Enwau lleoedd tramor
Rhestr ddwyieithog i'w lawrlwytho o enwau gwladwriaethau a thiriogaethau.
Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu wedi paratoi rhestr ddwyieithog o enwau gwladwriaethau a thiriogaethau.
Cewch fersiwn gyflawn o'r rhestr ar y dudalen hon. Mae'r rhestr yn cynnwys enwau Saesneg, enwau Cymraeg a safonwyd, a rhai nodiadau.
Mae'r enwau hyn oll wedi eu cynnwys yng nghronfa TermCymru, lle gellir chwilio amdanynt fesul un. Fel holl adnoddau'r Gwasanaeth Cyfieithu ar BydTermCymru, rhyddheir yr adnodd hwn o dan y drwydded OGL.
Seiliwyd y gwaith safoni ar set o egwyddorion a luniwyd yn benodol ar gyfer y dasg. Mae'r egwyddorion oedd yn sail i'r broses safoni wedi eu cyhoeddi'n llawn yn yr Arddulliadur, o dan y teitl Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth.
Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yw diben y rhestr hon, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.
Sylwch y gall y ffurfiau newid gydag amser, yn unol â'r egwyddorion, ac mae bwriad ychwanegu ati maes o law.