Gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco a chynhyrchion fepio
Gwaharddiadau newydd ar beiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts, a chynhyrchion fepio a nicotin o 29 Hydref 2026.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
O 29 Hydref 2026, bydd yn drosedd i berson sy'n rheoli mangre yn y DU gael peiriant gwerthu ar y safle:
- y gall cwsmeriaid ei ddefnyddio i brynu unrhyw un o'r cynhyrchion o dan sylw
- sy'n cyflenwi unrhyw un o'r cynhyrchion hyn i gwsmer fel rhan o werthiant, hyd yn oed os nad yw taliad yn cael ei wneud wrth y peiriant
Y cynhyrchion o dan sylw yw:
- cynhyrchion tybaco
- cynhyrchion smygu llysieuol
- papurau sigaréts
- cynhyrchion fepio
- cynhyrchion nicotin
Yng Nghymru a Lloegr, bydd peiriannau gwerthu ar gyfer cynhyrchion fepio yn parhau i gael eu caniatáu mewn ardal o fewn ysbyty iechyd meddwl y bwriedir iddi gael ei defnyddio gan gleifion mewnol.
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r gwaharddiad ar y mathau hyn o beiriannau gwerthu.
Lluniwyd y canllawiau hyn yn bennaf ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli mangre lle mae peiriant gwerthu yn stocio'r cynhyrchion a restrir uchod. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol i'r canlynol:
- awdurdodau gorfodi perthnasol
- pobl sy'n defnyddio'r cynhyrchion hyn
Gwledydd sydd wedi'u cynnwys
Mae'r canllawiau hyn yn gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gall y cosbau am gyflawni trosedd amrywio rhwng awdurdodaethau.
Y cynhyrchion o dan sylw
Y cynhyrchion sydd o fewn cwmpas y troseddau sy'n ymwneud â pheiriannau gwerthu o 29 Hydref 2026 yw:
- cynhyrchion tybaco
- cynhyrchion smygu llysieuol
- papurau sigaréts
- cynhyrchion fepio
- cynhyrchion nicotin
Ar gyfer cynhyrchion tybaco, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- sigaréts
- tybaco rholio â llaw
- sigârs
- sigarilos
- tybaco pib
- tybaco pib ddŵr, fel shisha
- tybaco trwyn, a elwir yn gyffredin yn snisin (‘snuff’)
- tybaco cnoi
- tybaco wedi’i gynhesu
- blyntiau tybaco
Ar gyfer cynhyrchion smygu llysieuol, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- blyntiau llysieuol
- sigaréts llysieuol
- shisha llysieuol
Ar gyfer cynhyrchion fepio, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- dyfeisiau fepio, megis pennau fepio
- sylweddau i'w fepio, megis e-hylif
- cydrannau cysylltiedig, megis coiliau
Ar gyfer cynhyrchion nicotin, mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- codennau nicotin (codennau heb dybaco sy'n cynnwys powdr nicotin a roddir rhwng y deintgig a'r wefus)
- stribedi nicotin (ffilmiau toddadwy sy'n cynnwys nicotin a roddir ar y tafod neu rhwng y deintgig a'r wefus)
- perlau nicotin (peli bach toddadwy sy'n cynnwys nicotin sy'n toddi o dan y tafod)
Mae pob math o nicotin wedi'i gynnwys o fewn y cwmpas, gan gynnwys nicotin synthetig sy'n cael ei gynhyrchu mewn labordy, yn hytrach na'i echdynnu o blanhigion.
Nid yw'r cyfyngiadau'n gymwys i'r canlynol:
- cydrannau megis batris, dyfeisiau gwefru a gwifrau trydanol (mae'r cynhyrchion hyn wedi'u cynnwys o dan ddeddfwriaeth ehangach ynglŷn â diogelu defnyddwyr a diogelwch)
- dyfeisiau meddygol
- cynhyrchion meddyginiaethol
O 29 Hydref 2026, mae'r gwaharddiad yn disodli'r cyfyngiadau presennol ar beiriannau gwerthu sy'n gwerthu cynhyrchion sydd o fewn y cwmpas. Mae'r DU eisoes yn gwahardd peiriannau gwerthu tybaco. Mae'r Alban eisoes yn gwahardd peiriannau gwerthu cynhyrchion fepio.
Y peiriannau o dan sylw
Mae'r gwaharddiad yn cwmpasu'r canlynol:
- peiriannau y gall cwsmeriaid eu defnyddio i brynu unrhyw un o'r cynhyrchion sydd o fewn y cwmpas
- peiriannau sy'n dosbarthu unrhyw un o'r cynhyrchion hyn i gwsmer fel rhan o werthiant, hyd yn oed os nad yw'r taliad yn cael ei wneud wrth y peiriant
Mae hyn yn golygu y gellir defnyddio peiriant gwerthu fel storfa ddiogel, ar yr amod nad yw'n cael ei ddefnyddio i werthu na chyflenwi cynhyrchion i gwsmeriaid.
