Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lenwi’r ffurflen gais hon os yw’n bwriadu hawlio rhyddhad treth ar gyfer defnyddio deunydd wrth wneud gwaith adfer safle.

Mae’n rhaid gwneud y cais cyn dechrau ar y gwaith adfer.

Cyn i chi ddechrau arni

Bydd angen y wybodaeth ganlynol er mwyn llenwi'r ffurflen hon: 

  • eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 
  • manylion eich busnes cofrestredig a’r safleoedd tirlenwi rydych chi'n eu gweithredu, gan gynnwys cyfeiriad pob safle tirlenwi awdurdodedig neu ddisgrifiad ohono
  • dogfennau ategol sy'n esbonio manylion yr ardal rydych chi’n bwriadu ei hadfer, ac amodau'r drwydded amgylcheddol neu’r caniatâd cynllunio

Rhagor o arweiniad i helpu i lenwi’r ffurflen hon

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.