Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y fforwm a sut y bydd yn gweithio.

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mai drwy ddatblygu’n gynaliadwy y bydd Cymru yn cyflawni ar gyfer pobl yn awr, ac yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Sefydlwyd Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2021 er mwyn cadw trosolwg ar y broses o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith, a darparu cyngor arni. O dan arweinyddiaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mae’r Fforwm yn ategu gweithgareddau eraill er mwyn cynnwys pobl mewn camau gweithredu i hyrwyddo’r agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Y Nod

Dwyn ynghyd amrywiaeth eang o randdeiliaid o sectorau gwahanol i gefnogi a chynghori ar y gwaith o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru.

Amcanion

Dyma amcanion y fforwm:

  • casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar faterion allweddol, cyfleoedd a rhwystrau rhag gweithredu Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • rhannu arferion arloesol o bob rhan o Gymru ac o’r tu allan i Gymru.
  • sicrhau bod agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei ledaenu a’i gyfathrebu’n effeithiol rhwng y Llywodraeth a’r rhanddeiliaid.

Llywodraethiant

Caiff y cyfarfodydd eu cadeirio gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Dyfodol Cynaliadwy (Llywodraeth Cymru).

Cyfarfodydd rhithiol fydd y cael eu cynnal gan amlaf er mwyn dod â’r aelodau ynghyd, ond gan ddibynnu ar y blaenoriaethau a’r pynciau dan sylw, mae’n bosibl y bydd dulliau eraill yn cael eu defnyddio er mwyn cynnwys pobl, casglu safbwyntiau a sbarduno trafodaeth.

Yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli ysgrifenyddiaeth y fforwm. Bydd y fforwm yn cyfarfod ym mis Chwefror a mis Mawrth 2021. Bydd cylch gorchwyl y fforwm a’r ffordd y bydd yn gweithredu yn cael eu hadolygu’n gyson. Cynhelir adolygiad ffurfiol ar ôl etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2021.

Rôl aelodau'r Fforwm

  • Arwain drwy esiampl ein hunain, gyda'n harferion, ac ymdrechu i ymgorffori ysbryd Deddf Llesiant yn ein sefydliadau.
  • Rhoi'r pum ffordd o weithio ar waith yn y grŵp yma. Dangos y gall y pum ffordd o weithio gyflawni, gyflenwi, a rhoi pethau ar waith.
  • Bod gyda'n gilydd fel grŵp dysgu agored, yn dryloyw, cefnogol, a thrugarog – ysgwydd wrth ysgwydd, yn edrych tua’r dyfodol.
  • Codi ymwybyddiaeth o egwyddorion y Ddeddf Llesiant. Gall pob un ohonom holi 'beth fyddai person ifanc mewn 10 neu 20 mlynedd yn ei ddweud am hynny?'
  • Dod o hyd i gydbwysedd rhwng mynd gyda'r parodwydd (i ysbrydoli eraill) a chwynnu'r nonsens.
  • Arweinyddiaeth huawdl a gweladwy a meddwl am sut i gymell pobl i ymgysylltu â'n hagenda.
  • Datblygu naratif clir sy'n cysylltu â'n hunaniaeth ar y cyd ac sy’n cyd-fynd â'r agenda wleidyddol a chenedlaethol.
  • Nodi ac yna mynd i'r afael â'r rhwystrau. Cyfathrebu rheolaidd.
  • Deall ein cyfeiriad. Sut mae mynd ar y trywydd cywir? Sut mae sicrhau bod gennym y data cywir i wneud penderfyniadau?
  • Cael cydbwysedd rhwng anogaeth a her. Gallwn ddeall sut mae'n teimlo i gael eich herio.
  • Cydnabod bod hyn yn anodd ei wneud. Byddwch yn onest am ein methiannau a'r hyn rydyn ni’n ei ddysgu - dyna sut gallwn ni ddysgu a symud ymlaen mewn gwirionedd. Gwnewch hyn yn ofod diogel i ddysgu.