Sut i reoli heintiau anadlol ac achosion o COVID-19 mewn lleoliadau addysgol arbennig.
Cynnwys
Cyd-destun
Wrth inni nesáu at yr hydref a’r gaeaf, rydyn ni’n disgwyl gweld cynnydd mewn cylchrediad heintiau anadlol acíwt.
Bu cynnydd yng nghyfraddau achosion COVID-19 a derbyniadau i ysbytai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn ystod yr wythnosau diwethaf, sy’n peri pryder. Gall y cynnydd hwn fod o ganlyniad i newidiadau i’r amrywiolion sy’n cylchredeg gan gynnwys amrywiolyn newydd sydd wedi’i ganfod – BA.2.86.
Mae’n debygol na fyddwn yn deall yn glir beth yw difrifoldeb a throsglwyddadwyedd yr amrywiolyn hwn am sawl wythnos eto, fodd bynnag mae rhagofalon y gallwn eu rhoi ar waith nawr gyda’r bwriad o gyfyngu ar ledaeniad heintiau a’r effaith ar y system iechyd a gofal.
Rydyn ni’n parhau i fonitro epidemioleg BA.2.86 ac yn ystyried dewisiadau posibl ar gyfer mesurau rhagofalus ychwanegol.
Mae’r cyngor presennol wedi’i nodi isod.
Cyngor
Masgiau
- Dylai staff sy’n gweithio’n agos gyda dysgwyr agored i niwed gael hyfforddiant llawn ar ddefnyddio masgiau wyneb, gorchuddion wyneb a chyfarpar diogelu personol arall, yn enwedig os ydynt yn gofalu am ddysgwr sy’n defnyddio anadlydd.
- Dylai staff wisgo masgiau wyneb pan fyddant yn gofalu am ddysgwyr agored i niwed yr amheuir sydd â COVID-19 a’r ffliw.
- Efallai yr hoffech hefyd ystyried gofyn i unigolion symptomatig wisgo masg wyneb (os gellir goddef hyn) a’i gwneud yn ofynnol i ymwelwyr wisgo masgiau wyneb os oes achosion/brigiad o achosion yn yr ysgol.
Presenoldeb
- Cynghorir staff sydd â symptomau o haint ar y system anadlu gan gynnwys COVID-19 a/neu sydd â thymheredd uchel, i aros gartref a rhoi gwybod i’w cyflogwr cyn gynted â phosibl.
- Pan fyddant yn teimlo’n well ac nad oes ganddynt wres uchel, a’u bod yn barod i ddychwelyd i’r gwaith, efallai yr hoffent drafod gyda’u cyflogwr sut y gallant leihau unrhyw risg gan y gallant fod yn heintus o hyd.
- Dylid hefyd cynghori dysgwyr gyda symptomau o haint ar y system anadlol i aros gartref a pheidio â dychwelyd i’r lleoliad nes eu bod yn teimlo’n well / heb dymheredd.
Brechu
- Un o’n prif amddiffyniadau i leihau effaith COVID-19 a’r bygythiad o amrywiolyn newydd yw brechu. Dechreuodd Rhaglen Brechiadau Atgyfnerthu’r Hydref yng Nghymru ar 11 Medi ac mae’n bwysig bod y rhai hynny sy’n gymwys yn manteisio ar y cynnig, gan gynnwys staff sy’n gweithio mewn ysgolion arbennig.
- Bydd hyn yn helpu i atal gweithwyr rheng flaen rhag mynd yn sâl, bydd yn lleihau trosglwyddiad heintiau i unigolion agored i niwed, a bydd hefyd yn diogelu’r system iechyd a gofal cymdeithasol rhag cael ei llethu.
Rhagor o gyngor a chanllawiau
Am ragor o gyngor a chanllawiau darllenwch 'Cyngor i Staff Iechyd a Gofal ar Feirysau Anadlol gan gynnwys COVID-19' neu cysylltwch â'ch tîm diogelu iechyd rhanbarthol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
abb.healthprotection@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
bcu.healthprotectioncoordinationteam@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
ttpleadsrs@valeofglamorgan.gov.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
powys.healthprotection@wales.nhs.uk