Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn sydd dan sylw yn y canllaw hwn

Mae’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael ei disodli gan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn digwydd dros 4 blynedd ysgol, rhwng mis Medi 2021 a mis Awst2025.

Mae’r canllaw hwn yn egluro sut a phryd y bydd plant yn symud o’r system AAA i’r system ADY.

Yn ystod y cyfnod gweithredu o 4 blynedd, er mwyn sicrhau bod plant yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, bydd y system ADY yn gweithredu ochr yn ochr â’r system AAA.

Felly, nes bod plentyn yn symud i’r system ADY, bydd y ddeddfwriaeth AAA a Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn parhau i fod yn gymwys a bydd plant yn parhau i elwa ar y gefnogaeth sydd ar gael drwy’r system AAA bresennol.

Pan fo’r canllaw yn dweud rhiant, mae hyn yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â dyletswydd gofal dros blentyn.

Pan fo’r canllaw yn dweud lleoliad a gynhelir, mae hyn yn golygu ysgol awdurdod lleol ac uned cyfeirio disgyblion awdurdod lleol.

Ffyrdd newydd o weithio

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Rydyn ni’n creu system ar gyfer nodi anghenion yn gynnar a mynd i’r afael â nhw yn gyflym, a system lle y mae pob dysgwr yn cael cefnogaeth i gyflawni ei botensial.

Rydyn ni’n newid y systemau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg
bellach i greu un system i gynorthwyo dysgwyr rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY.

Rydyn ni am sicrhau:

  • ein bod ni’n gwrando ar farn, dymuniadau a theimladau plant a’u rhieni pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch sut i helpu plant
  • bod y cymorth cywir yn cael ei roi ar waith yn gyflym i helpu plant sydd ag ADY
  • bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd i helpu plant sydd ag ADY, gan gynnwys addysg a gwasanaethau iechyd
  • bod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag ADY yn gallu mynd i’w lleoliad a gynhelir lleol, os yw’n briodol iddyn nhw
  • bod plant a’u teuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth dysgu hyd yn oed cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol
  • bod plant a’u rhieni yn deall y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sy’n cael ei chynnig
  • os nad yw plant a’u rhieni yn hapus â phenderfyniadau am ADY, mae hawliau yn y gyfraith i’w helpu i wneud rhywbeth am hynny
  • bod plant sydd ag ADY yn cael help yn Gymraeg, pan fo modd, os oes angen hynny arnyn nhw

Yr hyn sy’n newid?

Mae’r system ADY yn cryfhau pwysigrwydd darparu gwybodaeth fel bod plant a’u rhieni yn ymwneud cymaint â phosibl â phenderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Pan gyflwynir y system ADY, byddwch chi’n sylwi ar y newidiadau a ganlyn i’r hyn y mae pethau’n cael eu galw:

  • bydd anghenion addysgol arbennig (AAA) yn dod yn anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • bydd cydlynwyr anghenion addysgol arbennig (CAAA) yn dod yn gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
  • bydd darpariaeth addysgol arbennig yn dod yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)
  • bydd cynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (CAU) a datganiadau yn cael eu disodli gan gynllun newydd o’r enw cynllun datblygu unigol (CDU)

Bydd rhai pethau yn aros yr un fath. Mae ystyr ADY yr un fath ag ystyr AAA. 

Felly, os oes gan y plentyn AAA, mae’n debygol y bydd ganddo ADY.

Pryd a sut y bydd plant yn symud i’r system newydd

Bydd symud plant o’r system AAA i’r system ADY yn digwydd dros 4 blynedd ysgol. Rydyn ni’n cymryd 4 blynedd i sicrhau bod digon o amser i leoliadau a gynhelir ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen a llunio CDUau.

O 1 Medi 2021, mae lleoliadau a gynhelir ac awdurdodau lleol wedi bod angen dilyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY) a ‘Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ (Cod ADY).

Mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn rhoi rheolau ynglyn â sut mae’r system ADY yn gweithio ar gyfer lleoliadau a gynhelir, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd fel eu bod nhw’n gwneud yr hyn y mae’r gyfraith yn dweud wrthyn nhw am ei wneud.

Mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY wedi bod yn gymwys i bob plentyn Blwyddyn 10 ac iau yn y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 nad oedd wedi’u nodi yn blant sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) ar 1 Medi 2021 ac sydd yn ddiweddarach wedi’u nodi neu eu hystyried yn blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae hyn yn cynnwys plant sy’n cael eu haddysgu mewn lleoliad a gynhelir neu leoliad annibynnol, plant sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol a phlant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref.

