Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n pennu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan ac, wrth ei gwraidd, rydym am weld rhagor o blant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i allu byw gyda’u teuluoedd ac yn y gymdogaeth, gyda llawer llai ohonynt angen mynd i ofal. Rydym hefyd am sicrhau bod y cyfnod y mae pobl ifanc yn ei dreulio mewn gofal mor fyr â phosibl.

Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Ailgynllunio’r ffordd yr ydym yn gofalu am blant a phobl ifanc er mwyn gallu gwneud y gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau yn lleol, sydd hefyd wedi’u cynllunio’n lleol ac sy'n atebol yn lleol, yw ein gweledigaeth.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal’ fel elfen allweddol o’r agenda radical hon.

Mae ein cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar y gofal preswyl i blant sy'n cael ei ddarparu'n breifat, ochr yn ochr â gofal maeth y sector annibynnol.

Mae Bwrdd Rhaglen amlasiantaeth wedi'i sefydlu i fwrw ati â'r gwaith technegol a datblygu i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, ffurfio ein dull gweithredu yn y dyfodol a sefydlogi'r farchnad.

Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd Rhaglen – 19 Medi 2023

Y Cynnydd

Cafodd lansiad tawel cychwynnol ei gynnal ar gyfer y Siarter Rhianta Corfforaethol ar 29 Mehefin, cyn y lansiad ehangach ym mis Medi 2023. Cafodd aelodau eu hannog i gofrestru os nad oeddent eisoes wedi gwneud hynny.

Yn dilyn yr Uwchgynhadledd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Phrofiad o Fod Mewn Gofal gyntaf o'i math i gael ei chynnal, ym mis Rhagfyr 2022, bwriedir cynnal uwchgynhadledd arall fel hon yn y Gogledd yn ddiweddarach eleni.

Ar 8 Awst, cafodd panel maethu a mabwysiadu ei gadeirio gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhoddodd hwn gyfle i drafod y manteision i fusnesau o sefydlu arferion a pholisïau sy'n galluogi eu staff i ymgymryd â'r daith fabwysiadu a/neu faethu. Yn y digwyddiad hwn, lansiodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei becyn cymorth 'Mabwysiadu yn eich Busnes'. Mae'r pecyn hwn wedi'i greu i helpu cyflogwyr i ddatblygu eu polisïau mabwysiadu a ffyrdd o gefnogi gweithwyr sydd wedi mabwysiadu, ochr yn ochr â'r rheini a allai fod yn ystyried bod yn fabwysiadwyr.

Drwy ei pholisi mabwysiadu corfforaethol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael cydnabyddiaeth am fodloni gofynion y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sydd wedi'u cyflwyno yn y pecyn cymorth hwn.

Ar 13 Medi, cafodd cynhadledd flynyddol Maethu Cymru ei chynnal yn Wrecsam. Yn y gynhadledd hon, gwnaeth y rhwydwaith fyfyrio ar lwyddiannau'r flwyddyn a aeth heibio a thrafod y cynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Er mwyn helpu i gysoni ffioedd a lwfansau, lansiodd Maethu Cymru arolwg byw yn y digwyddiad i ofyn am adborth gan ofalwyr maeth. Bydd yr arolwg hwn yn parhau ar agor tan 29 Medi.

Ffrydiau gwaith cam 2

Mae'r tair ffrwd waith a gafodd eu sefydlu o dan y Bwrdd Rhaglen yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd er mwyn nodi'r camau i'w cymryd i gefnogi'r gwaith o weithredu'r agenda, a chynghori'r bwrdd ar y camau hynny.

Mae ffrwd waith newydd wedi'i sefydlu i ystyried y materion pontio ar gyfer plant a phobl ifanc y gallai'r polisi i ddileu elw effeithio arnynt. Sicrhau bod budd plant a phobl ifanc yn ystyriaeth flaenllaw bob amser wrth ddatblygu polisi yw'r nod.

Bydd gweithdy yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni i weithio drwy rai o'r rhwystrau y mae rhai darparwyr preifat presennol yn tynnu sylw atynt o safbwynt pontio i fodel nid-er-elw. Bydd y gweithdy hwn yn ystyried materion fel asedau a modelau busnes yn fanylach.

Risgiau

Mae'r Gofrestr Risg wedi'i diweddaru fel ymateb i sylwadau gan aelodau'r Bwrdd Rhaglen mewn cyfarfodydd blaenorol. Tynnwyd sylw at rai ystyriaethau pellach, a bydd fersiwn arall yn cael ei rhannu.

Cyfathrebu

Mae'r Cynllun Cyfathrebu wedi’i ddiweddaru, ond mae angen iddo gael ei roi ar waith yn awr gan ddatblygu negeseuon penodol ar gyfer grwpiau penodol o randdeiliaid. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd ag aelodau'r Bwrdd a'r ffrydiau gwaith ar hyn.

Roedd angen cyfathrebu drwy dargedu'n benodol, gan fod yn agored, yn gywir ac yn amserol. Roedd hefyd angen mynd ati mewn ffordd arbennig o sensitif wrth gyfathrebu â phlant a phobl ifanc am y polisi a'r ddeddfwriaeth.