Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau a chymorth i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir sydd am breswylio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru yn gartref i filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir sy’n cyfoethogi ein cymunedau ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n llwyddiant economaidd.

Rydyn ni’n benderfynol bod dinasyddion sydd wedi dewis gwneud eu cartref yng Nghymru’n parhau i deimlo’n aelodau gwerthfawr o’n cymunedau. Rydyn ni am iddyn nhw fod yn dawel eu meddwl bod Cymru’n wlad sy’n eu croesawu.

Rydyn ni’n ariannu Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law i roi help a chyngor am ddim ar fewnfudo i’r dinasyddion hynny sydd am wneud eu cartref yng Nghymru.

Y dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog wedi mynd heibio

Dydd Mercher, 30 Mehefin 2021, oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd, a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Os gwnaethoch gais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog cyn y dyddiad cau, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd eich hawliau'n cael eu diogelu hyd nes y penderfynir ar eich cais. Byddwch yn derbyn Tystysgrif Ymgeisio y gallwch ei defnyddio i ddangos tystiolaeth o'ch hawliau.

Os nad oeddech yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 defnyddiwch y ddolen isod i weld rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer byw neu astudio yn y DU.

The UK’s points-based immigration system: information for EU citizens ar GOV.UK

Mae amser o hyd: Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau

Os oeddech yn gymwys ar gyfer EUSS ond heb wneud cais cyn 30 Mehefin a bod gennych sail resymol dros golli'r dyddiad cau, mae amser o hyd i chi wneud cais hwyr.

Mae llawer o resymau gwahanol y gellir eu cynnwys fel sail resymol dros beidio â gwneud cais erbyn y dyddiad cau.

Mae canllawiau ar gael ar GOV.UK ar sut i wneud cais, ynghyd ag enghreifftiau o resymau. Os oes gennych reswm nad yw wedi'i restru, gallwch wneud cais o hyd a bydd eich rheswm yn cael ei ystyried.

Eich hawliau

Os ydych yn un o ddinasyddion yr UE, yr AEE neu'r Swistir a'ch bod yn preswylio'n gyfreithlon yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, bydd eich hawliau'n cael eu diogelu.

Os ydych yn berson cymwys sydd wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd sefydlog drwy’r EUSS a chyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin, bydd gennych yr un hawliau parhaus i weithio, astudio a chael mynediad at wasanaethau a budd-daliadau cyhoeddus ag a oedd gennych cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma’r hawliau dinasyddion perthnasol y bydd gennych hawl iddynt o hyd:

  • Preswylio - mae hyn yn cynnwys hawliau i breswylio, gadael y wlad a dod yn ôl.
  • Hawliau gweithwyr a phobl hunangyflogedig - mae hyn yn cynnwys hawliau gweithwyr, personau hunangyflogedig a gweithwyr trawsffiniol
  • Cydgydnabyddiaeth i gymwysterau proffesiynol - mae hyn yn cynnwys yr hawl i gymwysterau proffesiynol cydnabyddedig barhau i gael eu cydnabod.
  • Cydgysylltu systemau nawdd cymdeithasol - mae'r rhain yn cynnwys budd-daliadau, mynediad at addysg, tai a gofal iechyd.

Canllawiau ar hawliau dinasyddion yr UE ar LLYW.CYMRU
Mae rhagor o wybodaeth am Hawliau Dinasyddion yr UE ar gael ar dudalen we'r Awdurdod Monitro Annibynnol.

Cymorth pellach

Os oes angen rhagor o help arnoch chi neu'ch teulu, mae nifer o sefydliadau yng Nghymru a all roi cyngor a chymorth annibynnol am ddim i chi.

Mae EUSSWales.com yn cynnwys mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ichi ac yn rhoi manylion cyswllt llawn ar gyfer sawl sefydliad cynghori, gan gynnwys rhifau ffôn, i unrhyw un a hoffai siarad â rhywun ynglŷn â'u hamgylchiadau.

Cyflogwyr dinasyddion yr UE

Mae pecyn cymorth ar gael sy’n rhoi adnoddau a gwybodaeth i gyflogwyr er mwyn iddynt allu rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE a’u teuluoedd ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.