Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Grantiau Bach – Effeithiolrwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i dynnu ffotograffau â geotag

Am fanylion llawn:

  • beth yw ffotograff â geotag, a
  • sut i gymryd un 

gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag

Gofynion Grantiau Bach – Effeithiolrwydd

Wrth hawlio taliad, dylech gyflwyno’r ffotograffau â geotag canlynol:

  • yr eitem yn ei lle, ac yn gweithio
  • rhif cyfresol os oes un

Ar gyfer eitemau fel tyllau turio, dylech dynnu ffotograff â geotag ohono’n cael ei osod.

Bydd angen i ffotograffau ddangos lleoliad yr eitem yn glir.

Os na fydd eich ffotograffau’n dangos yr eitem yn glir, efallai y caiff eich hawliad ei wrthod.

Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod yr eitem gafodd ei phrynu yn cyfateb i’r fanyleb. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.

Bydd angen i chi lanlwytho ffotograffau â geotag i RPW Ar-lein. Byddwn ni'n cadarnhau bod yr eitemau sydd wedi'u cynnwys yn eich contract yn bodloni'r fanyleb ofynnol. Mae hyn er mwyn dilysu eich cais.

Help a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.