Neidio i'r prif gynnwy

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae’r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyfraniad gwerth o leiaf 15%.

Mae awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Grwpiau Cartrefi Cymunedol hefyd yn gymwys i geisio am gyllid.

Cymhwysedd

Gall unrhyw un wneud cais am grant (ar yr amod bod yr awdurdod lleol cysylltiedig wedi dewis i gymryd rhan yn y cynllun). Fodd bynnag, i fod yn gymwys:

  • rhaid bod yr eiddo wedi’i gofrestru yn wag gyda’r awdurdod lleol am o leiaf 12 mis;
  • rhaid bod yr eiddo o dan berchnogaeth yr ymgeisydd, neu ei fod yn y broses o’i brynu pan fo’r cais yn cael ei wneud; ac
  • os yn llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith a hynny fel ei brif a’i unig breswylfa.
  • Gall rhai awdurdodau lleol fod â meini prawf cymhwysedd ychwanegol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhain ar dudalen y cais.

Chwiliwch a yw’r grant ar gael yn ardal eich awdurdod lleol.

Os na allwch chi ddod o hyd i’ch awdurdod lleol ar y rhestr, efallai fod yr awdurdod wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun. Yn y sefyllfa hon, anogir chi i gysylltu â’ch awdurdod lleol yn uniongyrchol i drafod pa opsiynau sydd ar gael i chi yn eich ardal.

Gwneud cais

Gwneud cais am grant cartrefi gwag.

Neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflawni’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rhif ffôn: 01443 494712

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan

Cynllun Grant Cartrefi Gwag: awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan
Awdurdodau Lleol sydd wedi cadarnhau eu bod yn cymryd rhan: yn cymryd ceisiadau Awdurdodau Lleol sydd wedi cadarnhau eu bod yn cymryd rhan: yn aros am gymeradwyaeth Cytundeb mewn egwyddor neu yn ystyried cymryd rhan 
Rhondda Cynon Taf Ceredigion* Conwy
Sir Fynwy Bro Morgannwg Sir Ddinbych
Gwynedd*   Wrecsam
Ynys Môn*    
Caerffili    
Blaenau Gwent    
Sir Gaerfyrddin    
Pen-y-bont ar Ogwr    
Castell-nedd Port Talbot    
Powys    
Abertawe*    
Sir Benfro    
Merthyr Tudful    

*Mae meini prawf cymhwysedd ychwanegol yn gymwys. Gweler y ffurflen gais am ragor o wybodaeth.