O 1 Ionawr 2022, dechreuodd plant a oedd ar y system AAA symud i’r system ADY.

Mae plant yn cael eu symud fesul grwpiau blwyddyn ysgol.

Pan fydd plant mewn lleoliadau a gynhelir, sy'n derbyn SEP ar 1 Ionawr 2022 neu ar 1 Medi 2022, yn cael eu symud i'r system ADY

Tymor y gwanwyn a thymor yr haf ym mlwyddyn ysgol 2021 i 2022

Meithrin (M1, M2), Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10.

Blwyddyn ysgol 2022 i 2023

Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11.

Blwyddyn ysgol 2023 i 2024

Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8 a Blwyddyn 10.

Blwyddyn ysgol 2023 i 2025

Pob plentyn sy’n weddill nad ydynt eisoes wedi symud (y rhai yn y Meithrin, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024).

Bydd lleoliadau a gynhelir neu awdurdodau lleol yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybodaeth i chi ynglyn â phryd a sut y bydd hyn yn digwydd.

O 1 Medi 2022 ymlaen, bydd grwpiau ychwanegol o blant yn dechrau symud o’r system AAA i’r system ADY. Dyma’r grwpiau hyn:

  • plant sydd ag AAA nad ydyn nhw’n mynychu lleoliad a gynhelir
  • plant sydd â datganiad AAA
  • plant sy’n rhan o broses AAA, megis yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad AAA neu’n paratoi datganiad

Pan fydd yn rhaid i blant sy'n derbyn SEP trwy ddatganiadau symud i'r system ADY

Blwyddyn ysgol 2022 i 2023

Plant o dan oedran ysgol statudol, Derbyn, Blwyddyn 6, Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11.

Blwyddyn ysgol 2023 i 2024

Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 6, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10.

Blwyddyn ysgol 2023 i 2025

Pob plentyn sy’n weddill nad ydynt eisoes wedi symud (y rhai yn Blwyddyn 2, Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5, Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9 yn y flwyddyn ysgol 2023 i 2024)

Bydd lleoliadau a gynhelir neu awdurdodau lleol yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â pha bryd a sut y bydd hyn yn digwydd.

O 1 Medi 2022 ymlaen, bydd plant sydd ag AAA nad ydyn nhw’n mynychu lleoliad a gynhelir a phlant a oedd â datganiad AAA ar y gweill yn symud yn awtomatig o’r system AAA i’r system ADY.

Sut mae lleoliadau a gynhelir ac awdurdodau lleol yn symud plant i’r system ADY

Mae symud o’r system AAA i’r system ADY yn gallu cael ei wneud mewn un o dair ffordd.

Gellir gwneud hynny drwy:

  • rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU
  • rhoi hysbysiad ADY
  • neu symud yn awtomatig, mae hyn yn golygu na roddir hysbysiad a bod y plentyn yn symud i’r system newydd oherwydd bod rhywbeth wedi newid

Hysbysiad CDU a hysbysiad Dim CDU

Mae hysbysiad CDU yn golygu bod lleoliad a gynhelir neu awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan blentyn ADY ac y bydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn.

Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu bod y lleoliad a gynhelir neu’r awdurdod lleol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn ADY ac na fydd CDU yn cael ei wneud ar gyfer y plentyn.

Ar adegau, efallai y bydd plentyn yr oedd ganddo AAA yn cael hysbysiad Dim CDU gan fod ei anghenion wedi newid ac nad oes angen cymorth ychwanegol arno mwyach i’w helpu i ddysgu.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn symud o’r system AAA i’r system ADY pan fydd eu lleoliad a gynhelir neu eu hawdurdod lleol yn rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU iddyn nhw (yn dibynnu ar anghenion y plentyn).

Lleoliadau a gynhelir fydd yn rhoi’r rhan fwyaf o’r hysbysiadau CDU neu’r hysbysiadau Dim CDU ond weithiau bydd awdurdod lleol yn eu rhoi.

Bydd awdurdodau lleol yn rhoi hysbysiadau CDU neu hysbysiadau Dim CDU (yn dibynnu ar anghenion y plentyn) i blant a’u rhieni sydd â datganiadau, plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg (fel uned cyfeirio disgyblion ac ysgol).

