Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer creu perthi/gwrychoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i dynnu ffotograffau â geotag

Am fanylion llawn:

  • beth yw ffotograff â geotag, a
  • sut i gymryd un 

gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag

Creu perthi/gwrychoedd

Gallwch gynnal yr opsiwn Creu Perthi/Gwrychoedd yn y mannau a ganlyn:

  • Ar hyd ffiniau caeau presennol lle nad oes perth/gwrych wedi bod yno o’r blaen.
  • O fewn caeau, er mwyn creu ffiniau newydd.
  • Ar gloddiau (cloddiau pridd a chloddiau cerrig). Ni ddylai fod unrhyw dyfiant prennaidd ar y clawdd o gwbl.
  • Ar gloddiau sydd â rhai planhigion perthi prennaidd yn dal yno. (Bydd bylchau mawr rhwng y gweddillion hyn, ac ni fyddant yn cael eu tocio â pheiriant).
  • Ar gloddiau â pherth lle y mae rhai coed aeddfed wedi’u cadw yno. (Nid rhes ddi-fwlch o goed).
  • Er mwyn llenwi bylchau sy’n 20m neu fwy mewn perthi/gwrychoedd sy’n bod.

Nid yw’r opsiwn hwn ar gael i chi os:

  • oes planhigion perthi’n tyfu’n ddi-fwlch ar y darn y bwriedir ei blannu ar ei hyd.
  • oes rhes ddi-fwlch o goed aeddfed eisoes.
  • yw gweddillion y berth/gwrych wedi eu torri neu eu tocio â pheiriant er mwyn cynnal y berth/gwrych.
  • ydych yn cau bylchau llai nag 20m o hyd mewn perth/gwrych

Help a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.