Er enghraifft, byddai peiriant gwerthu yn cael ei ganiatáu pe bai'n cael ei ddefnyddio i gyflenwi cynhyrchion i aelod o staff yn unig (nid yn uniongyrchol i'r cwsmer) pan fyddai'n ymdrin â gwerthiant i gwsmer (nid at ddefnydd personol yr aelod o staff).
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts yng Nghymru a Lloegr, gweler adran 3 o Ddeddf Tybaco a Fepio 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion fepio a chynhyrchion nicotin yng Nghymru a Lloegr, gweler adran 12 o Ddeddf Tybaco a Fepio 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts yn yr Alban, gweler adran 9 o Ddeddf Tybaco a Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2010 (ar gael o 29 Hydref 2026).
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts yng Ngogledd Iwerddon, gweler erthygl 4B o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1978 (ar gael o 29 Hydref 2026).
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu cynhyrchion fepio a chynhyrchion nicotin yng Ngogledd Iwerddon, gweler erthygl 4J o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1978 (ar gael o 29 Hydref 2026).
Ysbytai iechyd meddwl oedolion yng Nghymru a Lloegr
Bydd peiriannau gwerthu ar gyfer cynhyrchion fepio yn parhau i gael eu caniatáu
mewn lleoliadau ar gyfer oedolion sy'n gleifion mewnol iechyd meddwl yng
Nghymru a Lloegr. Mae hyn ar yr amod eu bod wedi'u lleoli mewn ardal o fewn ysbyty iechyd meddwl a fwriedir yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cleifion mewnol.
Mae hyn yn sicrhau y gall cleifion mewnol yn y lleoliadau hyn barhau i gael gafael ar gynhyrchion fepio er mwyn eu helpu i roi'r gorau i smygu neu reoli caethiwed i nicotin.
At y dibenion hyn, mae Deddf Tybaco a Fepio 2026 yn diffinio ysbyty iechyd meddwl fel:
an institution (or part of an institution) maintained wholly or mainly for the reception and treatment of inpatients who (a) are aged 18 or over, and (b) are suffering from mental disorder (within the meaning of the Mental Health Act 1983).
Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys i'r canlynol:
- cyfleusterau iechyd meddwl yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban
- unrhyw leoliadau clinigol eraill yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban
Cyfrifoldeb am gydymffurfio â'r gwaharddiad ar beiriannau gwerthu
Y person sy'n rheoli'r fangre sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r gwaharddiad ar beiriannau gwerthu. Nid yw perchennog y peiriant yn gyfrifol am gydymffurfio â'r gwaharddiad, oni bai ei fod yntau hefyd yn rheoli'r fangre.
Os yw'r person sy'n rheoli'r fangre am symud peiriant gwerthu o'r lleoliad hwnnw, dylai gysylltu â pherchennog neu weithredwr y peiriant i gytuno ar drefniadau priodol.
Fel arall, gall y person sy'n rheoli mangre symud peiriant gwerthu gwaharddedig i ardal nad yw'n hygyrch i gwsmeriaid. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran 'Y peiriannau o dan sylw'.
Gorfodi
Gall person sy'n cyflawni trosedd sy'n ymwneud â pheiriant gwerthu gael dirwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Mae euogfarn ddiannod yn ganfyddiad neu’n ble euog am drosedd mewn llys ynadon yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon neu mewn llys ynad heddwch neu’r llys siryf yn yr Alban.
Gall y ddirwy hon fod hyd at lefel 4 ar y raddfa safonol (£2,500 ar hyn o bryd) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, gall y ddirwy fod hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd). I gael rhagor o wybodaeth am raddfeydd safonol, gweler:
- adran 122 o Ddeddf Dedfrydu 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr
- adran 225 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995
- Gorchymyn Dirwyon a Chosbau (Gogledd Iwerddon) 1984
Fel arall, yn yr Alban, gall person sy'n cyflawni trosedd sy'n ymwneud â pheiriant gwerthu gael hysbysiad cosb benodedig o £200. Yng Ngogledd Iwerddon, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon, gall person gael hysbysiad cosb benodedig o £250 am gyflawni'r drosedd hon.
I gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau cosb benodedig, gweler y canllawiau ‘Cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin: hysbysiadau cosb benodedig’.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gwasanaethau safonau masnach lleol fydd yn gorfodi'r gwaharddiad hwn. Yng Ngogledd Iwerddon, cynghorau lleol fydd yn ei orfodi. Os byddwch yn amau bod mangre yn gweithredu gyda pheiriant gwerthu sy'n cyflenwi unrhyw un o'r cynhyrchion a restrir, cysylltwch â'ch:
