Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydyn ni'n gwybod bod yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ymhlith y problemau mwyaf difridol rydyn ni'n eu hwynebu. Yng ngoleuni'r ddau argyfwng hyn, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio ein holl adnoddau i leihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio, ond hefyd i greu rhagor o ynni glân. Rydyn ni'n arbennig o ffodus yng Nghymru am fod gennyn ni'r ail amrediad llanw mwyaf yn y byd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd inni ddefnyddio'r adnodd ynni adnewyddadwy enfawr ar ein harfordir i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Dyna pam, fel rhan o'n Rhaglen Lywodraethu, y dywedon ni y bydden ni'n cynnal her morlyn llanw, fel rhan o'n hymrwymiad i wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau ynni llanw sy'n dod i'r amlwg. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog gyllid grant gwerth £750,000 ar gyfer yr her morlyn llanw, ac mae'n bleser gen i heddiw agor yr her morlyn llanw i geisiadau.

Bydd yr her morlyn llanw yn rhoi cymorth uniongyrchol i ymchwil arloesol a fydd yn gweithio i wneud y canlynol:

  • Lleihau neu ddileu rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn atal datblygu morlyn llanw.

Er enghraifft, lleihau ansicrwydd amgylcheddol drwy fynd i'r afael â bylchau tystiolaeth mewn perthynas ag elfennau gwahanol o’r amgylchedd y byddai datblygu morlyn llanw fwyaf tebygol o effeithio arnyn nhw.

neu

  • Ddangos mantais bosibl datblygu morlyn llanw.

Er enghraifft, gwerthuso manteision ynni llanw y gellir ei ragweld i'r system ynni.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud dyfarniadau o fewn tri chategori:

  • Yr Environment
  • Peirianneg a Thechnoleg
  • Cyllid ac Economaidd-gymdeithasol

Mae'r categorïau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n berthnasol i fôr-lynnoedd llanw, a byddan nhw’n caniatáu i amrediad helaeth o ymchwil gael ei chynnal.

Bydd gwaith yr her morlyn yn galluogi cymhwyso rhagoriaeth ymchwil i'r sector môr-lynnoedd llanw, ac yn cefnogi twf sylfaen wybodaeth a fydd yn hwyluso'r ffordd wrth roi môr-lynnoedd llanw ar waith yng Nghymru yn y dyfodol.

Rydyn ni'n credu bod gan yr her morlyn llanw rôl bwysig i'w chwarae wrth wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i weld morlyn llanw'n cael ei ddatblygu yn nyfroedd Cymru. Rwy'n disgwyl i ymgeiswyr rannu syniadau a meddwl blaengar â ni, sy'n destun cryn gyffro, ac rwy'n edrych ymlaen at ganlyniadau'r ymchwil.

Bydd yr her morlyn llanw yn derbyn ceisiadau tan 18 Medi 2023. Rydyn ni'n gobeithio cyhoeddi enillwyr yr her yng ngwanwyn 2024.