Dull o ymdrin â feirysau anadlol mewn gofal cymdeithasol: hydref/gaeaf 2022 i 2023
Canllawiau ar fesurau atal a rheoli heintiau ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar ymweliadau i mewn ac allan o gartrefi gofal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Wrth inni symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig, ac i mewn i hydref a gaeaf 2022 a 2023, bydd angen inni ystyried pa mor agored i niwed yw llawer o unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol o ganlyniad i'r ansicrwydd ynghylch effaith COVID-19 a feirysau anadlol eraill a'r risgiau uwch sy'n gysylltiedig â lleoliadau caeedig a dan do fel cartrefi gofal.
Byddwn yn adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yma yn dilyn cyflwyno rhaglen frechu lwyddiannus ac mae preswylwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol wedi ymateb yn wych i'r rhaglen. Mae'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol gyn parhau i weithio'n ddiflino i sefydlu gwell arferion ar gyfer atal a rheoli heintiau.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau atodol yn dilyn cyhoeddi ‘Dull o ymdrin â feirysau anadlol o ran iechyd y cyhoedd gan gynnwys COVID-19 2022 i 2023’. Ein hymagwedd o hyd yw nad yw COVID-19 wedi diflannu, a bod angen i amodau iechyd y cyhoedd lywio’r cyfnod pontio o bandemig i endemig.
Bydd rhai mesurau diogelu ac arferion da yn parhau i gael eu cynghori wrth symud ymlaen, ond byddwn yn annog darparwyr cartrefi gofal hefyd i symud yn hyderus tuag at ailgyflwyno ymdeimlad o normalrwydd i raddau llawer mwy yn eu cartrefi gofal ac ym mywydau beunyddiol y bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn cofio mai cartref yr unigolyn yw'r cartref gofal ac nid amgylchedd clinigol. Am y rheswm hwn, bydd rhywfaint o risg gynhenid bob amser o gael haint ac er ein bod yn cydnabod bod preswylwyr yn agored i niwed, ac rydym yn gwneud ein gorau i atal y risg hon, mae'n rhaid i unrhyw gamau a gymerir ystyried y niwed ehangach a allai ddigwydd bob amser.
Mae pobl sy'n gweithio ac yn byw mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ac sy'n derbyn gwasanaethau cymorth cartref wedi wynebu heriau sylweddol iawn gydol y pandemig [troednodyn 1] ac nid ydym yn diystyru'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar iechyd meddwl a chorfforol pobl a'u lles. Byddwn yn parhau i gyflawni cydbwysedd rhwng cefnogi lles pobl a chadw pobl yn ddiogel.
Bwriad y ddogfen hon yw rhoi crynodeb amlinellol i'r sector gofal cymdeithasol o'r newidiadau i'r trefniadau Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) a chanllawiau Atal a Rheoli Heintiau ac mae'n cynnwys cyngor ar ymweld â chartrefi gofal. Mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at ganllawiau manylach Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ceir rhestr gyfeirio gyflym i'r negeseuon allweddol yn Atodiad 1.
Gofynion profi, ac atal a rheoli heintiau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a phreswylwyr
Cyhoeddwyd cynllun pontio Llywodraeth Cymru, Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: COVID-19 – Cynllun pontio hirdymor Cymru o bandemig to endemig, ym mis Mawrth 2022. Mae’n nodi’r egwyddorion a fydd yn sail i ymateb parhaus Cymru i COVID-19 wrth inni edrych tua’r dyfodol o fyw gyda’r feirws ynghyd â chlefydau heintus eraill, a beth y bydd hyn yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau ac amddiffyniadau iechyd y cyhoedd. Gellir dadlau bod y sefyllfa yn ymwneud â feirysau anadlol ar gyfer gaeaf 2022 i 2023 yn fwy annelwig nag yn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig gan fod y pandemig wedi tarfu’n sylweddol ar batrwm feirysau tymhorol. Mae’r trefniadau newydd hyn yn ein symud i ddull gweithredu sydd wedi’i dargedu tuag at amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed rhag COVID-19 a feirysau anadlol eraill.
