Atebion i gwestiynau cyffredin am Fferm Gilestone.
Cynnwys
Cefndir
Am nifer o flynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod â Gŵyl y Dyn Gwyrdd ynghylch y posibilrwydd o gefnogi brand ehangach yr Ŵyl yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn gyflogwr allweddol yng Nghymru, sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi leol ac yn darparu swyddi drwy ei brif fusnes, sef yr ŵyl ei hun, ac mewn nifer cynyddol o fusnesau cysylltiedig – busnesau sy'n rhoi cryn bwyslais ar ddatblygu cynaliadwy.
Ar 1 Hydref 2021, cyflwynodd Gŵyl y Dyn Gwyrdd gynllun busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru, yn amlinellu trosolwg o uchelgais y cwmni ar gyfer dyfodol cynaliadwy, a rhagor o fanylion am anghenion y safle yn y dyfodol.
Ym mis Mawrth 2022, prynodd Llywodraeth Cymru Fferm Gilestone am £4.25 miliwn, yn erbyn gwerthusiad marchnad agored y cytunwyd arno o £4.325 miliwn, er mwyn datblygu ein huchelgais ar gyfer datblygu economaidd ac i gefnogi twf y sector creadigol yng Nghymru.
Er mwyn sicrhau bod yr safle’n cael ei reoli mewn modd priodol yn dilyn ei brynu, arhosodd y perchennog blaenorol, ar rent hedyn pupur, tan fis Hydref 2022, er mwyn rheoli'r safle.
Y trefniadau rheoli presennol
Ym mis Medi 2022, cytunwyd ar Denantiaeth Busnes Fferm gyda'r perchennog blaenorol tan fis Hydref 2023, ond y tro hwn ar delerau masnachol.
Yr hyn sy'n cael ei gynnig
Mae'r gweithgareddau a gynigir yn y cynllun busnes yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Ffermio
- Canolfan Greadigol
- Profiadau Byw a Chynulliadau Newydd
- Bwyd a Diod
- Twristiaeth
- Priodasau a Digwyddiadau Eraill
Mae hanes cryf o dwristiaeth a digwyddiadau bach eraill ar Fferm Gilestone, ynghyd â nifer o fusnesau a gweithgareddau economaidd y gellir eu gwella i greu canolfan greadigol – y ganolfan greadigol wledig gyntaf yng Nghymru.
Mae'r cynlluniau’n nodi, er hynny, y bydd egwyddorion cynaliadwyedd Gŵyl y Dyn Gwyrdd hefyd yn cael eu hymgorffori yn y gweithgareddau amaethyddol ar y safle, a chynhelir asesiadau i sicrhau bod yr holl weithgareddau’n gweithio mewn cytgord â'r amgylchedd, ac nad ydynt yn peri difrod i fioamrywiaeth y safle. Er enghraifft, mae'r cynllun busnes yn nodi y bydd yr holl weithgareddau ffermio yn y dyfodol yn defnyddio'r arferion gorau wrth reoli ffosffadau i'w hatal rhag trwytho i Afon Wysg.
Drwy’r fenter hon, mae’r busnes yn ceisio creu £23m ar gyfer yr economi leol, darparu o leiaf 38 o swyddi llawnamser a chefnogi 300 o swyddi lleol drwy ei gadwyn cyflenwi.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Ni fydd y safle'n cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd, gan nad yw'n gwneud synnwyr symud yr ŵyl i safle nad yw wedi cael ei ddatblygu – byddai gwneud hyn yn tarfu ar sefydlogrwydd economaidd yr ardal. Yn ogystal, nid yw Fferm Gilestone yn ddigon mawr i gynnal Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Materion amgylcheddol a chynllunio
Cyn prynu’r fferm, cafodd adroddiad amgylcheddol ei baratoi fel rhan o’r broses gyfreithiol a’r broses diwydrwydd dyladwy, a gyfeiriodd at bresenoldeb Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Mae parchu'r byd naturiol a'r amgylchedd wrth wraidd brand Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a bydd yr ethos hwn yn parhau i fod yn ganolog i'r gweithgareddau a gynigir ar gyfer Fferm Gilestone. Nid yw brand Gŵyl y Dyn Gwyrdd na Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â phrosiect a fydd yn peri difrod i'r amgylchedd nac i fioamrywiaeth ar safle Fferm Gilestone.