Symud yn awtomatig o’r system AAA i’r system ADY

Mewn rhai achosion, mae newid yn amgylchiadau’r plentyn yn golygu y bydd y plentyn yn symud yn awtomatig o’r system AAA i’r system ADY. Bydd y plentyn yn symud i’r system ADY ar ddyddiad y newid yn yr amgylchiadau.

Pan fo plentyn yn symud yn awtomatig o’r system AAA i’r system ADY, bydd eich lleoliad a gynhelir neu eich awdurdod lleol yn rhoi gwybod i chi.

Hysbysiadau ADY

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. Nid yw hysbysiad ADY yr un fath â hysbysiad CDU gan nad yw’r hysbysiad ADY yn golygu gwneud penderfyniad ynghylch ADY y plentyn.

Mae hysbysiad ADY yn caniatáu i awdurdodau lleol symud plentyn o’r system AAA i’r system ADY y tu allan i’r blynyddoedd gorfodol y cyfeirir atyn nhw uchod (os bydd amgylchiadau eithriadol yn codi).

Sut y gall plant a’u rhieni ofyn am gael symud plentyn i’r system ADY yn gynharach nag a gynlluniwyd

O 1 Ionawr 2022 ymlaen, gall plant hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 10 mewn lleoliad a gynhelir sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu gan yr ysgol neu weithredu gan yr ysgol a mwy, a’u rhieni, ofyn am gael symud i’r system ADY unrhyw bryd.

O 1 Medi 2022, gall y rhan fwyaf o blant hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 11 sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig, lle bynnag y maen nhw’n cael eu haddysgu, ofyn am gael symud i’r system ADY unrhyw bryd.

Gall plant a’u rhieni wneud hyn drwy ofyn i’r lleoliad a gynhelir neu’r awdurdod lleol eu symud i’r system ADY yn gynharach nag a gynlluniwyd.

Gellir gwneud hyn yn ysgrifenedig (megis mewn e-bost neu neges) neu ar lafar (megis wyneb yn wyneb neu drwy alwad ffôn).

Gall y lleoliad a gynhelir neu’r awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU.

Rhaid i awdurdod lleol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim CDU o fewn 15 diwrnod gwaith neu cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol (yn dibynnu ar amgylchiadau’r plentyn).

Fodd bynnag, nid yw’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn gymwys yn yr amgylchiadau a ganlyn:

  • mae apêl ar y gweill mewn perthynas â phlentyn â datganiad
  • mae achos cyn ddatganiad ar y gweill mewn perthynas â phlentyn (ystyr achos cyn ddatganiad ar y gweill yw pan na fo gan blentyn ddatganiad ond mae’n ceisio cael datganiad)
  • mae’r plentyn eisoes wedi symud i’r system ADY

Mewn rhai amgylchiadau, gall plentyn neu ei riant ofyn i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ADY. 

Mewn achos felly, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ADY o fewn 10 diwrnod gwaith i’r cais.

Beth os nad ydw i’n cytuno â phenderfyniad?

Weithiau, mae anghytundebau’n gallu codi. Y rhan fwyaf o’r amser, gellir datrys anghytundebau drwy drafod y broblem gyda’r lleoliad a gynhelir neu’r awdurdod lleol. Os ydych chi’n anhapus ag unrhyw beth, dylech chi leisio eich safbwyntiau cyn gynted â phosibl.

Os yw eich plentyn yn mynychu lleoliad a gynhelir, dylech chi bob amser siarad â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yr ysgol cyn gynted ag y bydd gennych chi bryderon.

Drwy gydweithio bydd cyfleoedd i drafod unrhyw broblemau a bydd hynny’n helpu i’w datrys yn gynnar.

Os ydych chi dal i deimlo’n anhapus, gallwch chi siarad â’ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach. Gallwch chi neu eich plentyn ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried penderfyniad a wnaed gan ysgol.

Os nad yw eich plentyn yn mynychu lleoliad a gynhelir, gallwch chi siarad â’ch awdurdod lleol i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi.

Os ydych chi neu’ch plentyn yn anghytuno â phenderfyniadau a wnaed gan eich awdurdod lleol, gallwch chi wneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru ynglyn â rhai pethau.

Cefnogaeth a gwybodaeth bellach

Gallwch chi ddysgu mwy am eich hawliau a’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael i chi o dan y system ADY newydd o ‘Canllaw i rieni am hawliau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)’.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, mae llawer o sefydliadau gwirfoddol sy’n helpu plant a’u teuluoedd.

Nodir rhai o’r prif sefydliadau isod:

  • SNAP Cymru
  • Cymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar
  • Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru