Deall ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a gofalwyr
Canllaw i rieni a gofalwyr plant ag ADY.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r canllaw hwn yn esbonio:
- beth yw ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn (yr acronym Saesneg yw PCP) a beth yw dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- sut mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddefnyddio yn y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- beth yw adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sut i baratoi ar ei gyfer
- offerynnau i helpu i gofnodi’r hyn sy’n bwysig am eich plentyn
Yn y canllaw hwn:
- mae ‘rhiant’ yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn
- mae ‘lleoliad addysg’ yn cyfeirio at feithrinfeydd, ysgolion, colegau, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn addysg
Mewn addysg, mae modd defnyddio dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, nid dim ond y rhai sydd ag ADY. Mae’n ymwneud â dod i adnabod eich plentyn fel unigolyn a deall beth sy’n bwysig iddo.
Mae’r dull gweithredu hwn yn helpu lleoliadau addysgol i weithio mewn ffordd sy’n gwneud i’ch plentyn deimlo bod pobl yn gwrando arno, yn ei werthfawrogi, a’i gefnogi.
Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn llawer mwy na chyfarfod neu ddogfen; mae’n ffordd barhaus o weithio sy’n datblygu dros amser wrth i’ch plentyn dyfu ac wrth i’w anghenion newid.
Mae’n gwneud hyn trwy:
- drin eich plentyn fel unigolyn
- deall dymuniadau, cryfderau, safbwyntiau a dyheadau eich plentyn
- gwrando ar yr hyn y mae eich plentyn yn ei feddwl, ei deimlo ac yn gobeithio amdano
- canolbwyntio ar ddiddordebau, dewisiadau a nodau eich plentyn
- cydnabod yr hyn sydd ei angen ar eich plentyn i gadw’n iach, yn ddiogel a gallu dysgu
- sicrhau bod llais eich plentyn yn ganolog i brosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau
Dylid annog eich plentyn i gymryd rhan mor lawn â phosibl yn y broses o wneud penderfyniadau trwy gydol ei daith addysg.
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf ADY”) yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau, gan sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc yn ganolog i benderfyniadau yn ymwneud â chynllunio addysg y plentyn neu’r person ifanc nawr ac yn y dyfodol.
Dylid defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn pryd bynnag y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud am eich plentyn a’r cymorth posibl sydd ei angen arno. Mae hyn yn cynnwys pan fydd lleoliad addysg neu awdurdod lleol yn penderfynu a oes gan eich plentyn ADY, yn ogystal â chynllunio ac adolygu’r cymorth y mae’ch plentyn yn ei dderbyn.
Os oes penderfyniad yn cael ei wneud bod gan eich plentyn ADY, bydd y lleoliad addysg neu’r awdurdod lleol yn paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae CDU yn amlinellu anghenion eich plentyn a’r cymorth (a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (neu DDdY)) a fydd yn ei helpu.
Mae angen defnyddio dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i greu CDU. Mae hyn yn golygu bod yr holl bobl sy’n adnabod eich plentyn orau yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn sydd ei angen ar eich plentyn.
Mae gan bawb safbwyntiau gwahanol i’w rhannu. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn helpu i greu darlun clir o’ch plentyn: nodweddion eich plentyn, sut mae’n dysgu, beth sy’n bwysig iddo a pha gymorth a fydd yn ei helpu i wneud yn dda.
Mae rhagor o wybodaeth am y system ADY ar gael yn y ddogfen Anghenion dysgu ychwanegol: pecyn cymorth i rieni a gofalwyr sy’n esbonio sut mae’r system ADY yn gweithio a pha gymorth sydd ar gael i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Beth yw cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn?
Pan fydd eich plentyn wedi’i adnabod fel plentyn sydd ag ADY neu os yw’r lleoliad addysg neu’r awdurdod lleol wrthi’n ystyried a oes gan eich plentyn ADY, mae’n bosibl y cewch eich gwahodd i gyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gosod eich plentyn yng nghanol y drafodaeth.
Mae’n canolbwyntio ar y canlynol:
- dyheadau eich plentyn
- beth sy’n bwysig er mwyn i’ch plentyn ddatblygu a gwneud cynnydd
- sut beth yw cymorth da i’ch plentyn
- beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei newid o bosibl
- cytuno ar gynllun sy’n seiliedig ar ddeilliannau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Fel arfer, mae’r cyfarfod hwn yn cael ei arwain gan rywun o’r lleoliad addysg sy’n adnabod eich plentyn yn dda. Mae’n bosibl y bydd pobl eraill sy’n helpu i gefnogi’ch plentyn yn cael eu gwahodd hefyd, yn ogystal â’ch plentyn lle bo hynny’n briodol.
Gallech dderbyn gwahoddiad ar lafar, drwy lythyr neu mewn e-bost gan leoliad addysg eich plentyn neu’r awdurdod lleol. Bydd y gwahoddiad yn nodi’r canlynol:
- dyddiad ac amser y cyfarfod
- lleoliad y cyfarfod, neu ddolen ar-lein iddo os yw’n cael ei gynnal yn rhithwir (mae rhai cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein i’w gwneud hi’n haws i rieni ac eraill fynychu)
- pwy fydd yn mynychu’r cyfarfod, er enghraifft athrawon, y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY), y pennaeth, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill y mae’ch plentyn yn eu hadnabod
Mae’n bosibl y bydd lleoliadau addysg yn defnyddio enwau gwahanol ar gyfer y cyfarfod. Gallai’r cyfarfod gael ei ddisgrifio fel un o’r canlynol:
- adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- cyfarfod CDU
- adolygiad CDU (os oes gan eich plentyn CDU yn barod)
Nid yw enw’r cyfarfod yn bwysig. Yr hyn sy’n bwysig yw bod y cyfarfod yn dilyn dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd y lleoliad addysg neu’r awdurdod lleol yn cydlynu cyfarfodydd ac adolygiadau yn ymwneud â chymorth i’ch plentyn. Gall hyn helpu i sicrhau bod y cynlluniau yn gydgysylltieidig a bod pawb yn gweithio tuag at yr un deilliant.
Trefnu cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Gan ddibynnu ar anghenion eich plentyn, gall cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gael ei gynnal ar adegau gwahanol yn ei fywyd, er enghraifft:
- pan fydd lleoliad addysg yn ystyried a oes gan eich plentyn ADY
- o leiaf bob 12 mis er mwyn adolygu CDU sy’n bodoli eisoes, neu cyn hynny os yw anghenion neu amgylchiadau eich plentyn yn newid yn sylweddol
Cyn y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Cyn y cyfarfod, bydd y person sy’n ei arwain yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu gan bobl sy’n adnabod eich plentyn yn dda, er enghraifft athrawon, staff cymorth, y CADY neu weithwyr proffesiynol eraill.
Lle bo’n briodol, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda chi a’ch plentyn cyn y cyfarfod. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddarllen yr wybodaeth a theimlo eich bod yn barod i gymryd rhan yn y drafodaeth a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.
Hefyd, gallwch ddod â gwybodaeth rydych chi eisiau ei rhannu. Mae syniadau am offerynnau i helpu i ddisgrifio’r hyn sy’n bwysig am eich plentyn wedi’u cynnwys yn nes ymlaen yn y canllaw hwn.
Gallwch wneud cais am gynnal y cyfarfod a darparu’r wybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn iaith arall pe bai hyn o gymorth i chi neu’ch plentyn.
Sut i gynnwys eich plentyn yn y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae cyfarfodydd yn gallu gorlethu pobl weithiau, yn enwedig os oes llawer o bobl wahanol yn cymryd rhan. Mae helpu’ch plentyn i rannu neu fynegi ei safbwyntiau a chymryd rhan yn y broses ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei helpu i:
- deimlo’n hyderus bod pobl yn gwrando ar ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau ac yn eu gwerthfawrogi, hyd yn oed os yw’n anodd i’ch plentyn eu mynegi
- datblygu ymwybyddiaeth o’i hawliau a’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddo
- datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb am ei addysg a’i ddyfodol a rheolaeth drostynt
Dylai’r person sy’n trefnu’r cyfarfod feddwl yn ofalus am yr hyn a fydd yn eich helpu chi a’ch plentyn i deimlo’n gyfforddus a gallu cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, yn credu bod pobl yn gwrando arnynt, ac yn teimlo’n hyderus i rannu eu safbwyntiau.
Wrth i blant fynd yn hŷn a throi’n bobl ifanc, fel arfer byddant yn cyfrannu mwy at y penderfyniadau am eu cymorth, ac efallai y gofynnir iddynt gytuno (cydsynio) i gymryd rhan mewn trafodaethau a rhannu eu safbwyntiau.
Mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu’ch plentyn i deimlo’n barod a theimlo bod pobl yn ei gefnogi. Bydd hyn yn sicrhau bod modd i’ch plentyn gymryd rhan yn llawn yn y ffordd sy’n fwyaf addas iddo. Gall hyn gynnwys:
- ei helpu i ddefnyddio geiriau, lluniau, symbolau ac offerynnau eraill sy’n ei helpu i fynegi ei safbwyntiau
- ei helpu i gynllunio ymlaen llaw beth mae eisiau ei ddweud trwy ddefnyddio’r offerynnau yn y canllaw hwn
- gofyn am gael cyfarfod ar wahân gydag un person arall, er mwyn rhannu ei safbwyntiau mewn lle mwy tawel a digynnwrf
- gofyn am eiriolwr
- gofyn am ymweld â’r ystafell ymlaen llaw er mwyn i’ch plentyn deimlo’n gartrefol yn y lleoliad
- trefnu i’ch plentyn fod yn bresennol mewn rhan o’r cyfarfod os yw hynny’n teimlo’n haws
- cytuno ar arwydd syml y gall eich plentyn ei ddefnyddio os oes angen seibiant arno neu os yw eisiau gadael
- defnyddio cymorth gweledol, fel lluniau, symbolau neu straeon cymdeithasol, er mwyn helpu’ch plentyn i ddeall a chymryd rhan
- mynd â rhywbeth i’r cyfarfod sy’n helpu’ch plentyn i beidio â chynhyrfu, fel nodiadau, lluniau neu degan ffidlan
- gofyn am gyfarfod dilynol i fynd dros yr hyn a drafodwyd a rhannu unrhyw syniadau neu adborth
Os nad yw eich plentyn yn cymryd rhan yn y cyfarfod, mae modd sicrhau bod ei safbwyntiau’n cael eu cynnwys, hyd yn oed os nad yw’n bresennol. Gall eich plentyn:
- recordio ei hun yn siarad am beth sy’n bwysig iddo, beth sy’n mynd yn dda a beth hoffai ei newid
- rhannu lluniau sy’n dangos beth mae’n mwynhau ei wneud
- ysgrifennu neu recordio beth mae eisiau i bobl ei wybod
- ysgrifennu neu recordio cwestiynau cyn y cyfarfod
- cael eiriolwr i gynrychioli ei safbwyntiau
Beth sy’n digwydd yn ystod y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae pob cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn wahanol a rhaid sicrhau ei fod yn rhoi pwyslais ar eich plentyn a’r hyn sy’n addas iddo.
Fodd bynnag, fel arfer mae cyfarfod yn cynnwys y camau canlynol.
- Cyflwyniad: bydd y bobl yn y cyfarfod yn cyflwyno eu hunain ac yn esbonio eu rôl mewn perthynas â’ch plentyn.
- Trafodaeth: bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle i bawb rannu a thrafod yr hyn maen nhw’n ei hoffi a’i edmygu am eich plentyn, beth sy’n bwysig iddo ac ar ei gyfer, a beth sy’n gweithio’n dda neu ddim yn gweithio.
- Cynllun: ar sail y trafodaethau, mae’n bosibl y bydd cynllun neu grynodeb o’r trafodaethau yn cael ei lunio. Gall hyn gynnwys diwygiadau i’r CDU os oes angen.
- Adolygu’r CDU: bydd y CDU yn cael ei adolygu bob 12 mis er mwyn sicrhau bod anghenion eich plentyn a’r ddarpariaeth ar ei gyfer yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
Nod y dull gweithredu hwn yw dod â phawb at ei gilydd mewn ffordd agored a gonest er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o’ch plentyn a sut i’w gefnogi.
Ar ôl y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Nid yw’r broses yn dod i ben ar ôl y cyfarfod.
Bydd y cymorth sydd ar gael i chi a’ch plentyn wrth iddo barhau â’i daith addysg ac yn sgil yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu i lunio’r hyn sy’n digwydd nesaf.
Ar ôl y cyfarfod, efallai y cewch chi gynllun gweithredu yn seiliedig ar yr hyn a drafodwyd.
Gall hyn gynnwys:
- unrhyw newidiadau i’r CDU
- pwy sy’n gyfrifol am bob cam gweithredu
- unrhyw gamau rydych chi neu’ch plentyn wedi cytuno i’w cymryd
- diweddariadau i ddeilliannau neu gymorth presennol, gan gynnwys ychwanegu pethau newydd neu gael gwared ar bethau nad ydynt yn berthnasol bellach
Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud a beth fydd yn digwydd nesaf.
Os ydych chi’n teimlo’n ansicr wrth adael y cyfarfod, neu os ydych chi’n poeni nad yw eich safbwyntiau chi neu safbwyntiau eich plentyn wedi cael eu hystyried yn llawn, neu nad yw’r camau y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu, gallwch godi’r mater a gofyn am eglurhad.
Gallwch:
- gysylltu â’r CADY, yr athro, y pennaeth neu’r staff yn y lleoliad addysg y mae eich plentyn yn ei fynychu er mwyn trafod unrhyw bryderon yn uniongyrchol
- gofyn am adolygiad cynharach os ydych chi’n teimlo bod angen ystyried pethau eto yn gynt
- cysylltu â thîm ADY eich awdurdod lleol am gyngor ac arweiniad
- gofyn am gyngor neu eiriolaeth annibynnol os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth arnoch i ddeall penderfyniadau neu rannu eich safbwyntiau. Gall eiriolaeth helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae gwybodaeth am eiriolaeth ar gael yn nogfen Llywodraeth Cymru Anghenion dysgu ychwanegol: pecyn cymorth i rieni a gofalwyr.
Offerynnau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae offerynnau ymarfer sy’n seiliedig ar yr unigolyn yn gallu helpu’ch plentyn i rannu’r hyn sy’n bwysig iddo, pa gymorth sydd ei angen arno a’r hyn yr hoffai ei wneud yn y dyfodol. Gallwch ddefnyddio’r offerynnau hyn i wneud y canlynol:
- helpu i baratoi ar gyfer y cyfarfod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- cymryd rhan yn y cyfarfod
- cynorthwyo’ch plentyn i gymryd rhan lawn yn y cyfarfod
Dyma rai enghreifftiau o offerynnau y gallwch eu defnyddio.
Proffil un dudalen
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn Proffil un dudalen yn ffordd syml o rannu’r wybodaeth bwysicaf am eich plentyn, yn ogystal â’r hyn sy’n bwysig i’ch plentyn.
Sut mae hyn yn helpu
Mae’r offeryn hwn yn helpu pobl eraill i ddod i adnabod eich plentyn yn well a deall sut i’w gefnogi mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr iddo, gan sicrhau ei fod yn cadw’n iach ac yn ddiogel.
Fel arfer, mae proffil un dudalen yn cynnwys y canlynol:
- beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu am eich plentyn
- beth sy’n bwysig i’ch plentyn
- beth yw’r ffordd orau o’i gefnogi
Offeryn gwerthfawrogi
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn Gwerthfawrogi yn helpu i nodi’r rhinweddau y mae pobl yn eu gwerthfawrogi a’u hedmygu am gymeriad a phersonoliaeth eich plentyn, ac yn nodi ei sgiliau, ei ddoniau, ei dalentau a’i ddiddordebau.
Sut mae hyn yn helpu
- Mae’r offeryn yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi doniau a rhinweddau eich plentyn.
- Mae’r offeryn yn sicrhau bod pobl yn gallu gweld pa fath o berson yw’ch plentyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sydd o’i le fel sy’n digwydd yn aml.
- Mae’r offeryn yn nodi’r rhai sydd â chysylltiad personol â’ch plentyn a’r rhai sydd wir yn gwybod beth sy’n bwysig iddo.
Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio yn eich helpu i feddwl am beth sy’n gweithio’n dda i’ch plentyn, beth sy’n teimlo’n ddefnyddiol ac na ddylid ei newid, yn ogystal â beth sydd ddim yn gweithio ac sydd angen ei newid o bosibl.
Sut mae hyn yn helpu
Mae’r offeryn yn annog pawb i edrych ar y sefyllfa o safbwyntiau gwahanol er mwyn cael darlun clir o’r hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn sydd angen ei wella.
Diwrnod da, diwrnod gwael
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn Diwrnod da, diwrnod gwael yn helpu i ddatblygu darlun o beth yw diwrnod da i’ch plentyn, a beth yw diwrnod gwael.
Sut mae hyn yn helpu
Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydych chi eisiau helpu’r rhai mewn lleoliad addysg i ddeall beth yw anghenion eich plentyn a sut i’w helpu i deimlo’n gartrefol ac yn hapus. Hefyd, mae’n helpu eraill i ddeall a yw ymddygiad eich plentyn ar ddiwrnod penodol yn adlewyrchu sut mae’n ymateb pan fydd yn teimlo’n gyfforddus neu’n anghyfforddus.
Cylch perthynas
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn Cylch perthynas yn helpu i ddangos pwy sy’n bwysig ym mywyd eich plentyn.
Sut mae hyn yn helpu
Mae’n helpu pawb i ddeall y canlynol:
- pwy mae eich plentyn yn teimlo’n agos atynt
- sut mae pobl wahanol yn cefnogi’ch plentyn
- sut mae modd cryfhau perthnasoedd presennol neu ddatblygu rhai newydd
Dyheadau
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn Dyheadau yn helpu’ch plentyn i feddwl am ei ddyfodol a beth sy’n bwysig iddo. Hefyd, mae’n dangos cryfderau a rhinweddau eich plentyn sy’n cael eu gwerthfawrogi gan bobl eraill, gan helpu’ch plentyn i’w datblygu.
Sut mae hyn yn helpu
- Mae’r offeryn yn nodi beth sy’n bwysig i’ch plentyn.
- Mae’r offeryn yn cynorthwyo myfyrio ar hunaniaeth a dyheadau eich plentyn yn y dyfodol.
- Mae’r offeryn yn cysylltu cryfderau a diddordebau eich plentyn â nodau ystyrlon.
- Mae’r offeryn yn cynorthwyo cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth wedi’i deilwra.
Offeryn 4 plws 1
Beth mae’r offeryn hwn yn ei wneud
Mae’r offeryn 4 plws 1 yn helpu i lywio sgyrsiau fel bod pawb yn gallu datblygu dealltwriaeth gyffredin a chlir o’ch plentyn.
Sut mae hyn yn helpu
Mae’n defnyddio 4 cwestiwn allweddol i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig, ac yna un cwestiwn olaf i gytuno ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Mae’r 4 prif gwestiwn yn ymwneud â’r canlynol:
- beth mae pobl yn ei hoffi a’i edmygu am eich plentyn
- beth sy’n bwysig i’ch plentyn
- pa gymorth sy’n helpu’ch plentyn i wneud yn dda
- canolbwyntio ar gytuno ar y camau nesaf
Atebion i gwestiynau cyffredin
Beth yw ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ddull o ddod i adnabod eich plentyn fel unigolyn. Mae’n sicrhau mai eich plentyn yw canolbwynt pob penderfyniad. Mae’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’ch plentyn, beth sy’n ei helpu, a sut i’w gynorthwyo i deimlo’n hapus ac yn ddiogel a gallu dysgu.
Mae dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, nid dim ond y rhai sydd ag ADY.
Y gwahaniaeth rhwng ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yw sut mae lleoliad addysg yn gweithio bob dydd, gan sicrhau bod safbwyntiau a chryfderau plentyn neu berson ifanc, a beth sy’n bwysig iddo, yn cael eu hystyried bob amser wrth wneud cynlluniau a darparu cymorth.
Mae cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn un ffordd o ddod â phawb at ei gilydd i gefnogi’r dull ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Amlder cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Dylai cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gael eu cynnal o leiaf bob 12 mis neu’n gynt os yw’r amgylchiadau yn newid yn sylweddol, neu os oes angen adolygu CDU sy’n bodoli eisoes.
Beth i’w wneud os nad ydych chi’n teimlo bod yr ysgol neu’r awdurdod lleol yn defnyddio cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Disgwylir i ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wneud penderfyniadau am eich plentyn, ond mae’r union ddull gweithredu yn gallu bod yn wahanol mewn lleoliadau gwahanol. Dylech deimlo mai eich plentyn yw canolbwynt y trafodaethau, a bod pobl yn gwrando arnoch chi a’ch plentyn a’u bod yn eich cymryd o ddifri.
Os oes gennych unrhyw bryderon, gallwch wneud y canlynol:
- siarad â’r person sy’n arwain y cyfarfod ac esbonio beth sydd angen ei newid yn eich barn chi
- siarad â’r pennaeth neu uwch aelod o staff yn y lleoliad addysg
- cysylltu â thîm ADY yr awdurdod lleol i drafod eich pryderon
Cofnodwch eich pryderon yn ysgrifenedig, a’u rhoi i’r ysgol neu’r corff llywodraethu er enghraifft, os ydych chi’n teimlo y bydd hyn yn ddefnyddiol.
Gofyn am adolygiad o CDU
Gallwch ofyn am adolygiad cyn yr adolygiad 12 mis o dan yr amgylchiadau canlynol:
- mae anghenion eich plentyn yn newid yn sylweddol
- mae gennych chi bryderon
- nid yw’r cymorth y cytunwyd arno yn cael ei roi ar waith
Nid oes rhaid i chi aros am y dyddiad a drefnwyd os oes rhywbeth angen sylw yn gynt.
Hyd y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn para rhwng awr a dwy awr, ond mae’n gallu amrywio gan ddibynnu ar faint o bobl sy’n cymryd rhan a faint o bethau sydd angen eu trafod.
Dylid cynllunio pob cyfarfod ar sail anghenion eich plentyn, felly mae hyd y cyfarfod a’i fformat yn gallu bod yn wahanol bob tro.
Mynd i’r cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Nid oes rhaid i chi fynd i’r cyfarfod, ond mae’ch presenoldeb yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydych chi’n adnabod eich plentyn yn well na neb, ac mae eich safbwyntiau chi a safbwyntiau eich plentyn yn bwysig wrth helpu eraill i ddeall ei anghenion.
Er bod gwybodaeth ysgrifenedig yn gallu bod yn ddefnyddiol, ni ddylai ddisodli clywed yn uniongyrchol gennych chi. Os yw mynd i’r cyfarfod wyneb yn wyneb yn teimlo’n anodd i chi, gallwch ofyn am ffyrdd eraill o gymryd rhan.
Mae’n bosibl y bydd y lleoliad addysg yn bwrw ymlaen ag adolygiad os ydych chi’n dewis peidio â mynychu.
Beth sy’n digwydd pan nad yw plentyn neu berson ifanc eisiau mynd i’r cyfarfod
Mae sawl ffordd bosibl o sicrhau bod llais eich plentyn yn cael ei glywed heb iddo fynd i’r cyfarfod. Gallai hyn gynnwys gwneud fideo byr o’ch plentyn, gofyn iddo ysgrifennu llythyr neu dynnu lluniau, neu ofyn i rywun siarad ar ei ran. Y peth pwysig yw sicrhau bod safbwyntiau eich plentyn yn cael eu cynrychioli, yn hytrach na’i fod yn y cyfarfod yn bersonol.
Mynd â phobl eraill i’r cyfarfod
Os ydych chi eisiau, gallwch fynd ag aelodau o’r teulu, ffrind neu eiriolwr gyda chi i’r cyfarfod i’ch cefnogi. Cofiwch roi gwybod i rywun yn y lleoliad addysg ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod lle i bawb a bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt.
Mae’n bosibl y bydd gan y lleoliad addysg god ymddygiad (set o reolau) y disgwylir i bob oedolyn gydymffurfio ag ef. Gallwch ofyn am y cod cyn y cyfarfod.
Beth i’w wneud os ydych chi’n anghytuno â’r hyn sy’n cael ei ddweud am eich plentyn
Mae’n bosibl y bydd adegau yn y cyfarfod pan na fyddwch chi’n cytuno â rhywbeth sy’n cael ei ddweud am eich plentyn. Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud hyn wrth y lleoliad addysg. Os ydych chi’n teimlo nad yw eich safbwyntiau yn cael eu hystyried, gallwch ofyn iddynt gael eu cofnodi yn y CDU er mwyn sicrhau bod safbwynt eich plentyn yn cael ei gydnabod.
Beth i’w wneud os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ar ôl y cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth erbyn y dyddiad y cytunwyd arno yn y cyfarfod, dylech gysylltu â’r person a fu’n arwain y cyfarfod, y CADY neu’r awdurdod lleol er mwyn gofyn am ddiweddariad. Mae cadw copi o’r camau y cytunwyd arnynt yn gallu bod yn ddefnyddiol.
Beth i’w wneud os nad yw’r camau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod yn cael eu gweithredu
Os ydych chi’n sylwi nad yw camau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod yn cael eu gweithredu, dylech ofyn am hyn. Dylech gysylltu â’r person a fu’n arwain y cyfarfod, y CADY neu’r awdurdod lleol er mwyn gofyn am ddiweddariad.
Beth i’w wneud os nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y CDU wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r ffaith bod angen eich plentyn wedi newid
Os ydych chi’n sylwi neu’n teimlo nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol wedi’i diweddaru, dylech ofyn am hyn. Dylech gysylltu â’r person a fu’n arwain y cyfarfod, y CADY neu’r awdurdod lleol er mwyn gofyn am ddiweddariad.
Mae gan rieni, plant a phobl ifanc yr hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru os ydynt yn anghytuno â phenderfyniadau am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
Beth i’w wneud os nad ydych chi’n deall rhywbeth yn y cyfarfod neu mewn unrhyw ddogfennau rydych chi’n eu derbyn
Mae’n bosibl y byddwch yn derbyn gwybodaeth a fydd yn cael ei thrafod yn y cyfarfod ymlaen llaw. Os ydych chi’n derbyn dogfennau wedi’r cyfarfod sy’n peri dryswch, gallwch gysylltu â’r CADY, yr athro, y pennaeth neu aelodau eraill o staff a gofyn am eglurhad. Yn ystod y cyfarfod, gallwch ofyn am eglurhad mewn iaith glir o unrhyw beth sy’n cael ei drafod.
Cyfrinachedd trafodaethau yn ystod y cyfarfod
Bydd gwybodaeth sy’n cael ei rhannu yn y cyfarfod yn cael ei rhoi ar bapur ac efallai y bydd yn cael ei rhannu â phawb sy’n rhoi cymorth i’ch plentyn. Os nad ydych yn siŵr pwy fydd yn cael gweld yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu, mae’n werth gofyn cyn neu ar ddechrau’r cyfarfod.
Dolenni defnyddiol
Anghenion dysgu ychwanegol: canllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr
Mae’n helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y system anghenion dysgu ychwanegol a’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc.
Anghenion dysgu ychwanegol: pecyn cymorth i rieni a gofalwyr
Mae’n helpu rhieni a gofalwyr plentyn i ddeall sut mae’r system ADY yn gweithio yng Nghymru a’r cymorth sydd ar gael os ystyrir bod gan eich plentyn ADY. Mae’n esbonio’r ddeddfwriaeth a’r dogfennau eraill sy’n creu’r system ADY.
Canllaw am hawliau plant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae’n esbonio’r hawliau sydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf ADY’).
Tribiwnlys Addysg Cymru
Mae’n gwneud penderfyniadau ar apeliadau yn ymwneud ag ADY a honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’n darparu help, cymorth a chyngor di-dâl a diduedd mewn perthynas â llawer o faterion teuluol gan gynnwys cymorth ar gyfer anghenion ychwanegol.
Niwrowahaniaeth Cymru
Mae’n darparu adnoddau er mwyn cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth mewn perthynas â niwrowahaniaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr pobl niwrowahanol.
Addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: canllaw i rieni a gofalwyr
Mae’n eich helpu i ddeall addysg feithrin ar gyfer plant 3 a 4 oed fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru a sut bydd yn helpu’ch plentyn i ddysgu.
Geirfa
Mae’r eirfa isod yn nodi ystyr geiriau ac ymadroddion, gan gynnwys byrfoddau, a ddefnyddir yn y canllaw hwn.
Adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Ffordd o adolygu cynnydd a chymorth eich plentyn sy’n rhoi lle canolog i lais eich plentyn a’ch llais chi. Mae’n wahanol i adolygiad traddodiadol oherwydd bod barn pawb cyn bwysiced â’i gilydd.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu neu anableddau sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.
Awdurdod lleol
Cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac eithrio mewn achosion lle mae cyfeiriad penodol at awdurdod lleol yn Lloegr (am ystyr hynny, gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996).
Coleg
Sefydliad sy’n dod o dan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
Person sy’n cael ei ddynodi gan ysgol neu goleg a gynhelir i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY.
Cynllun datblygu unigol (CDU)
Y cynllun ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Mae’n esbonio ADY y plentyn neu’r person ifanc a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arno.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
Y term ar gyfer y cymorth ychwanegol a roddir i blant a phobl ifanc ag ADY.
Deddf ADY
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Eiriolwr
Mae eiriolwr yn darparu cyngor a chymorth i blentyn neu berson ifanc (gan gynnwys cyfaill achos plentyn) sy’n ystyried gwneud apêl neu’n gwneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru neu’n cymryd rhan mewn trefniadau i osgoi neu ddatrys anghytundeb.
Lleoliad addysg
Unrhyw le sy’n darparu addysg, gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion, colegau, neu drefniadau eraill fel addysg heblaw yn yr ysgol (AHY).
Plentyn
Person nad yw dros oedran ysgol gorfodol (mae adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio hyn).
Proffil un dudalen
Offeryn syml a ddefnyddir mewn ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cynnwys yr holl wybodaeth am eich plentyn, beth sy’n bwysig iddo a’r ffordd orau o’i gefnogi.
Rhiant
Gweler adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 am ystyr y gair hwn. Mae’r diffiniad hwnnw yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.
Tribiwnlys Addysg Cymru
Mae’n gwneud penderfyniadau ar apeliadau yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.
Uned cyfeirio disgyblion
Math o ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol i ddarparu addysg addas i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd, er enghraifft oherwydd salwch, gwaharddiad neu resymau eraill.
Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Dull a ddefnyddir i ddod i adnabod plentyn fel unigolyn a sicrhau mai’r plentyn yw canolbwynt pob penderfyniad. Mae’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’ch plentyn, beth sy’n ei helpu, a sut i’w gynorthwyo i deimlo’n hapus ac yn ddiogel a gallu dysgu.
Mae geirfa fwy cynhwysfawr ar gael ym Mhennod 1 o ddogfen Llywodraeth Cymru: Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.