Mae'r cynlluniau'n nodi y bydd egwyddorion cynaliadwyedd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cael eu hymgorffori yn yr holl weithgareddau a gynhelir ar y safle, a bydd asesiadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod y datblygiad yn gweithio mewn cytgord â'r amgylchedd naturiol. Er enghraifft, mae'r cynllun busnes yn nodi y bydd yr holl weithgareddau ffermio yn y dyfodol yn defnyddio'r arferion gorau wrth reoli ffosffadau i'w hatal rhag trwytho i Afon Wysg.
Bydd Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnwys yn y camau nesaf, a bydd eu mewnbwn yn hanfodol i arwain y broses a fydd yn sicrhau bod yr holl weithgareddau a gynhelir ar y safle yn gweithio mewn cytgord â'r amgylchedd naturiol.
Ni fydd unrhyw weithgareddau masnachol ychwanegol yn cael eu cynnal ar y safle heb gynnal yr asesiadau amgylcheddol a chynllunio gofynnol a derbyn y caniatadau sydd eu hangen.
Ymgynghori â'r gymuned
Mae bron 50% o holl fusnes y llywodraeth a ddyrannwyd i Gymru Greadigol ers mis Ebrill 2022 yn gysylltiedig â Fferm Gilestone. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Powys hefyd wedi derbyn lefel uchel o ohebiaeth ac ymholiadau. Yn ogystal â hyn, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sesiwn dystiolaeth ynghylch prynu'r safle ym mis Gorffennaf 2022, ac wedyn cynhaliodd Archwilio Cymru adolygiad ac adroddodd yn ôl i Gadeirydd y Pwyllgor ym mis Ionawr 2023.
Mae cryn ddiddordeb gan y gymuned yn y cynigion ar gyfer Fferm Gilestone. Mae rhai wedi lleisio rhwystredigaeth ynghylch yr wybodaeth a roddwyd i’r gymuned am y cynigion. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru yn credu y byddai rhannu cynlluniau drafft cyn i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad ynghylch a ddylid ystyried y cynlluniau ymhellach yn fuddiol.
Am fod Gweinidogion Cymru bellach wedi penderfynu symud ymlaen i gamau nesaf y broses, cynhelir gwaith ymgynghori â'r gymuned leol, gan weithio gyda Chyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd y gwaith yn cael ei wneud drwy Gyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, fel corff etholedig democrataidd yr ardal.
Seilwaith Tal-y-bont ar Wysg a'i gyffiniau
Mae’r lefelau uwch posibl o draffig a’r pwysau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau bach wedi’u cynllunio ar gyfer Fferm Gilestone wedi cael eu codi gyda Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Cymuned a Chynghorydd Sir yr ardal.
Am fod penderfyniad bellach wedi cael ei wneud gan Weinidogion Cymru i symud ymlaen i gamau nesaf yr asesiad, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg i asesu anghenion y seilwaith lleol sy'n berthnasol i'r datblygiad.
Prydles arfaethedig ar gyfer Fferm Gilestone
Mae Gweinidogion Cymru bellach wedi cytuno i drafodaethau ffurfiol ynghylch prydles ddechrau rhwng Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Bydd y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal ar sail fasnachol.
Cyfathrebu
Bydd Cynrychiolwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn rhannu gwybodaeth â thrigolion lleol dros yr wythnosau nesaf, yn rhoi ragor o fanylion eu cynnig.
Bydd y Cwestiynau Cyffredin yn cael eu rhannu â Chyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, ac ar wefan Llywodraeth Cymru.