Mae rhagor o ganllawiau ar arferion gorau gan gynnwys rhagofalon rheoli heintiau safonol yn y llawlyfr atal a rheoli heintiau cenedlaethol (NIPCM) sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mesurau | Canllawiau |
---|---|
Profi staff gofal cymdeithasol |
Yn seiliedig ar y cyngor clinigol diweddaraf sydd ar gael am fanteision profion asymptomatig pan fydd achosion coronafeirws yn isel, o 8 Medi, byddwn yn atal profion asymptomatig ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau hosbis. Argymhellir bod pob aelod staff â symptomau yn cael prawf amlddadansoddiad a fydd yn rhoi diagnosis o COVID-19 a feirysau anadlol eraill gan gynnwys y ffliw ac RSV. |
Profi - Preswylwyr |
Byddwn yn parhau i ddarparu profion ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal sydd â symptomau ac rydym yn darparu profion amlddadansoddiad sy’n canfod COVID-19 a feirysau anadlol eraill. Bydd hyn yn helpu i reoli achosion a hysbysu ein hymdrechion gwyliadwriaeth barhaus. Byddwn yn parhau i ddarparu profion llif unffordd a phrofion PCR ar gyfer y rheini sy’n gymwys i gael triniaethau COVID-19. Bydd preswylwyr sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty i gartref gofal yn cael cynnig prawf llif unffordd. |
Staff gofal cymdeithasol - achosion positif a chysylltiadau hysbys |
Mae’r gofyniad cyfreithiol i hunanynysu achosion positif a chysylltiadau heb eu brechu wedi dod i ben ers 28 Mawrth 2022. Daeth y Cynllun Cymorth Hunanynysu i ben ar 30 Mehefin 2022. Mae’r cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol COVID-19 wedi dod i ben ar 31 Awst 2022.
Mae’r tebygolrwydd o gael prawf llif unffordd heb symptomau ar ôl 10 diwrnod yn isel iawn. Fodd bynnag, os yw’r prawf llif unffordd yn bositif ar y 10fed diwrnod, dylent barhau i brofi a dychwelyd i’r gwaith dim ond ar ôl cael un prawf llif unffordd negatif. Mae’r canllawiau llawn ar gael: Profion COVID-19 ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai staff gofal cymdeithasol a nodir fel cysylltiadau ar yr aelwyd ddilyn canllawiau gofal cymdeithasol penodol sydd ar gael: Profion COVID-19 ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Yn fras, fodd bynnag: Dylai staff gofal cymdeithasol sy’n cael eu hadnabod fel cyswllt ar yr aelwyd neu gyswllt dros nos i rywun sydd wedi cael prawf COVID-19 positif drafod ffyrdd o leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill gyda’u rheolwr llinell. Gall hyn gynnwys ystyried:
Yn y gwaith, rhaid i staff barhau i gydymffurfio’n drylwyr â’r holl ganllawiau atal a rheoli heintiau COVID-19 perthnasol a Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru. Os yw staff yn datblygu unrhyw symptomau o fewn y 10 diwrnod, dylent ddilyn y cyngor ar gyfer staff gyda symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19. |
Defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) |
Mae canllawiau atal a rheoli heintiau COVID-19 presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu mesurau atal a rheoli heintiau penodol i atal trosglwyddiad SARS-CoV-2 mewn lleoliadau iechyd a gofal yng Nghymru. Dylid darllen y canllawiau hyn mewn cysylltiad â Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru. Mae’r canllawiau’n disgrifio sut i gymryd rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol a Rhagofalon Seiliedig ar Drosglwyddiad. Gallwch ddod o hyd i fanylion ar y cyfarpar diogelu personol sy’n cael ei argymell ar gyfer darparu gofal uniongyrchol mewn achosion o COVID-19, neu achosion a amheuir: Infection Prevention and Control Measures for SARS-CoV-2 (COVID-19) in Health and Care Settings - Wales