach yn cael ei ystyried drwy’r trefniadau llywodraethu sefydlog wrth iddo gael ei gyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad treigl SYG. O ystyried y cynnydd sylweddol ac yn dilyn yr ymgynghoriad, nid wyf yn bwriadu cynnwys llawr eleni ac rwyf wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael yn y Setliad hwn.

Anfonir rhagor o fanylion at bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Eglurais y sefyllfa o safbwynt y cyllid cyfalaf ar gyfer Llywodraeth Cymru fel rhan o’m datganiad ar y Gyllideb. Roedd y setliad a gawsom gan Lywodraeth y DU yn siomedig ac nid yw'n ddigonol i fodloni ein huchelgeisiau i fuddsoddi yn nyfodol Cymru, gyda'n cyllideb gyfalaf gyffredinol 8.1% yn is mewn termau real na'r flwyddyn bresennol. Mae’r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 wedi’i gadarnhau ar £180 miliwn a bydd hyn yn parhau ar gyfer 2024-25. Hyd yn oed wrth i ni ateb yr heriau a berir gan chwyddiant, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar yr angen i sicrhau pwyslais ar ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur a chyfrannu at gynllun Cymru Sero Net. Ar wahân i hynny, rwy'n darparu £20 miliwn o gyfalaf ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd sef datgarboneiddio.

Cyfrifoldeb pob awdurdod unigol yw pennu cyllidebau ac, yn ei thro, y Dreth Gyngor. Bydd yr awdurdodau lleol yn ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau a wynebir, wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gwn fod awdurdodau lleol wedi bod yn wynebu pwysau sylweddol ac wedi ceisio cydnabod effaith chwyddiant ar safonau byw'r rhai sy'n gweithio mewn llywodraeth leol yn ogystal â'r gymuned ehangach. Yn wyneb lefelau uchel parhaus o chwyddiant a’r galw cysylltiedig am wasanaethau cyhoeddus, rwy’n cydnabod eu bod yn gwneud penderfyniadau anodd wrth wneud hynny. Gobeithiaf fod y Setliad hwn, sy’n cynrychioli cynnydd sylweddol dros y ffigur dangosol a ddarparwyd yn y gyllideb flaenorol, yn eu galluogi i barhau i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar gymunedau yn ogystal â chefnogi uchelgeisiau cenedlaethol a lleol ar gyfer y dyfodol.

Mae dadl ar y cynnig i'r Senedd gymeradwyo Adroddiad Cyllid y Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2023-24 wedi cael ei threfnu i’w chynnal ar 7 Mawrth 2023.