Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Grantiau Bach – yr Amgylchedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i dynnu ffotograffau â geotag

Am fanylion llawn:

  • beth yw ffotograff â geotag, a
  • sut i gymryd un 

gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag

Gofynion Grantiau Bach – yr Amgylchedd

Tynnwch eich ffotograffau cyn ac ar ôl cynnal eich gwaith cyfalaf Grantiau Bach – Amgylchedd. Rhaid gofalu bod geotag ar bob ffotograff.

Dylai’r ffotograffau ‘cyn y gwaith’ gael eu tynnu ar ôl i’r contract gael ei lofnodi. Rhaid iddynt ddangos yn glir y sefyllfa yn y lleoliad dan sylw cyn i’r gwaith ddechrau. Efallai y bydd angen mwy nag un ffotograff i ddangos y safle yn ei gyfanrwydd.

Dylech dynnu’r ffotograffau ‘ar ôl’ yn yr un mannau a dangos y gwaith cyfalaf yn glir. Efallai y bydd angen mwy nag un ffotograff i ddangos bod y gwaith wedi’i wneud.

Bydd angen ffotograffau â geotag hefyd o eitemau gwaith cyfalaf ategol y byddwch newydd eu gosod, fel gatiau pren neu gafnau dŵr.

Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.

Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.

Lle medrir, dylai’r ffotograffau gynnwys hefyd:

  • Nodwedd amlwg i gadarnhau’r lleoliad. Er enghraifft, ffos, ffens, adeilad fferm, heol neu bolyn telegraff.
  •  Polyn anelu (2m o uchder gyda bandiau 50cm o ddyfnder mewn coch a gwyn) neu rywbeth arall i ddangos graddfa. Er enghraifft, beic cwad neu gerbyd

Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Byddwn ni'n cadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i wneud yn y man cywir fel a nodir yn y contract.

Help a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.