Yn gryno, dylid gwisgo menig, ffedogau a masg FRSM math 11R untro a feisor neu gogls yn ogystal wrth roi gofal personol, uniongyrchol i bobl sydd â COVID-19 neu yr amheuir sydd â COVID-19. Mae dull asesu risg i gefnogi sefydliadau gofal cymdeithasol i ddefnyddio’r hierarchiaeth mesurau rheoli gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ar gael: Criteria for completing a local risk assessment Social Care. Argymhellir y dylid cynnal asesiad yn rheolaidd gan ddefnyddio’r dull hwn i sicrhau parodrwydd. Dylai staff barhau i wisgo menig a ffedogau untro pan fyddant yn rhoi gofal personol uniongyrchol os rhagwelir y gellir dod i gysylltiad â gwaed/hylifau’r corff. Pan na cheir achos neu frigiad o achosion o COVID-19 mewn cartref gofal, gall darparwyr gynnal asesiad risg o’r angen i staff nad ydynt yn darparu gofal personol uniongyrchol barhau i ddefnyddio masgiau. Dylai staff nad ydynt yn darparu gofal personol, uniongyrchol ailddechrau gwisgo masgiau os bydd haint COVID-19 wedi’i gadarnhau neu ei amau o fewn y lleoliad. |
Cadw pellter cymdeithasol |
Gellir llacio'r canllawiau sy'n dweud y dylai staff gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal a’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau cymorth cartref gadw pellter cymdeithasol pan nad oes tystiolaeth bod COVID-19 yn cylchredeg yn y cartref. Pe bai digwyddiad neu achos yn digwydd mewn cartref gofal, gellid ailgyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol fel mesur lliniaru. |
Cartrefi gofal
Mae pobl sy'n gweithio ac yn byw mewn cartrefi gofal a'u teuluoedd wedi wynebu heriau sylweddol iawn gydol y pandemig. Ni fydd y gofid a achosir gan gyfyngiadau, colli anwyliaid a chael eu gwahanu oddi wrth deulu a ffrindiau yn cael ei anghofio. Yn yr un modd, rydym yn cydnabod ac yn myfyrio ar waith darparwyr cartrefi gofal a'u staff wrth ofalu am bobl a'u cadw'n ddiogel mewn amgylchiadau anodd iawn. Nid ydym yn tanbrisio'r effaith y mae hyn i gyd wedi'i chael ar iechyd meddwl a chorfforol pobl a'u lles.
Mae bywyd mewn cartrefi gofal yn dal i fod yn wahanol iawn i'r ffordd yr oedd cyn y pandemig. Mae'n rhaid inni adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu a'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gennym raglen frechu lwyddiannus ac mae nifer y preswylwyr cartrefi gofal sydd wedi cael eu brechu yn rhagorol ac mae'r rhan fwyaf o staff cartrefi gofal wedi cael eu brechu hefyd. Os nodir bod nifer yr aelodau staff sy'n cael eu brechu mewn cartrefi gofal yn isel, bydd sylw wedi'i dargedu yn parhau i gael ei roi i'r cartrefi gofal hynny, gyda'r nod o gynyddu lefelau brechu er mwyn cadw eu hunain a'r rhai maen nhw'n gofalu amdanynt yn ddiogel.
Mae cartrefi gofal wedi sefydlu gwell arferion atal a rheoli heintiau ac mae angen parhau i ganolbwyntio ar hynny er mwyn sicrhau bod y gwelliant hwn yn cael ei gynnal. Er y bydd rhai mesurau diogelu’n parhau i gael eu cynghori wrth inni bontio y tu hwnt i lefel rhybudd sero, byddwn yn annog darparwyr cartrefi gofal i symud yn hyderus tuag at ailgyflwyno mwy o ymdeimlad cartrefol o normalrwydd yn eu cartrefi gofal a chyfoethogi bywydau a mwynhad o ddydd i ddydd y bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt. Dylai pobl allu ymlacio a threulio amser gyda'i gilydd, bwyta gyda'i gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunol.
Un agwedd allweddol ar ddychwelyd i fwy o normalrwydd yw sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi yn eu hawl i fynd allan ac i gymryd rhan mewn bywyd teuluol a chymunedol ac nad yw'r hawl hon yn cael ei chyfyngu na’i rhwystro.
