Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ac anfon ffotograffau â geotag ar gyfer cynllun Grantiau Bach - Gorchuddio Iardiau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i dynnu ffotograffau â geotag

Am fanylion llawn:

  • beth yw ffotograff â geotag, a
  • sut i gymryd un 

gweler: Grantiau a thaliadau gwledig: canllawiau ffotograffau â geotag

Gofynion Grantiau Bach - Gorchuddio Iardiau

Wrth gyflwyno’ch hawliad, dylai’r ffotograffau â geotag ddangos:y to newydd

  • gorchudd to newydd
  • lleoliad yr ardal mewn perthynas â strwythurau parhaol cyfagos.
  • yr allfa a'r llif ar gyfer dŵr glaw wedi'i ddargyfeirio.
  • yr allfa neu’r dull o gasglu slyri o'r ardal wedi'i gorchuddio a'r llwybr at y tanc storio neu’r storfa.
  • lleoliad y storfa slyri neu’r pwll derbyn.
  • gosod eitemau ategol – ac eithrio pecynnau dadansoddi slyri.

Os ydych yn hawlio am eitemau ategol sydd mewn mwy nag un lleoliad, bydd angen ichi gyflwyno ffotograffau sy'n dangos pob lleoliad.

Ar gyfer prif eitemau (toeau) bydd angen o leiaf pedwar ffotograff i ddangos y to newydd, wedi'u tynnu o gyfeiriadau gwahanol. Lle mae'r lleoliad yn caniatáu hynny, bydd angen ffotograffau o’r gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin

Bydd angen i ffotograffau ddangos y lleoliad, y defnydd a wneir ohono ac, os yw'n briodol, y llawr. Os bydd y llawr wedi'i orchuddio â slyri neu dail, bydd angen ei olchi cyn tynnu ffotograffau â geotag. Os na fydd eich ffotograffau’n dangos y safle’n glir, efallai y caiff eich hawliad ei wrthod.

Rhaid tynnu’r ffotograffau o’r un lleoliad.  Rhaid i chi ddangos yn glir y prif waith cyfalaf a'r holl waith cyfalaf ategol a gwblhawyd, ac eithrio’r pecynnau dadansoddi slyri. Os ydych yn gosod eitemau o dan y ddaear, dylech dynnu ffotograffau â geotag o'r rhain cyn iddynt gael eu gorchuddio. Efallai y bydd angen ichi dynnu mwy nag un ffotograff i ddangos bod y gwaith wedi'i gwblhau.

Does dim gwahaniaeth p’un a yw’r lluniau’n rhai ‘portrait’ neu ‘landscape’, cyn belled â’ch bod yn gallu gweld yr holl wybodaeth berthnasol.

Eich cyfrifoldeb chi yw dangos digon o dystiolaeth i brofi bod y gwaith rheoli neu’r buddsoddiad wedi’i wneud. Heb ddigon o dystiolaeth, efallai y bydd yna oedi cyn eich talu neu efallai na chewch eich talu o gwbl.

Lle medrir, dylai’r ffotograffau gynnwys hefyd nodwedd amlwg i gadarnhau’r lleoliad. Er enghraifft, ffos, ffens, neu adeilad fferm.

Bydd angen i chi lanlwytho’ch ffotograffau ‘cyn gwneud y gwaith’ i RPW Ar-lein fel rhan o’ch Datganiad o Ddiddordeb yn y cynllun Gorchuddio Iardiau. Byddyn ni’n cadarnhau’ch bod yn gymwys ar gyfer eich dewis.

Bydd angen i chi lanlwytho’ch ffotograffau ‘ar ôl gwneud y gwaith’ i RPW Ar-lein. Byddyn ni’n cadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i wneud yn y man cywir fel a nodir yn y contract a bod y manylion yn gywir i ddilysu’ch hawliad.

Help a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw broblemau pellach, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.