Yn yr un modd, rydym yn disgwyl i ymwelwyr gael eu croesawu a'u hannog mewn ffordd agored a hyblyg. Dylai darparwyr cartrefi gofal gefnogi ymweliadau dan do arferol heb gyfyngiadau pan nad oes achosion o'r clefyd. Os ystyrir bod bod angen system apwyntiadau, dylai hyn hwyluso ymweliadau yn hytrach na’u llesteirio. Nid ydym yn disgwyl y bydd cyfyngiadau amhriodol ar niferoedd ymwelwyr nac ar hyd a mynychder yr ymweliadau.
Ymweld â chartrefi gofal
Mesurau | Canllawiau |
---|---|
Ymweld â chartrefi gofal |
Dylid croesawu, annog a galluogi ymwelwyr os nad oes oes achosion o'r clefyd yn y cartref gofal. Dylai’r trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Gyda phrofion asymptomatig rheolaidd wedi’u hatal ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol, ni fydd angen i ymwelwyr â chartrefi gofal gymryd prawf llif unffordd cyn ymweld bellach. |
Gorchuddion wyneb wrth ymweld â chartref gofal | Daeth y gofyniad cyfreithiol i ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb pan fyddant yn ardaloedd cyhoeddus cartrefi gofal ac wrth symud drwy'r cartref gofal i ben ar 30 Mai 2022. Gall darparwyr ddilyn dull asesu risg. |
Ymweliadau arferol i mewn ac allan o gartrefi gofal yn ystod achosion o'r clefyd | Gellir cefnogi ymweliadau arferol i mewn ac allan o gartrefi gofal yn ystod rhai digwyddiadau neu achosion COVID-19, yn dibynnu ar gyngor iechyd y cyhoedd ar gyfer yr achosion penodol. |
Preswylwyr cartrefi gofal
Mesurau |
Canllawiau |
---|---|
Derbyniadau i gartrefi gofal yn dilyn rhyddhau o'r ysbyty |
Rydym yn annog byrddau iechyd i weithio gyda darparwyr cartrefi gofal ar drefniadau profi wrth ryddhau. Gall cleifion sydd wedi cael prawf COVID positif ar gael eu derbyn i’r ysbyty neu wedi hynny gymryd yn ganiataol nad ydynt yn heintus pan fydd eu symptomau wedi gwella, a bod:
Bydd cleifion asymptomatig nad ydynt wedi cael prawf COVID positif eisoes yn cael prawf llif unffordd o fewn 24 awr i gael eu rhyddhau i gyfleuster gofal. Argymhellir o hyd y dylai preswylwyr cartrefi gofal hunanynysu ar ôl cael eu rhyddhau, ond gallant brofi i gael eu rhyddhau gan ddefnyddio profion llif unffordd ar ddiwrnod 3. Mae canllawiau ar brofion cyn rhyddhau a threfniadau hunanynysu dilynol i’w gweld: Gofynion Gwasanaeth Rhyddhau o Ysbyty COVID-19 (Cymru). |
Derbyniadau i leoliad gofal o rywle arall |
Dylai unigolion sydd angen cael eu derbyn i gartref gofal o'u cartref eu hunain, cartref perthynas neu leoliad gofal arall gael asesiad risg o ran eu risg o haint, gan gynnwys ar gyfer haint COVID-19. Os oes gan unigolyn symptomau COVID-19 neu os yw wedi profi'n bositif, gallai lleoliad neu dderbyniad gael ei ohirio am 10 diwrnod (neu 14 diwrnod i'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol neu'n eithriadol o agored i niwed) neu gallai'r cartref gofal ystyried derbyn yr unigolyn a gofyn iddo hunanynysu, os yw’r cyfleusterau ar gael i wneud hynny. |
Preswylwyr cartrefi gofal yn mynd allan |
Dylai darparwyr gefnogi ac annog pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal i arfer eu hawl i fynd allan a chymryd rhan mewn bywyd teuluol a chymunedol. Ni ddylid cyfyngu ar yr hawl hon na'i rhwystro. Oherwydd na chynhelir profion asymptomatig o 8 Medi, nid yw profion llif unffordd yn cael eu hargymell ar ôl dychwelyd o ymweliadau yn y gymuned. |
Ynysu preswylwyr cartrefi gofal - y rhai sydd wedi cael canlyniad prawf positif neu sydd wedi'u nodi fel cyswllt | Mae’r canllawiau ar gyfer pobl â symptomau o haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 ar gael: Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19. |
Trefniadau cadw pellter cymdeithasol preswylwyr cartrefi gofal | Gellir llacio'r canllawiau sy'n dweud y dylai staff a phreswylwyr gadw pellter cymdeithasol pan nad oes tystiolaeth bod COVID-19 yn cylchredeg yn y cartref. Pe bai digwyddiad neu achos, gellid ailgyflwyno trefniadau cadw pellter cymdeithasol fel mesur lliniaru. |
Datgan achosion a rheoli achosion mewn cartrefi gofal
Darperir canllawiau sy'n ymwneud â rheoli heintiau COVID-19 mewn cartrefi gofal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gellir eu gweld yn llawn ar wefan y sefydliad: Infection Prevention and Control Measures for SARS-CoV-2 (COVID-19) in Health and Care Settings - Wales.
Mesurau | Rheoli achosion |
---|---|
Datgan achos/digwyddiad o'r haint COVID |
Mae datgan a rheoli achosion o COVID-19 mewn cartrefi gofal yn cyd-fynd bellach â’r canllawiau presennol ar gyfer heintiau anadlol er mwyn sicrhau bod achos/digwyddiad yn cael ei ddatgan dim ond os oes dau neu fwy o gleifion neu aelodau staff yn cael COVID-19 mewn lleoliad penodol lle yr amheuir bod haint a throsglwyddiadau'n digwydd mewn ysbyty neu leoliad gofal iechyd. Er mwyn gallu datgan bod achosion wedi dod i ben, ni ddylid cael unrhyw achosion newydd symptomatig neu wedi'u cadarnhau o COVID-19 sy'n gysylltiedig ag achosion am gyfnod o 14 diwrnod o leiaf. |
Profi ar gyfer rheoli achosion |
Bydd unedau Profi Symudol yn cael eu cadw i reoli a chefnogi achosion. Bydd capasiti profion llif unffordd wrth gefn yn cael ei gadw i gefnogi'r gwaith o reoli achosion lleol ac ymchwilio i amrywiolion sy'n dod i'r amlwg. |
Atodiad 1
Mesurau |
Canllawiau |
---|---|
Brechiadau |
|
Profi staff |
|
Profi preswylwyr |
|
Aros gartref |
Dylai staff asymptomatig sy’n cael eu hadnabod fel cyswllt ar yr aelwyd neu gyswllt dros nos i rywun sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif drafod ffyrdd o leihau’r risg o drosglwyddo’r haint i eraill gyda’u rheolwr llinell. Gall hyn gynnwys ystyried:
Yn y gwaith, rhaid i staff barhau i gydymffurfio’n drylwyr â’r holl ganllawiau atal a rheoli heintiau COVID-19 perthnasol a Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru. Os yw staff yn datblygu unrhyw symptomau o fewn y 10 diwrnod, dylent ddilyn y cyngor ar gyfer staff gyda symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19. |
Arferion da PPE |
|
Cadw pellter cymdeithasol |
|
Ymwelwyr â chartrefi gofal |
|
Preswylwyr yn mynd allan ac yn dychwelyd o ymweliadau yn y gymuned |
|
Troednodyn
[1] Er enghraifft, gweler: Adolygiad cyflym o effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU. Adroddiad: RR00002, Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru Gorffennaf 2021 a Ydy mesurau atal a rheoli haint wedi arwain at unrhyw ddeilliannau niweidiol i breswylwyr a staff cartrefi gofal a gofal cartref? Adroddiad: RR00018, Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru Tachwedd 2021.